Boed yn brwydro yn erbyn rhagfarn yn y gweithle, chwaraeon neu ysgolion, rydym yn credu mewn 'Gweithredu Nid Geiriau'
Mae heddiw’n nodi dechrau Mis Hanes Pobl Dduon, pan fyddwn yn dathlu’r llwyddiannau sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml dros ganrifoedd lawer o bobl o dras Affricanaidd a Charibïaidd ym mywyd Prydain. Boed mewn gwasanaethau cyhoeddus, gwleidyddiaeth, busnes, chwaraeon neu’r celfyddydau, mae Prydain yn llawer gwell diolch i gyfraniad ei dinasyddion Du.
Mae’r mis hwn hefyd yn amser i fyfyrio ar sut yr ydym yn adeiladu dyfodol tecach i bobl o bob ethnigrwydd, gan gydnabod anghyfiawnderau ddoe a heddiw.
Thema Mis Hanes Pobl Dduon eleni yw Amser i Newid: Gweithredu Nid Geiriau. Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym ni yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn chwarae rhan bwysig wrth wneud y newid hwnnw. Yn wir, rydym wedi cymryd 'Gweithredu (Nid Geiriau)' yn gyson i wella bywydau pobl Dduon ym Mhrydain.
Nid yw arian yn rhwystr i gyfiawnder
Er enghraifft, fis Tachwedd diwethaf, lansiwyd cronfa gyfreithiol gennym i sicrhau nad yw arian yn rhwystr i gyfiawnder i ddioddefwyr gwahaniaethu ar sail hil. Mae'r cynllun eisoes wedi bod yn llwyddiannus, gan gefnogi pêl-droediwr a gwas sifil yn eu hachosion gwahaniaethu ar sail hil yn erbyn eu cyflogwyr. Mae achosion eraill yn parhau, ac mae ein cronfa yn parhau i fod yn agored i unrhyw un sy'n meddwl eu bod wedi dioddef hiliaeth.
Rydym yn gweithredu i ymdrin â gwahaniaethu yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Dengys tystiolaeth y gallai algorithmau effeithio'n anghymesur ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Felly rydym yn lansio canllawiau i helpu sefydliadau i asesu a yw eu meddalwedd yn rhagfarnllyd. Rydym yn monitro awdurdodau lleol yn arbennig i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio AI yn deg wrth ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol.
Rydym wedi gweithredu i fynd i’r afael â hiliaeth mewn chwaraeon, yn dilyn adroddiadau o wahaniaethu yng Nghlwb Criced Swydd Efrog. Rydyn ni nawr yn gweithio gyda’r arweinwyr newydd yn y clwb, a gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r gêm yn gallu cymryd rhan yn deg. Rhaid i weithwyr proffesiynol neu amaturiaid, staff neu wylwyr allu cymryd rhan yn y gamp heb wynebu rhagfarn.
Gweithredu yn erbyn gwahaniaethu ar sail gwallt
Ac rydym yn cymryd camau i atal gwahaniaethu ar sail gwallt mewn ysgolion, a all effeithio'n arbennig ar blant â gwallt gwead-Affro. Mae’r canllawiau i ysgolion y byddwn yn eu cyhoeddi’r mis hwn yn dilyn ein cymorth ariannol cynharach i Ruby Williams, a anfonwyd adref o’r ysgol dro ar ôl tro oherwydd ei gwallt Affro. Mae arferion o'r fath yn wahaniaethu ar sail hil. Mae ein camau gweithredu wedi helpu i'w hatal.
Rydym yn credu mewn Gweithredu Nid Geiriau. Rydym wedi cymryd y camau hyn a chamau eraill i amddiffyn pobl sydd mewn perygl o wahaniaethu oherwydd eu hil. Ni ddylai neb gael ei ddal yn ôl oherwydd y nodwedd bwysig hon a warchodir yn gyfreithiol.
Yn anffodus, mae mwy i'w wneud. Felly bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i gymryd camau, nid yn unig y mis hwn ond bob mis, i wneud Prydain yn wlad decach, well, lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal, beth bynnag fo’u cefndir.