Beichiogrwydd a mamolaeth: beichiogrwydd

Wedi ei gyhoeddi: 21 Rhagfyr 2023

Diweddarwyd diwethaf: 21 Rhagfyr 2023

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

I bwy mae’r canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn ar gyfer cyflogwyr.

Yr hyn sy’n cael ei gwmpasu yn y canllaw hwn

Mae’r canllaw hwn yn cwmpasu meysydd:

  • gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
  • absenoldeb a salwch
  • iechyd a diogelwch
  • gofynion cyn absenoldeb mamolaeth
  • blaen-gynllunio

Crynodeb o’ch goblygiadau allweddol

Recriwtio

Rhaid i chi beidio â gwrthod ystyried, methu rhoi ar restr fer, neu gyflogi rhywun ar amodau llai ffafriol oherwydd beichiogrwydd, beichiogrwydd disgwyliedig neu absenoldeb mamolaeth diweddar.   

Gwarchodaeth rhag diswyddo ac ymdriniaeth niweidiol yn ystod beichiogrwydd 

Rhaid i chi sicrhau nad yw cyflogai yn cael ei drin yn anffafriol, ei ddiswyddo na’i ddewis ar gyfer dileu swydd oherwydd beichiogrwydd neu resymau’n ymwneud â beichiogrwydd yn cynnwys salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl ar gyfer gofal cynenedigol

Rhaid i chi ganiatáu i gyflogai beichiog gymryd cyfnod rhesymol o amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gofal cynenedigol. Mae gan dadau a phartneriaid hawl gyfreithiol i gymryd amser i ffwrdd â thâl ar gyfer hyd at ddau apwyntiad cynenedigol.

Salwch yn ystod beichiogrwydd

Mae’n rhaid i chi gofnodi absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar wahân i fathau eraill o absenoldeb salwch.

Iechyd a Diogelwch

Mae’n rhaid i chi gynnal asesiad risg unigol a chymryd camau rhesymol er mwyn cael gwared ar neu leihau unrhyw risg a adwaenwyd gennych.

Hysbysiad ar gyfer absenoldeb a thâl mamolaeth

Rhaid i’ch cyflogai roi rhybudd i chi o’i bwriad i gymryd absenoldeb mamolaeth erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad disgwyl neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.

Rhaid i chi gadarnhau’r dyddiad dychwelyd disgwyliedig o absenoldeb mamolaeth o fewn 28 diwrnod i dderbyn hysbysiad eich cyflogai. Rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig.

 

Gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn ystod beichiogrwydd

Triniaeth anffafriol yw pan fydd cyflogai yn cael eu trin yn wael oherwydd eu beichiogrwydd neu eu salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, neu oherwydd eu bod yn ceisio cymryd absenoldeb mamolaeth. Anffafriol yw’r term cyfreithiol. 

Mae’n cael ei ystyried yn wahaniaethu anghyfreithiol ar sail beichiogrwydd os yw cyflogai yn cael ei drin yn anffafriol:

  • oherwydd beichiogrwydd
  • oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, neu
  • am reswm sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Mae’n cael ei ystyried yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail beichiogrwydd os yw cyflogai beichiog yn cael eu trin yn anffafriol oherwydd eu bod ar fin mynd ar absenoldeb mamolaeth.

Mae’n rhaid i gyflogai beichiog gael eu trin yn yr un modd â gweithwyr eraill, oni bai lle bydd angen triniaeth neu warchodaeth arbennig ar y cyflogai beichiog oherwydd beichiogrwydd. Mae hyn yn cynnwys amser o’r gwaith â thâl ar gyfer gofal cynenedigol, gwarchodaeth rhag risgiau iechyd a diogelwch a gwarchodaeth rhag cael eu diswyddo neu eu disgyblu am absenoldeb a achoswyd gan salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.

Pryd mae cyflogai wedi ei warchod rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd?

Mae’r ‘cyfnod gwarchodaeth’ yn cychwyn ar ddechrau beichiogrwydd, ac yn gorffen:

(a) hyd at ddiwedd absenoldeb mamolaeth, neu wrth ddychwelyd i’r gwaith, ar gyfer cyflogai sydd â hawl i absenoldeb mamolaeth statudol. Mae absenoldeb mamolaeth statudol ar gael i bob aelod o staff sydd â statws cyfreithiol cyflogeion ond nid yw’n rhychwantu rhai grwpiau eraill gan gynnwys gweithwyr dros dro, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr hunangyflogedig.

