Fideos: atal gwahaniaethu ar sail gwallt mewn ysgolion

Wedi ei gyhoeddi: 8 Medi 2022

Diweddarwyd diwethaf: 8 Medi 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae'r fideos hyn yn rhan o becyn o adnoddau ar gyfer arweinwyr ysgol sydd wedi'u cynllunio i godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu yn ymwneud â gwallt Affro-gwead mewn lleoliadau addysgol.

Anogir ysgolion i ddefnyddio'r adnoddau hyn i gefnogi eu hymdrechion i atal gwahaniaethu ar sail hil ac aflonyddu, yn benodol mewn perthynas â dylunio ac adolygu polisïau ac arferion sy'n ymwneud â gwallt gwead-Affro.

1. Fideo gwahaniaethu ar sail gwallt

Mae'r fideo hwn wedi'i anelu at arweinwyr ysgol a llywodraethwyr. Mae'n esbonio:

  • sut y gall gwallt a steiliau gwallt sy'n gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol disgyblion fod yn rhan o'u hunaniaeth hiliol
  • sut y gall gwahaniaethu ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â gwallt ddigwydd mewn ysgolion
  • pwysigrwydd creu ymwybyddiaeth o amrywiaeth i feithrin perthynas dda rhwng disgyblion
  • yr effaith negyddol y gall gwahaniaethu ac aflonyddu ei chael ar iechyd meddwl disgyblion.

Gellid defnyddio’r fideo hwn i sbarduno sgyrsiau ymhlith arweinwyr ysgol, llywodraethwyr ac ymddiriedolwyr am sut i sicrhau nad yw polisïau ac arferion perthnasol yn wahaniaethol, a diogelu disgyblion rhag gwahaniaethu ar sail hil a bwlio.

Gellir defnyddio'r fideo neu glipiau ohono yn ystod hyfforddiant neu gyfarfodydd staff.

Hyd: 3 munud a 30 eiliad

2. Stori Ruby

Mae'r fideo hwn wedi'i anelu at arweinwyr ysgol, llywodraethwyr, athrawon, cynorthwywyr addysgu a disgyblion.

Mae'n dangos astudiaeth achos o ddisgybl a heriodd bolisi gwisg ysgol ei hysgol yn y llys fel gwahaniaethu anuniongyrchol oherwydd hil.

Diolch i Kate a Lenny Williams am rannu stori eich teulu.

Hyd: 4 munud a 50 eiliad

Diweddariadau tudalennau