Blog

Cipolwg ar y flwyddyn ddiwethaf

Wedi ei gyhoeddi: 3 Awst 2022

Heddiw mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2021-22. Mae’n adrodd ar ein llwyddiannau niferus dros y flwyddyn ddiwethaf a sut rydym wedi gwario arian cyhoeddus i wneud Prydain yn decach.

Yn ystod ail flwyddyn y pandemig Covid-19, fe wnaethom barhau’n gadarn yn ein rhwymedigaeth i hyrwyddo a gorfodi cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain. Mae ein cyflawniadau yn cynnwys:

  • £250,000 wedi'i ddyrannu i gronfa garreg filltir i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a helpu dioddefwyr i geisio cyfiawnder. Rydym eisoes wedi cefnogi wyth achos, gan gynnwys pêl-droediwr, Rico Quitongo, yn cymryd camau yn erbyn ei gyn glwb, Airdrieonians, am wahaniaethu hiliol honedig.  
  • Ymchwiliad i wneud penderfyniadau ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr yn dilyn adroddiadau am lai o ofal ac anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu yn ystod y pandemig, a chyhoeddir yr adroddiad yn ddiweddarach yn 2022.   
  • Cytundeb cyfreithiol-rwym gyda llwybr Gogledd Orllewin Network Rail ar ôl iddo fethu â chwblhau Asesiad Effaith Anabledd a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer defnyddwyr anabl yn ystod gwaith adnewyddu. 
  • Gwneud gweithredwr cyhoeddus newydd masnachfraint ScotRail yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus pan lansiwyd hi ym mis Ebrill 2022, a chael llywodraeth yr Alban i gryfhau'r Cod Ymarfer newydd ar gyfer Penodiadau Gweinidogol i Gyrff Cyhoeddus yn yr Alban.  
  • Cytundeb cyfreithiol-rwym gyda Pontins i atal gwahaniaethu ar sail hil, ar ôl i ni ddod yn ymwybodol bod ‘rhestr gwesteion annymunol’ yn cael ei defnyddio i wahardd Sipsiwn a Theithwyr. Daethom â’r cytundeb i ben ym mis Chwefror 2022 gan nad oeddem yn fodlon â’r camau a gymerwyd ac rydym bellach wedi lansio ymchwiliad ffurfiol i benderfynu a yw Pontins wedi torri’r gyfraith.
  • Cytundeb cyfreithiol gyda Jaguar Land Rover i wella ei bolisïau ac arferion cydraddoldeb ac amrywiaeth ar ôl i achos ailbennu rhywedd a ddygwyd yn ei erbyn godi pryderon am ei bolisïau presennol.
  • Fe wnaethom ymyrryd mewn apêl yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Cyflogaeth yn ymwneud â Maya Forstater a honnodd y gwahaniaethwyd yn ei herbyn oherwydd ei chred. Cytunodd y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth fod ei chred wedi’i diogelu gan y Ddeddf Cydraddoldeb, a thrwy hynny ddarparu eglurhad pwysig mai dim ond y credoau mwyaf eithafol (fel Natsïaeth) sydd ddim yn haeddu parch mewn cymdeithas ddemocrataidd.

Dyma rai enghreifftiau yn unig o’r gwaith hynod effeithiol yr ydym wedi’i wneud ym mhob rhan o’r Comisiwn, yn amrywio o ddarparu cyngor arbenigol, awdurdodol i’r Senedd a’r Llywodraeth wrth iddynt drafod materion cydraddoldeb a hawliau dynol, i gyhoeddi canllawiau, hyrwyddo arfer da a chymryd camau cyfreithiol lle mae gennym bryderon y gallai cyfraith cydraddoldeb fod wedi’i thorri. Mae llawer o'r gwaith hwn yn digwydd yn ddi-ymwybod i’r cyhoedd. Ond byddwch yn dawel eich meddwl, p’un a ydym yn gwneud datganiadau cyhoeddus neu’n dylanwadu y tu ôl i’r llenni, ein bod yn canolbwyntio’n llwyr ar orfodi cyfraith cydraddoldeb gref Prydain, sicrhau bod sefydliadau’n cynnal safonau hawliau dynol, ac yn gweithio’n ddiflino i wneud Prydain yn wlad decach i fyw a gweithio ynddi.  

Mae ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf a'i lwyddiant yn tanio ein hymrwymiad i wneud cynnydd pellach yn y flwyddyn i ddod. Roedd 2021-22 yn her i ni hefyd. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn dysgu o sut yr aethom i’r afael â’r rhain, ac yn parhau i gydweithio â’n rhanddeiliaid mewn cymdeithas sifil, mewn llywodraeth, mewn cwmnïau ac mewn mannau eraill, i gyflawni ein cylch gwaith statudol mor effeithiol â phosibl yn y flwyddyn i ddod.

Y CCHD yw rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, gan orfodi’r gyfraith fel ein bod i gyd yn byw mewn cymdeithas sy’n deg, a lle nad ydym yn dioddef gwahaniaethu neu ragfarn oherwydd ein hoedran, anabledd, rhyw, statws priodasol neu riant, hil, crefydd, rhywedd Yr EHRC yw rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, gan orfodi’r gyfraith fel ein bod i gyd yn byw mewn cymdeithas sy’n deg, a lle nad ydym yn dioddef gwahaniaethu neu ragfarn oherwydd ein hoedran, anabledd, rhyw, statws priodasol neu riant, hil, crefydd, rhyw.

Darllenwch ein hadroddiad llawn a'n cyfrifon ar gyfer 2021-22