(b) hyd at bythefnos ar ôl diwedd eu beichiogrwydd ar gyfer y rhai nad oes ganddynt hawl i absenoldeb mamolaeth. Mae hyn yn bedair wythnos os yw’r cyflogai’n gweithio mewn ffatri.

Mae unrhyw ymdriniaeth anffafriol am resymau’n ymwneud â beichiogrwydd yn ystod y cyfnod gwarchodaeth yn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae cyflogai wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd cyn gynted ag y byddwch chi’n gwybod, yn credu neu’n amau eu bod nhw’n feichiog. Does dim rhaid iddynt ddweud wrthoch eu bod nhw’n feichiog hyd nes 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y babi. Fodd bynnag, os yw cyflogai yn penderfynu peidio â dweud wrthoch ac os nad ydych yn ymwybodol eu bod nhw’n feichiog, ni fyddant wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd os ydynt yn cael eu trin yn anffafriol. Gallai hyn gynnwys eich cyflogai yn cael eu diswyddo neu eu disgyblu os ydynt yn cymryd amser i ffwrdd oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd. Yn ogystal, ni fydd ganddynt yr hawl i hawliau eraill, megis amser o’r gwaith â thâl i fynychu apwyntiadau cynenedigol, oni bai eu bod nhw wedi eich hysbysu chi o’r beichiogrwydd.      

Mae’n debygol o fod yn anghyfreithlon os yw cyflogai’n cael eu trin yn anffafriol am unrhyw rai o’r rhesymau canlynol:

  • Nid oes modd, dros dro, iddynt wneud y swydd y cawsant eu cyflogi i’w gwneud, boed hynny’n barhaol neu ar gytundeb cyfnod penodedig, oherwydd beichiogrwydd.
  • Nid oes modd, dros dro, iddynt weithio pe byddai hynny’n golygu torri rheoliadau iechyd a diogelwch.
  • Maent yn absennol oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd.
  • Nid oes modd iddynt fynychu gwrandawiad disgyblu oherwydd salwch neu gyflyrau eraill cysylltiedig â beichiogrwydd.
  • Mae trefnu cyflenwi ar gyfer y gweithiwr ar gyfnod mamolaeth yn rhy ddrud i'r busnes.
  • Perfformiad gwael sydd yn gysylltiedig â chyflwr cysylltiedig â beichiogrwydd, megis salwch bore.

Gallai enghreifftiau o driniaeth anffafriol gynnwys:

  • gwrthod recriwtio ymgeisydd sy’n feichiog, sydd ar absenoldeb mamolaeth, sydd newydd gymryd absenoldeb mamolaeth, neu sydd ar fin mynd ar absenoldeb mamolaeth,
  • gwrthod caniatáu i gyflogeion beichiog gymryd amser i ffwrdd rhesymol â thâl er mwyn mynychu apwyntiadau cyn-enedigol, neu feirniadu cyflogai am gymryd amser i ffwrdd er mwyn mynychu apwyntiadau cynenedigol
  • gwrthod cyfleoedd hyfforddi i gyflogai beichiog a gynigir i gyflogeion nad ydynt yn feichiog
  • gwrthod ystyried cyflogai beichiog ar gyfer dyrchafiad, peidio â’u hysbysu o gyfleoedd dyrchafiad neu eu hannog i beidio ag ymgeisio
  • methu â chynnal asesiad risg iechyd a diogelwch ac amddiffyn iechyd a diogelwch cyflogai beichiog, os oes risgiau’n cael eu hadnabod
  • diswyddo cyflogai beichiog oherwydd beichiogrwydd
  • newid neu gael gwared ar gyfrifoldebau swydd oni bai eu bod yn hanfodol am resymau iechyd a diogelwch, bod y cyflogai’n cytuno, neu
  • er mwyn trefnu staff yn eu lle yn union cyn absenoldeb mamolaeth
  • disgyblu cyflogai beichiog neu eu gwneud yn destun prosesau rheoli perfformiad neu fedrusrwydd am resymau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd gan gynnwys salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd 
  • anwybyddu cyflogai beichiog neu wneud sylwadau sarhaus ynglŷn â’r beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth 
  • gadael cyflogai beichiog allan o dripiau busnes, neu wrthod iddynt deithio, os yw’n parhau’n ddiogel iddynt deithio, a
  • amddifadu cyflogai beichiog o godiad cyflog neu fonws

Pan fo cyflogai yn trin cydweithiwr beichiog yn anffafriol mewn perthynas â beichiogrwydd, rydych chi’n gyfreithiol gyfrifol oni bai eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal y gwahaniaethu rhag digwydd yn y lle cyntaf. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau Acas ar y mater hwn.

