Heddiw, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) becyn cymorth wedi’i ddiweddaru i roi cyngor clir i gyflogwyr ar yr hyn y dylent ei wneud i atal gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith. Mae’r canllawiau diweddaraf hyn yn adlewyrchu newidiadau i’r gyfraith sydd wedi dod i rym y mis hwn (Ebrill 2024).
Mae’r pecyn cymorth yn rhoi arweiniad manwl ar ba gamau y mae’n rhaid i gyflogwyr eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl i’w staff gymryd absenoldeb mamolaeth, i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu.
Mae’r pecyn cymorth yn nodi’r newidiadau y bydd yn rhaid i gyflogwyr eu gwneud, sy’n cynnwys:
- Ymestyn amddiffyniad rhag colli swydd i gynnwys menywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir.
- Cynnig cyflogaeth amgen addas i fenywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir mewn sefyllfa o golli swydd, gan gynnwys cael blaenoriaeth dros weithwyr eraill o ran rolau amgen.
- Darparu'r hawl i ofyn am weithio hyblyg o'r diwrnod cyntaf o gyflogaeth.
- Cynyddu hyblygrwydd o ran sut y gellir cymryd absenoldeb tadolaeth.
Dylai pob cyflogwr adolygu’r cyngor a sicrhau bod eu polisïau’n cydymffurfio’n llawn â’r gyfraith, fel bod staff beichiog, a staff sy’n cymryd absenoldeb rhiant, yn cael yr amddiffyniadau llawn y mae ganddynt hawl iddynt.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Fel corff gwarchod cydraddoldeb Prydain, mae gennym ddyletswydd i egluro’r gyfraith ynghylch beichiogrwydd a hawliau mamolaeth i gyflogwyr, gweithwyr a’r cyhoedd.
“Cyflogwr sy’n deall eu dyletswyddau cyfreithiol yw sylfaen cydraddoldeb yn y gweithle. Mae ein pecyn cymorth diwygiedig yn esbonio’r rhwymedigaethau cyfreithiol hynny ac yn rhoi cyngor ymarferol i gyflogwyr ar y ffordd orau o gefnogi menywod beichiog yn y gwaith a sicrhau na wahaniaethir yn erbyn y staff hynny sy’n cymryd absenoldeb rhiant.”
Nodiadau i olygyddion
- Mae Deddf Diogelu Rhag Colli Swydd (Beichiogrwydd ac Absenoldeb Teuluol) 2023 yn cyflwyno’r amddiffyniad estynedig ac mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu ac Absenoldeb Rhiant a Rennir (Diwygio) 2024 yn diwygio Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 i ddod â’r amddiffyniad hwnnw i rym ar 6 Ebrill.
- Cyflwynodd Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth (Gweithio Hyblyg) 2023 ddiwygiadau i’r drefn gweithio hyblyg ac mae Rheoliadau Gweithio Hyblyg (Diwygio) 2023 yn dod â’r newidiadau hynny i rym ar 6 Ebrill.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com