Menopos yn y gweithle: Canllawiau i gyflogwyr
Wedi ei gyhoeddi: 22 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 22 Chwefror 2024
Cefndir
Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â chefnogi gweithwyr sy'n profi symptomau'r menopos.
Menopos a perimenopos
Menopos yw pan fydd mislif menyw yn dod i ben oherwydd lefelau hormonau is.1 Mae fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed ond gall ddigwydd yn gynharach neu'n hwyrach. Gall ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys:
- yn naturiol
- geneteg
- llawdriniaeth
- triniaethau canser
Weithiau mae’r rheswm yn anhysbys.
Perimenopos yw pan fydd gan fenyw symptomau menopos, ond nid yw misglwyf wedi dod i ben.
Gall y menopos achosi ystod o symptomau corfforol a seicolegol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ystod o symptomau yma.
Effaith yn y gwaith
Gall symptomau menopos gael effaith sylweddol ar fenywod yn y gwaith.
Canfu ymchwil gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu fod dwy ran o dair (67%) o fenywod sy’n gweithio rhwng 40 a 60 oed sydd â phrofiad o symptomau’r menopos yn dweud eu bod wedi cael effaith negyddol yn bennaf arnynt yn y gwaith.
O’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn negyddol yn y gwaith:
- dywedodd 79% eu bod yn llai abl i ganolbwyntio
- dywedodd 68% eu bod yn profi mwy o straen
- dywedodd bron i hanner (49%) eu bod yn teimlo'n llai amyneddgar gyda chleientiaid a chydweithwyr, a
- theimlai 46% yn llai abl yn gorfforol i gyflawni tasgau gwaith.
O ganlyniad i hyn, roedd dros hanner yr ymatebwyr yn gallu meddwl am adeg pan nad oeddent yn gallu mynd i’r gwaith oherwydd symptomau eu menopos.
Canfu ymchwil pellach gan Gymdeithas Fawcett fod un o bob deg o fenywod a holwyd a oedd yn gyflogedig yn ystod y menopos wedi gadael y gwaith oherwydd symptomau’r menopos.
Rhwymedigaethau cyfreithiol cyflogwyr
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, caiff gweithwyr eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ar sail nodweddion gwarchodedig gan gynnwys anabledd, oedran a rhyw.
Os yw symptomau’r menopos yn cael effaith hirdymor a sylweddol ar allu menyw i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gellid ystyried y symptomau hyn yn anabledd. Os yw symptomau’r menopos yn gyfystyr ag anabledd, bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr i wneud addasiadau rhesymol. Byddant hefyd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i beidio â gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol oherwydd yr anabledd na gwneud y fenyw yn destun gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd.
Gall menywod sy’n profi symptomau menopos hefyd gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, yn ogystal ag aflonyddu ac erledigaeth, ar sail oedran a rhyw.
O dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol hefyd i gynnal asesiad o risgiau eu gweithle.
Fideos esboniadol
Gwyliwch y fideos hyn i gael gwybod am:
- eich rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr
- awgrymiadau da ar gyfer cefnogi gweithwyr sy'n profi menopos
Menopos a Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'r fideo hwn yn gyflwyniad i'r menopos yn y gweithle. Mae’n manylu ar sut y gall gweithwyr sy’n profi symptomau menopos gael eu diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yn amlinellu’r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd gan gyflogwyr o dan y Ddeddf.
Gwneud addasiadau i'r gweithle ac atal gwahaniaethu
Mae’r fideo hwn yn rhoi enghreifftiau o addasiadau ymarferol yn y gweithle a newidiadau y gall cyflogwyr eu gwneud i gefnogi eu gweithwyr ac atal gwahaniaethu. Mae'n egluro'r risgiau sy'n gysylltiedig â methu â gwneud addasiadau o'r fath ac yn amlinellu manteision cymryd camau rhagweithiol.
Sgyrsiau am y menopos
Mae'r fideo hwn yn rhoi arweiniad ar gael sgyrsiau am y menopos. Mae'n esbonio dulliau allweddol y gall cyflogwyr annog diwylliant lle mae gweithwyr yn teimlo y gallant siarad am eu symptomau a gofyn am addasiadau i'w gwaith. Mae’n esbonio sut y gall cyflogwyr gynnwys pob gweithiwr mewn sgyrsiau am y menopos, a manteision gwneud hynny.
Diolchiadau
Roedd y sefydliadau canlynol yn rhan o'n grŵp cyfeirio. Roedd eu cyfraniad yn cefnogi datblygiad yr adnoddau hyn.
- Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu
- Sefydliad Rheolaeth Siartredig
- Ffederasiwn Busnesau Bach
- Henpicked: Menopos yn y Gweithle
- The Fawcett Society
- Elusen Menopos
- Lles Merched
- Llywodraeth Cymru
Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth
Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):
Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)
Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
22 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf
22 Chwefror 2024