Gan weithio gyda chyflogwyr, rydym wedi datblygu set o gwestiynau cyffredin, sy’n canolbwyntio ar rai o’r prif broblemau mae cyflogwyr yn eu hwynebu heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Amser i ffwrdd o’r gwaith – seibiau yn ystod oriau gwaith a chyfnodau estynedig o absenoldeb
- Recriwtio – ceisiadau a allai gael eu gwneud mewn cyfweliad
- Gofynion bwyd a dietegol – darparu bwyd a diod yn y gwaith a phroblemau ynghylch ymprydio
- Codau gwisg a symbolau crefyddol – gwrthwynebiadau neu geisiadau i newid codau gwisg neu wisgo symbolau crefyddol
- Optio allan o ddyletswyddau gwaith – trafod cig neu alcohol neu wrth gyflenwi gwasanaeth
- Mynegi barnau a chredoau personol yn y gwaith – trafodaethau yn y gweithle, barnau a allai wahaniaethu yn erbyn neu aflonyddu ar grŵp arall
Dyma rai o’r problemau mwyaf cyffredin mae cyflogwyr wedi rhoi gwybod inni amdanynt ond, yn aml, mae’n fater o ddefnyddio’r un ymagwedd a’i gweithredu i sefyllfaoedd gwahanol. Gweler ein hofferyn gwneud penderfyniadau i’ch helpu i drafod ceisiadau gan gyflogeion.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
24 Mawrth 2017
Diweddarwyd diwethaf
24 Mawrth 2017