Mae cyflogeion beichiog hefyd wedi eu gwarchod rhag:

  • Gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw: mae hyn yn digwydd pan fydd rhywun yn eich trin yn waeth na rhywun arall mewn sefyllfa debyg oherwydd eich rhyw.
  • Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw: pan fydd gan sefydliad bolisi neu ffordd o weithio sy’n berthnasol i’r ddau ryw yn yr un modd, ond sy’n rhoi cyflogai o dan anfantais benodol ac na ellir ei gyfiawnhau oherwydd eu rhyw. Nid yw gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol i wahaniaethu ar sail beichiogrwydd ond gallai polisïau a ffyrdd o weithio sy’n gosod menywod beichiog o dan anfantais fod gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw. 
  • Erledigaeth: pan fydd cyflogai yn cael eu trin yn anffafriol oherwydd eu bod wedi gwneud cwyn o wahaniaethu o dan y Ddeddf Gydraddoldeb. Gall ddigwydd hefyd os ydynt yn cefnogi rhywun sydd wedi gwneud cwyn o wahaniaethu.
  • Niwed: pan fydd cyflogai yn destun unrhyw fath o anfantais oherwydd beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth.
  • Diswyddo awtomatig annheg: pan fydd cyflogai yn cael eu diswyddo oherwydd beichiogrwydd, neu unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth.

Recriwtio

Pan yn recriwtio cyflogeion newydd, mae hi’n anghyfreithlon i wrthod ystyried, gosod ar restr fer neu gyflogi rhywun oherwydd eu bod:

  • yn feichiog (a fyddai’n wahaniaethu ar sail beichiogrwydd), neu
  • yn debygol o ddod yn feichiog (a fyddai’n wahaniaethu ar sail rhyw).

Rhaid i’r swydd gael ei chynnig i’r ymgeisydd gorau ar sail eu sgiliau, cymwysterau, teilyngdod a phrofiad. Dylai recriwtio cyflogeion newydd ganolbwyntio ar pa un ai yw’r meini prawf hyn yn gwneud yr ymgeisydd yn addas i’r swydd, yn hytrach nag os oes gan ddarpar gyflogai blant neu os yw’n debygol o gael plant.

Lle bynnag y bo’n bosibl, fe ddylech gynnig pob swydd ar sail hyblyg fel eich bod yn recriwtio o’r ystod ehangaf posibl o ymgeiswyr. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gweithio hyblyg, darllenwch ganllawiau Acas ar y mater hwn.

Os yw rhywun yn ymgeisio am swydd pan fyddant ar absenoldeb mamolaeth neu ar fin cychwyn arno, mae’n rhaid i chi eu hystyried. Rhaid i chi eu trin yn yr un modd ag unrhyw ymgeisydd arall am swydd. Gallwch drafod pryd y gallent gychwyn, gan fod yn ymwybodol y gallech orfod aros iddynt gychwyn os ydynt ar absenoldeb mamolaeth.

Byddai’n wahaniaethu ar sawl beichiogrwydd pe byddech, oherwydd absenoldeb mamolaeth ymgeisydd, yn:

  • gwrthod eu cyfweld neu’n peidio â’u penodi i swydd os mai nhw yw’r ymgeisydd gorau
  • rhoi swydd iddynt am gyfnod cyfyngedig o amser yn hytrach na chyflogaeth barhaol
  • mynnu eu bod yn cychwyn gweithio pan maent ar absenoldeb mamolaeth oni bai eu bod yn cytuno i hynny, neu
  • yn cynnig cyflog is neu delerau eraill gwahanol, llai ffafriol iddynt.

Nid oes rhaid i gyflogai ddweud wrthych eu bod yn feichiog yn ystod gweithdrefnau cyfweld neu ddethol. Mae gan y cyflogai yr hawl i benderfynu pryd maent yn dymuno dweud wrthych ynglŷn â’u beichiogrwydd.

