Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) nodyn cyngor newydd i helpu Practisau Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr i ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb yn y gwasanaethau GIG y maent yn eu darparu. Mae’n cynnwys cyngor ar warchod rhag allgáu digidol.
Mae gan bob darparwr gofal iechyd yn y sector cyhoeddus ddyletswydd i sicrhau nad yw ei bolisïau yn arwain at wahaniaethu anghyfreithlon ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da. Fodd bynnag, mae risgiau y gall digideiddio ei gwneud yn anos cael mynediad at wasanaethau hanfodol i rai cleifion, gyda chanlyniadau andwyol i’w hiechyd.
Mae enghreifftiau o gamau y gallai meddygon teulu eu cymryd i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn cynnwys:
- sefydlu grŵp defnyddwyr cleifion anabl i gael eu barn am system ymgynghori ar-lein arfaethedig.
- casglu tystiolaeth am brofiad cleifion sy’n rhannu nodwedd warchodedig er mwyn deall eu hanghenion.
- creu asesiadau effaith cydraddoldeb i sicrhau nad yw polisïau neu brosesau yn creu rhwystrau i gyfranogiad nac yn rhoi unrhyw grwpiau gwarchodedig dan anfantais.
Bydd nodyn cyngor yr EHRC yn cefnogi meddygon teulu i sicrhau eu bod yn cymryd y mesurau angenrheidiol i atal allgáu digidol a chyflawni eu rhwymedigaethau PSED.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae Practisau Cyffredinol y GIG yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n destun pryder bod adroddiadau diweddar gan reoleiddwyr yn dangos y gall digideiddio atal rhai cleifion rhag ceisio cymorth pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
“Mae’n ofynnol i bob practis meddyg teulu sy’n cynnig gwasanaethau’r GIG yng Nghymru a Lloegr gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Gall digideiddio wella ansawdd gwasanaethau ac effeithlonrwydd gwasanaethau, ond ni fydd pawb yn gallu cael gafael arnynt. Rhaid i bractisau weithredu i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau a allai fel arall atal rhai grwpiau rhag cael mynediad at wasanaethau hanfodol.
“Rhan o’n rôl fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain yw gorfodi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Bydd y cyngor a gyhoeddwyd gennym heddiw yn helpu meddygon teulu i ddeall effaith bosibl eu polisïau ar bobl â nodweddion gwarchodedig a gwneud penderfyniadau am y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu gyda’u rhwymedigaethau cydraddoldeb mewn golwg. Pan fyddwn yn canfod diffyg cydymffurfio â’r ddyletswydd, byddwn yn gweithredu.”
Er mwyn i feddygfeydd teulu ddarparu gofal da, cynhwysol, mae nodyn cyngor yr EHRC yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i wasanaethau digidol fod yn hawdd eu cyrraedd, gyda llwybrau amgen ar gael hefyd.
Mae ymchwil yn dangos y gall darparu gwasanaethau ar-lein fod yn fwy o anfantais i rai grwpiau nag eraill. Mae pobl hŷn ac anabl, rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig, y rhai â Saesneg cyfyngedig, neu'r rhai o ardaloedd difreintiedig i gyd yn fwy tebygol o gael anawsterau wrth ddefnyddio systemau ar-lein.
Nid yw tua 3.9 miliwn o bobl dros 65 oed ym Mhrydain yn defnyddio'r rhyngrwyd gartref, o gymharu â dim ond 320,000 o'r rhai 35 i 44 oed. Gall grwpiau iau gael eu heffeithio hefyd gydag un o bob pump o ddefnyddwyr 35 i 44 yn disgrifio eu hunain fel 'defnyddwyr cul'.
Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, mae'r EHRC wedi cynhyrchu cyngor i gefnogi meddygon teulu i atal gwahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn y grwpiau hyn a sicrhau bod buddion gwirioneddol yn cael eu darparu i gymunedau ledled Prydain.
Darllenwch y nodyn cyngor: Sut mae’r PSED yn berthnasol i bractisau meddygon teulu
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com