Mae datganoli pwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’i wreiddio yn ein cyfansoddiad. Ei ddiben yw sicrhau bod penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl (eu haddysg, eu hiechyd, eu ffyniant a’u diogelwch) yn cael eu gwneud yn ddemocrataidd gan gyrff sy’n eistedd yn agosach atynt.
Mae datganoli pŵer yn cyflymu yn Lloegr hefyd. Mae hyn yn agor cyfleoedd newydd i hybu cydraddoldeb a hawliau. Ers i Fanceinion Fwyaf' ennill ei phwerau a’i maer cyntaf yn ôl yn 2011, mae naw rhanbarth arall yn Lloegr wedi dod yn Awdurdodau Maerol neu Gyfunol. Mae pob Awdurdod yn derbyn pecyn buddsoddi – yn amrywio o £400 miliwn i dros £1 biliwn – fel arfer dros gyfnod o 15 i 25 mlynedd. Mae'r arian hwn yn ariannu eu cyfrifoldebau craidd: tai, trafnidiaeth, sgiliau, twf economaidd ac adfywio.
O ganlyniad i’r dirwedd newidiol hon, rydym wedi gofyn i ni’n hunain sut y gallwn ni yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddefnyddio ein pwerau rheoleiddio i sicrhau bod y cyrff newydd hyn yn diwallu anghenion cydraddoldeb Prydain, ac yn enwedig yn ‘rhoi sylw dyledus’ i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus statudol (PSED).
Rydym wedi gweithio ar y materion hyn yn yr Alban a Chymru ers blynyddoedd, felly rydym yn awr yn trosglwyddo’r gwersi a ddysgwyd i’n gwaith yn Lloegr.
Er enghraifft, mae gan yr Alban a Chymru Fargeinion Dinas-Ranbarth sy’n addo creu tua 120,000 o swyddi newydd. Bydd llawer o'r swyddi hyn mewn sectorau sy'n dod i'r amlwg - digidol, technoleg fiolegol a'r economi werdd. Ond dim ond chwarter y gweithwyr yn y diwydiant digidol sy'n fenywod. Mae menywod yn cynrychioli llai nag un rhan o bump o'r gweithlu ym maes ynni gwynt. Mae’r PSED a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol, sy’n bodoli yng Nghymru a’r Alban, yn berthnasol yma. Ond weithiau gall ymarferwyr ei chael hi'n anodd eu gwireddu, gan ganolbwyntio'n aml ar beidio â gwneud unrhyw niwed (dileu gwahaniaethu) ar draul canolbwyntio ar wella (hybu cydraddoldeb).
Dyna pam yr ydym wedi gweithio’n agos gyda llywodraethau lleol a chenedlaethol i sicrhau eu bod yn:
-
meddu ar y gallu i ysgrifennu achosion busnes cynhwysol
-
asesu effaith eu cynlluniau yn briodol
-
gosod canlyniadau cydraddoldeb ymestynnol, a
-
sicrhau bod eu cynlluniau caffael a gwireddu buddion yn cynyddu enillion cydraddoldeb i'r eithaf.
Er mwyn cyflawni hyn, roedd yn rhaid inni feddwl yn ofalus am ein dull rheoleiddio. Yn hytrach nag aros i weld methiant ac yna ymyrryd, fe benderfynon ni ganolbwyntio ar hybu cydraddoldeb ac ar yr hyn y gellid ei gyflawni gyda'r buddsoddiad newydd. Roedd hyn yn golygu defnyddio ein pwerau meddalach i adeiladu tystiolaeth, darparu cyngor a throsglwyddo arbenigedd, yn hytrach na’n hoffer cydymffurfio cyfreithiol. Mae’r holl awdurdodau rydym wedi gweithio gyda nhw yng Nghymru a’r Alban wedi gwneud cynnydd, boed yn £2 biliwn o fuddion cymunedol sydd bellach yn cael eu cyfeirio’n flynyddol at ddatblygu sgiliau yn Glasgow Fwyaf, neu'r 'Tay Deal' yn blaenoriaethu eu hardaloedd tlotaf ar gyfer cyflwyno 5G.
Gan dynnu ar y profiad hwnnw yn yr Alban, rydym bellach yn gweithio gydag Awdurdodau Cyfun Manceinion Fwyaf, Gogledd Tyne a Lerpwl i sicrhau bod eu buddsoddiadau wedi’u hanelu at hyrwyddo cydraddoldeb. Ym Manceinion Fwyaf rydym wedi eu helpu i ddatblygu argymhellion adroddiad y Comisiwn Anghydraddoldeb drwy ddatblygu amcanion cydraddoldeb cliriach a mwy penodol. Yn Lerpwl, rydym wedi gweithio gyda swyddfa'r maer i ddatblygu strategaeth dyletswydd economaidd-gymdeithasol traws-awdurdod, a lansiwyd ym mis Mehefin 2023. Ac yng Ngogledd Tyne, rydym wedi gweithio ar adnewyddu ac ailsgilio eu hymagwedd at Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.
Mae cynnydd yn cael ei wneud, ond mae mwy i’w wneud, ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gwaith newydd gyda Chynghorau Birmingham a Chernyw, ac Awdurdod Cyfun Swydd Gaergrawnt a Peterborough.
Wrth i’r gwaith hwn barhau, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau a’n dulliau gweithredu fel y gall eraill ystyried sut y gall hyn fod o ddefnydd i’w sefydliadau eu hunain i helpu i wneud Prydain yn lle tecach i bawb.