Deddf Cydraddoldeb 2010

Wedi ei gyhoeddi: 6 Awst 2018

Diweddarwyd diwethaf: 6 Awst 2018

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Pwrpas y Ddeddf Cydraddoldeb

Daeth Deddf Cydraddoldeb newydd i rym ar 1 Hydref 2010. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dwyn ynghyd dros 116 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth mewn un Ddeddf unigol fel ei bod yn haws ei defnyddio. Mae’n nodi’r nodweddion personol a warchodir gan y gyfraith a’r ymddygiad sy’n anghyfreithlon. Bydd symleiddio deddfwriaeth a chysoni amddiffyniad ar gyfer yr holl nodweddion a gwmpesir yn helpu Prydain i ddod yn gymdeithas decach, gwella gwasanaethau cyhoeddus, a helpu busnesau i berfformio'n dda.

Y naw prif ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi uno yw:

  • Deddf Cyflog Cyfartal 1970
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006
  • Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007

Pwy mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eu hamddiffyn

Mae pawb ym Mhrydain yn cael eu hamddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw:

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Gwybodaeth berthnasol ar wefannau eraill

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082