Fe ddylech osgoi gofyn i ymgeiswyr am swydd a ydynt yn feichiog neu’n cynllunio i gael plant, nac ynglŷn â’u teuluoedd. Os ydych yn holi cwestiynau ynglŷn â bwriad rhywun i gael teulu mewn cyfweliad neu mewn holiadur iechyd cyn-cyflogaeth, gallai hyn gael ei ddehongli fel bwriad i wahaniaethu os ydynt yn feichiog, yn debygol o ddod yn feichiog, neu os oes ganddynt ymrwymiadau teuluol. Gallai hyn arwain at honiad o wahaniaethu ar sail rhyw os nad yw rhywun yn cael cynnig swydd.

Ni allwch dynnu cynnig swydd yn ôl oherwydd eich bod yn darganfod bod yr ymgeisydd yn feichiog ar ôl cynnig swydd iddi. Gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd fyddai hyn. Rhaid i chi beidio â gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sy'n feichiog, neu a allai ddod yn feichiog, wrth wneud penderfyniadau recriwtio. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

Ni allwch gynnig swydd dros dro i gyflogai hyd nes iddynt gychwyn ar eu habsenoldeb mamolaeth pe byddech wedi cynnig swydd barhaol iddynt pe na byddent yn feichiog. Byddai cynnig swydd dros dro iddynt o dan yr amgylchiadau hynny yn eu trin yn anffafriol oherwydd eu beichiogrwydd. Mae hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon.

Ffrwythloni – IVF

Rydym yn argymell bod ceisiadau am amser o’r gwaith ar gyfer IVF yn cael eu trin â chydymdeimlad fel mater o arfer da.

Nid yw’n ofyniad cyfreithiol llym i ganiatáu amser o’r gwaith i gyflogai er mwyn cael triniaeth ffrwythloni. Fodd bynnag, gallai gwrthod cais fod yn wahaniaethu ar sail rhyw pe byddai dyn yn cael ei drin yn fwy ffafriol wrth wneud cais am absenoldeb am resymau tebyg. Efallai y carai cyflogwyr sefydlu gweithdrefnau ar gyfer caniatáu amser o’r gwaith ar gyfer IVF neu driniaeth ffrwythloni. Gallai’r gweithdrefnau hyn alluogi cyflogeion i ddweud wrth aelodau penodol o staff ar yn gyfrinachol eu bod yn derbyn triniaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am IVF, darllenwch y Cod Ymarfer Statudol Cyflogaeth Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y pwnc hwn (tudalennau 108, 245 a 246).

Amser o’r gwaith â thâl ar gyfer gofal cynenedigol

Mae gan gyflogeion beichiog hawl gyfreithiol i amser o’r gwaith â thâl ar gyfer gofal cynenedigol os ydynt wedi eu cynghori i fynychu gan feddyg cofrestredig, bydwraig neu ymwelydd iechyd. Ni allwch wrthod yn afresymol gais i gymryd amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol a rhaid i chi dalu eu cyfradd tâl fesul awr arferol i gyflogeion beichiog.

Gall gofal cynenedigol gynnwys:

  • archwiliadau meddygol
  • sganiau                                 
  • apwyntiadau gyda meddyg neu fydwraig 
  • dosbarth cynenedigol
  • dosbarthiadau ymlacio, a
  • dosbarthiadau rhianta.

Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am dystiolaeth o apwyntiadau cynenedigol (oni bai am yr apwyntiad cyntaf).

Mae gennych hawl gyfreithiol i wrthod amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau (oni bai am yr apwyntiad cyntaf) os nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei darparu.

Nid oes rheolau pendant ynglŷn â faint o amser y gall cyflogai ei gymryd o’r gwaith ar gyfer apwyntiad. Mae’n rhaid i’r swm o amser a gymerir fod yn rhesymol. Mae hyn yn cynnwys amser teithio a hyd yr apwyntiad.

Efallai y bydd yn rhaid i gyflogeion aros peth amser yn ystod clinigau cynenedigol prysur. Ni ddylid eu cosbi am hyn. Ni fydd ganddynt lawer o hyblygrwydd mewn perthynas ag amseriad eu hapwyntiadau chwaith.

Mae gan gyflogeion rhan amser hawl gyfreithiol i gael amser o’r gwaith â thâl ar gyfer eu gofal cynenedigol. Ni fyddant o anghenraid yn medru trefnu apwyntiadau y tu hwnt i’w oriau gwaith.

Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn i gyflogeion fynd i mewn i’r gwaith cyn a / neu ar ôl yr apwyntiad, os yw hyn yn rhesymol ac o fewn eu horiau gwaith arferol. Ni ddylid gofyn i gyflogeion wneud yn iawn am unrhyw amser a gollwyd na gofyn iddynt ddefnyddio’u gwyliau blynyddol ar gyfer apwyntiad.

Ni ddylid diswyddo cyflogeion na’u trin yn anffafriol pan fyddant yn gofyn am gael cymryd amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol y mae ganddynt yr hawl iddo. Er enghraifft, ni ddylid ystyried unrhyw amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol y mae ganddynt yr hawl iddo pan yn cymryd camau disgyblu neu’n dewis cyflogeion i’w diswyddo.

Mae gan dadau a phartneriaid hawl gyfreithiol i amser o’r gwaith heb dâl er mwyn mynychu hyd at ddau apwyntiad cyn-enedigol.

Mae gan riant sy’n mabwysiadu hawl gyfreithiol i amser o’r gwaith â thâl er mwyn mynychu pum apwyntiad cyn mabwysiadu.

Gwarchodaeth rhag diswyddo ac ymdriniaeth niweidiol yn ystod beichiogrwydd

Ni ddylech amddifadu’r cyfle i gyflogai fynychu hyfforddiant oherwydd eu bod yn feichiog neu ar fin mynd ar absenoldeb mamolaeth. Fodd bynnag, os bydd yr hyfforddiant wedi darfod pan fyddant yn dychwelyd o’u habsenoldeb, byddai’n arfer da trafod hyn gyda nhw a gohirio’r hyfforddiant os ydynt yn cytuno. Os oes hyfforddiant yn ystod eu habsenoldeb mamolaeth, byddai’n arfer da trafod gan ddefnyddio diwrnod ‘cadw mewn cysylltiad’ er mwyn mynychu.

Gallwch ofyn i gyflogeion beichiog a ydynt yn debygol o fod eisiau newid eu patrwm gweithio a thrafod y posibiliadau os ydynt. Fodd bynnag, fe ddylech dybio y byddant yn dychwelyd i’r un swydd ar yr un telerau ac amodau, gan gynnwys yr un oriau, oni bai eu bod yn dweud yn wahanol. Os ydynt yn dweud nad ydynt yn gwybod, mae’n well peidio â rhoi pwysau arnynt i wneud penderfyniad mor gynnar â hyn oherwydd y gallent feddwl eich bod yn gwneud rhagdybiaeth wahaniaethol y byddant eisiau gweithio yn rhan amser, na fyddech yn ei wneud ynglŷn â chyflogai nad yw’n feichiog. 

I sicrhau nad yw eich cyflogeion yn bwlio neu aflonyddu cydweithiwr beichiog, dylech ddarparu hyfforddiant rheolaidd ar reoli beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith. Ni ddylai’r hyfforddiant hwn ddigwydd pan fydd un o’ch cyflogeion yn feichiog yn unig. Dylid bod gennych bolisi ysgrifenedig clir ar aflonyddu a bwlio. Dylech ei orfodi trwy gymryd camau disgyblu yn erbyn cyflogeion sy’n aflonyddu neu fwlio. 

Os yw cyflogai yn cael ei ddiswyddo yn ystod beichiogrwydd, mae ganddynt hawl gyfreithiol i dderbyn rhesymau ysgrifenedig dros y diswyddiad. Os mai eu beichiogrwydd, neu reswm yn gysylltiedig â beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth, yw’r rheswm dros y diswyddiad mae’r diswyddiad yn annheg yn awtomatig. Mae’n rhaid i gyflogeion beichiog gael eu trin yn yr un modd â chyflogeion eraill pan ystyrir hwy ar gyfer dileu swydd a bod â'r hawl ychwanegol i gael cynnig cyflogaeth amgen addas yn flaenoriaeth i weithwyr eraill nad ydynt mewn sefyllfa warchodedig. Ni ellir dewis cyflogai ar gyfer dileu swydd yn seiliedig ar feini prawf yn ymwneud â’u beichiogrwydd. 

Am ragor o wybodaeth, darllenwch God Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu ac anghydfod.

Rheoli Perfformiad

Gallwch fynd i’r afael â pherfformiad gwael cyflogai beichiog os oes gan y materion rydych chi’n eu codi ddim i’w wneud â’u beichiogrwydd. Rhaid i berfformiad gwael sy’n ganlyniad i’w beichiogrwydd neu absenoldeb sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, beidio ag effeithio’n negyddol ar eich asesiad o’u perfformiad yn ei chyfanrwydd yn y gwaith. Byddai hyn yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd. Gallwch nodi unrhyw berfformiad gwael a ddigwyddodd cyn iddynt ddod yn feichiog.

Os yw cyflogai yn mynd i fod ar absenoldeb mamolaeth adeg eich adolygiadau perfformiad, ystyriwch a yw’n ymarferol i gynnal yr adolygiad cyn iddynt fynd ar absenoldeb mamolaeth. Gorau i gyd os gallwch gynnal adolygiad perfformiad cyn eu habsenoldeb mamolaeth, os yn bosibl. Os nad yw’n bosibl, rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydynt o dan anfantais oherwydd nad oes ganddynt adolygiad perfformiad y flwyddyn honno, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw bonws neu ddyrchafiad bosib.  

Iechyd a Diogelwch

Mae’n ddyletswydd cyfreithiol arnoch i warchod iechyd a diogelwch cyflogeion yn ystod beichiogrwydd, bwydo ar y fron ac am chwe mis ar ôl rhoi genedigaeth. Yn ymarferol golyga hyn:

  • cynnal asesiad risg cyffredinol ar holl weithleoedd eich cyflogai a’i adolygu’n rheolaidd rhag ofn y bydd newidiadau sylweddol yn y gwaith
  • cynnal asesiad risg unigol ar gyfer y cyflogai beichiog a'i adolygu'n rheolaidd yn ystod y beichiogrwydd
  • cynnal asesiad offer sgrin arddangos (DSE) ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio wrth ddesg
  • cymryd camau i fynd i'r afael â materion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â beichiogrwydd neu fwydo ar y fron, a allai godi o'r asesiad(au), neu faterion penodol a nodwyd gan y cyflogai beichiog neu gyflogai sy'n bwydo ar y fron:
  • addasu amodau neu oriau gwaith y cyflogai i osgoi'r risg, os yn bosibl
  • cynnig gwaith amgen addas i’r cyflogai ar delerau ac amodau nad ydynt yn sylweddol llai ffafriol i rai’r swydd wreiddiol, os nad oes unrhyw newidiadau rhesymol y gallwch eu gwneud i osgoi’r risg, ac
  • os nad oes unrhyw waith arall addas, atal y cyflogai ar gyflog llawn am gyhyd ag sydd ei angen i osgoi'r risg.

Os nad yw cyflogai yn darparu cadarnhad ysgrifenedig o feichiogrwydd o fewn amser rhesymol, nid oes rhaid i chi barhau ag unrhyw newidiadau i’w hamodau gwaith. Nid oes gofyn i chi chwaith eu cadw wedi eu hatal o’r gwaith ar dâl llawn.

Mae’n rhaid i chi ystyried unrhyw gyngor a ddarparwyd gan feddyg a / neu bydwraig y cyflogai.

Mae gwefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn amlinellu eich goblygiadau cyfreithiol ar gyfer rheoli risgiau. Mae ganddo ganllawiau penodol ar amddiffyn gweithwyr beichiog a mamau newydd. 

Enghraifft –

Mae Susan yn gweithio mewn siop adrannol. Mae’r gwaith yn golygu sefyll ar ei thraed am y rhan fwyaf o’r diwrnod. Mae hi’n darparu hysbysiad ysgrifenedig o’i beichiogrwydd. Dylai ei chyflogwr wneud addasiadau rhesymol i’w hamodau gwaith er mwyn osgoi’r risg hwnnw. Maent yn darparu cadair fel nad yw hi’n sefyll am gyfnodau hir. Mae Susan yn cael eistedd i lawr i wneud ei gwaith pryd bynnag y bo’n bosibl yn ystod ei beichiogrwydd, hyd yn oed pan nad yw cydweithwyr eraill yn cael cadeiriau. Mae ei chyflogwr yn cynnig dyletswyddau eraill i Susan nad ydynt yn golygu sefyll ar ei thraed drwy’r dydd

Enghraifft –

Mae Pamela yn nghamau hwyr ei beichiogrwydd ac mae hi wedi gofyn i’w chyflogwr os gall hi leihau faint o yrru mae hi’n ei wneud yn ei swydd er mwyn ymweld â chleientiaid. Mae ei chyflogwr wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig o feichiogrwydd Pamela felly rhaid iddo gadw unrhyw risgiau o dan adolygiad ac ystyried gwneud addasiadau rhesymol i’w hamodau gwaith ac oriau gwaith er mwyn osgoi’r risgiau.

Mae ei chyflogwr yn ystyried ffyrdd eraill y gall Pamela gadw mewn cysylltiad â’i chleientiaid gan ei bod hi bellach yn nghamau hwyr ei beichiogrwydd ac yn ei gweld yn anodd gwneud llawer o yrru.

Byddai methu â chael gwared ar neu osgoi’r risgiau a adwaenwyd i famau newydd a chyflogeion beichiog yn wahaniaethu.

Salwch yn ystod beichiogrwydd

Rhaid i salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd gael ei gofnodi ar wahân i fathau eraill o salwch. Rhaid iddo beidio â chyfri tuag at gofnod cyfanswm absenoldeb salwch plentyn na chael ei ddefnyddio fel rheswm dros gamau disgyblu neu ddewis ar gyfer dileu swydd, hyd yn oed pan fydd y gweithredu hwnnw’n digwydd ar ôl i’r cyflogai ddychwelyd i’r gwaith.  

Enghraifft 

Mae gan Jessie salwch bore. Os nad yw hi yn ddigon da i weithio ar adegau penodol o’r dydd, byddai’n arfer da trafod addasiad dros dro i’w horiau, (er enghraifft dechrau’n hwyrach er mwyn osgoi traffig oriau brig) neu weithio o gartref. Nid oes gofyniad cyfreithiol arnoch i wneud hyn, ond efallai mai’r dewis arall fyddai i’ch cyflogai fod yn absennol o’r gwaith trwy’r dydd.

Dylai cyflogai beichiog gael ei thrin yn yr un modd â chyflogeion eraill. Os oes gennych bolisi sy’n gofyn bod pob cyflogai yn darparu tystiolaeth feddygol yn dilyn cyfnod o salwch, gallwch ofyn am y ffurflen hon gan gyflogai beichiog. Ni ddylech roi pwysau arnynt i ddychwelyd cyn iddynt fod yn ddigon da i wneud hynny. Gallai hyn fod yn wahaniaethu ar sail beichiogrwydd.

Gallwch recriwtio aelod o staff yn eu lle dros dro os yw eich cyflogai beichiog yn debygol o fod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am gyfnod hir, ond rhaid i chi beidio â chymryd swydd cyflogai oddi wrthynt dim ond oherwydd eu bod i ffwrdd o’r gwaith â salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd. Gallwch lewni eu habsenoldeb yn y tymor byr yn yr un modd ag y byddech yn gwneud gydag unrhyw gyflogai. Cofiwch ei fod yn syniad da trafod hyn gyda’ch cyflogai i dawelu eu meddwl bod y sawl sy’n llenwi eu swydd yno dros dro hyd nes eu bod nhw’n ddigon da i ddychwelyd i’r gwaith.

Absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn y bedair wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth

Os yw cyflogai i ffwrdd o’r gwaith â salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar unrhyw adeg yn ystod y bedair wythnos hyd at ddechrau wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth, bydd yr absenoldeb mamolaeth yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod cyntaf o absenoldeb.

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r cyflogai roi rhybudd i chi (yn ysgrifenedig, os ydych yn gofyn am hynny) o absenoldeb o’r gwaith oherwydd beichiogrwydd a rhoi’r dyddiad y cychwynnodd yr absenoldeb.

Os yw’r cyflogai yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol, bydd yn cychwyn o’r diwrnod ar ôl y diwrnod cyntaf mae’r cyflogai yn absennol oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd. Nid yw amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol yn cyfri fel absenoldeb oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd. Os ydych chi neu eich cyflogai yn ansicr ynglŷn ag a ydy absenoldeb salwch yn gysylltiedig â beichiogrwydd, dylai’r cyflogai siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig.

Rhybudd ar gyfer absenoldeb mamolaeth a thâl

Mae’n arfer dda cynnal cyfarfod cyn absenoldeb mamolaeth gyda’ch cyflogai. Gallwch ofyn iddynt yn anffurfiol faint o absenoldeb mamolaeth maen nhw’n bwriadu ei gymryd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol ar gyflogai i gadarnhau faint o absenoldeb mamolaeth maen nhw’n bwriadu ei gymryd. Cyn i’r babi gael ei eni, gallant roi syniad rhesymol yn unig o’u cynlluniau. Ni ddylech:

  • roi pwysau arnynt i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddant yn dychwelyd i’r gwaith cyn bod gofyn iddynt wneud
  • ddweud wrthynt y byddant o dan anfantais os nad ydynt yn dychwelyd i’r gwaith yn gynnar, er enghraifft trwy ddweud y byddant yn colli cyfleoedd hyfforddiant neu ddyrchafiad
  • eu trin yn anffafriol os nad ydynt yn dychwelyd i’r gwaith yn gynt nag y mae gofyn iddynt ddychwelyd, neu
  • eu trin yn anffafriol os ydynt yn newid eu meddwl ynglŷn â phryd y byddant yn dychwelyd i’r gwaith.

Rhaid i’ch cyflogeion roi hysbysiad ar gyfer absenoldeb mamolaeth erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyliedig yr enedigaeth, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol i wneud hynny. Rhaid i gyflogai eich hysbysu (yn ysgrifenedig, os gwneir cais am hynny): 

  • eu bod nhw’n feichiog
  • wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth, a
  • dyddiad y carent gychwyn eu cyfnod mamolaeth

Rhaid i chi ysgrifennu at y cyflogai o fewn 28 diwrnod o dderbyn rhybudd wrthynt ar gyfer absenoldeb mamolaeth a thâl, gan gadarnhau’r dyddiad pan fydd eu habsenoldeb mamolaeth yn dod i ben.

Anabledd

Os bydd cyflogai anabl sydd ag addasiadau rhesymol yn eu lle yn eich hysbysu ei bod yn feichiog, mae’n arfer da i chi drafod ac adolygu unrhyw addasiadau rhesymol gyda’r cyflogai ac i nodi a oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn ystod cyfnodau gwahanol eu beichiogrwydd a’u habsenoldeb mamolaeth. Mae'n ddoeth i'r adolygiad ystyried unrhyw drefniadau ar gyfer diwrnodau hyfforddiant neu gadw mewn cysylltiad.

Fel arfer, ni fydd angen addasiadau rhesymol ar rai cyflogeion anabl. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi ystyried addasiad rhesymol dros dro yn ystod beichiogrwydd.

Cyfathrebu da a blaengynllunio

Mae’n arfer da siarad â chyflogai ynglŷn â’u hawliau yn ystod beichiogrwydd. Gallai hyn gynnwys amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol, asesiadau iechyd a diogelwch, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir, tâl, absenoldeb salwch, gweithio hyblyg, dyddiau cadw mewn cysylltiad a gwyliau blynyddol. Bydd hyn yn helpu i osgoi dryswch a chamddealltwriaeth.

Cyn i’ch cyflogai gychwyn ar eu habsenoldeb, dylech drafod:

  • faint o gyswllt a fydd gennych
  • ar ba ffurf y bydd y cysylltiadau. Er enghraifft, fe allech gysylltu trwy e-bost, llythyr neu alwad ffôn, neu trwy fewnrwyd eich sefydliad 
  • yr hyn y dylai’r cysylltiadau eu cwmpasu. Er enghraifft, fe allech drafod staff sy’n gadael, staff newydd sydd wedi ymuno, digwyddiadau hyfforddi a gweithgareddau cymdeithasol                         
  • y bydd amseroedd pan fydd gofyniad cyfreithiol i chi gysylltu â nhw. Er enghraifft, i drafod sefyllfa diswyddo neu lle ceir datblygiadau sy’n effeithio ar eu swydd, posibiliadau o ddyrchafiad, cyfleoedd swyddi newydd, ailstrwythuro neu ddileu swyddi posibl
  • a yw eich cyflogai yn dymuno derbyn bwletinau swyddi               
  • pryd fydd arfarniad yn cael ei gynnal, os yw i fod i gael ei gynnal yn ystod eu cyfnod mamolaeth
  • os ydynt yn dymuno cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant
  • os ydynt yn dymuno mynychu hyfforddiant, byddwch yn darparu manylion unrhyw hyfforddiant sy’n digwydd. Fe ddylent ddweud pa hyfforddiant maen nhw’n medru ei fynychu.
  • dyddiau cadw mewn cysylltiad, a’r tâl ar gyfer y diwrnodau hyn
  • unrhyw wybodaeth arall y carai’r cyflogai ei derbyn.

Oni bai am adegau pan mae’n rhaid i chi gysylltu â’r cyflogai, byddwch yn darparu cymaint neu chyn lleied o wybodaeth ag y cytunwyd arno.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau Acas ar weithio hyblyg, a  chanllawiau Acas ar geisiadau gweithio hyblyg.

Diweddariadau tudalennau

Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth

Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)

Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.

Ewch i wefan Acas