Crefydd neu gred: beth ydy hi a pham mae hi’n bwysig?

Wedi ei gyhoeddi: 7 Ebrill 2017

Diweddarwyd diwethaf: 7 Ebrill 2017

Mae crefydd neu gred yn un o’r naw nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae gan bobl ddiogeliad cyfreithiol rhag bod yn destun gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred, neu ddiffyg crefydd neu gred, dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae ganddynt hefyd hawl ddiamod i fod â chrefydd neu gred (gyda hawliau amodol i ddangos hynny) dan Erthygl 9 Deddf Hawliau Dynol 1998.

Mae’r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn manylu ar yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod am grefydd neu gred. Nid oes disgwyl i gyflogwyr fod yn arbenigwyr ar grefydd neu gred. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd defnyddio synnwyr cyffredin wrth ymdrin â’r mater yn eich helpu i ddatrys problemau a allai godi ac yn eich atal rhag gweithredu’n anghyfreithlon.

Datblygwyd ein hadnoddau a rhoddwyd prawf arnynt gyda chyflogwyr a chynrychiolwyr sefydliadau crefydd neu gred.

Diweddariadau tudalennau