Codau Ymarfer

Wedi ei gyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2019

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae ein Codau Ymarfer yn ymdrin â’r hyn y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei olygu mewn termau manwl gywir a thechnegol. Nhw yw’r ffynhonnell awdurdodol o ganllawiau i unrhyw un sydd eisiau dadansoddiad trylwyr o fanylion y ddeddfwriaeth.

Daeth tri Chôd Ymarfer yn gyfraith ar 6 Ebrill 2011

Mae'r Codau Ymarfer yn rhoi esboniadau manwl o'r darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb ac yn cymhwyso'r cysyniadau cyfreithiol i sefyllfaoedd bob dydd. Bydd hyn yn cynorthwyo llysoedd a thribiwnlysoedd wrth ddehongli’r gyfraith ac yn helpu cyfreithwyr, cynghorwyr, cynrychiolwyr undebau llafur, adrannau adnoddau dynol ac eraill sydd angen gweithredu’r gyfraith.

Gellir defnyddio’r Codau Ymarfer fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol a ddygir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Rhaid i lysoedd a thribiwnlysoedd ystyried unrhyw rannau o’r Codau sy’n ymddangos yn berthnasol i gwestiynau sy’n codi mewn achosion.

Cyflogaeth

Rhaid i lysoedd a thribiwnlysoedd ystyried y Cod Ymarfer hwn mewn achosion sy'n ymwneud â gwahaniaethu mewn cyflogaeth a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith.

Ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl â’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010:

  • mewn cyflogaeth
  • wrth chwilio am waith
  • wrth ymwneud â galwedigaethau neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith

Darllenwch y Cod Ymarfer llawn ar Gyflogaeth.

Cyflog cyfartal

Rhaid i lysoedd a thribiwnlysoedd ystyried rhannau perthnasol o’r Cod Ymarfer hwn wrth ystyried hawliad cyflog cyfartal.

Fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, rhaid i ddynion a menywod yn yr un gyflogaeth sy’n cyflawni gwaith cyfartal dderbyn cyflog cyfartal, oni bai y gellir cyfiawnhau unrhyw wahaniaeth mewn cyflog.

Darllenwch y Côd Ymarfer llawn ar gyflog cyfartal.

Gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau

Rhaid i lysoedd a thribiwnlysoedd ystyried y Cod Ymarfer hwn mewn achosion sy’n ymwneud â gwahaniaethu mewn:

  • gwasanaethau
  • awdurdodau cyhoeddus sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus
  • cymdeithasau aelodaeth

Ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl â’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf wrth ddefnyddio unrhyw wasanaeth a ddarperir yn gyhoeddus neu’n breifat, p’un a yw’r gwasanaeth hwnnw am dâl ai peidio.

Darllenwch y Cod Ymarfer llawn ar wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau.

Diweddariadau tudalennau

Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol

Gall cynrychiolwyr cyfreithiol ffonio'r Llinell Gymorth Gyfreithiol (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Lloegr: 0161 829 8190

Cymru: 029 2044 7790

Gellir cysylltu â'r Llinell Gymorth Gyfreithiol hefyd yn legalrequest@equalityhumanrights.com