Beth yw'r Ddeddf Cydraddoldeb?

Wedi ei gyhoeddi: 15 Mawrth 2016

Diweddarwyd diwethaf: 15 Mawrth 2016

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Cyflwyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Daeth Deddf Cydraddoldeb newydd i rym ar 1 Hydref 2010.

Mae’n dwyn ynghyd dros 116 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth mewn un Ddeddf.

Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.

Mae’n rhoi cyfraith gwahaniaethu i Brydain sy’n amddiffyn unigolion rhag triniaeth annheg ac yn hyrwyddo cymdeithas deg a mwy cyfartal.

Y naw prif ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi uno yw:

  • Deddf Cyflog Cyfartal 1970
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006
  • Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007

Gweler Deddf Cydraddoldeb lawn 2010.

Fel corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain, mae ein gwaith yn cael ei yrru gan gred syml: os caiff pawb gyfle teg mewn bywyd, rydym i gyd yn ffynnu.

Darganfyddwch beth rydym yn ei wneud i amddiffyn a hyrwyddo cydraddoldeb ym Mhrydain.

Datblygiadau yn y Ddeddf Cydraddoldeb

Mae elfennau pellach yn y Ddeddf na ddaeth i rym ym mis Hydref 2010, ond a allai wneud yn y dyfodol.

Rydym yn aros am ddiweddariadau gan y llywodraeth ar y datblygiadau hyn.

Enghreifftiau yw:

  • dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i rannau cyffredin o fangreoedd lesddaliadol a chyfunddaliadol a rhannau cyffredin yn yr Alban
  • darpariaethau sy'n ymwneud â chymhorthion ategol mewn ysgolion
  • adroddiadau amrywiaeth gan bleidiau gwleidyddol
  • darpariaethau ynghylch hygyrchedd tacsis
  • gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oed mewn gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus
  • partneriaethau sifil ar safleoedd crefyddol

Yr elfennau o’r Ddeddf na fydd yn dod i rym yw:

  • gwahaniaethu deuol: mae'r llywodraeth wedi penderfynu peidio â dod â hyn i rym fel ffordd o leihau cost rheoleiddio i fusnes
  • anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon