Cau'r bwlch cyflog: sut mae busnesau yn gweithredu

Wedi ei gyhoeddi: 4 Medi 2017

Diweddarwyd diwethaf: 4 Medi 2017

Pets at Home: hyrwyddo gweithio hyblyg

"Y prif beth i’w gofio yw nad oes ‘bwled arian’ i gau bylchau cyflog. Rhoi nifer o newidiadau ar waith yw, yn aml y rheini y gallai ymddangos yn ddibwys, ond yn fwyfwy maen nhw’n gwneud gwahaniaeth."

Vicky Hill, Pennaeth Pobl

Darllen hanes Pets at Home

Yn Pets at Home rydym yn cynnig hyblygrwydd ar draws gymaint o rolau â phosibl – waeth beth fo’r lefel. Pam fod hyn mor bwysig? Oherwydd rydym am sicrhau y gallwn recriwtio, cadw a datblygu’r bobl orau, ac mae’n rhan o’r camau rydym yn eu cymryd i gau ein bylchau cyflog.

Ein nod yw datblygu ein cyflogeion yn ‘arbenigwyr cyfeillgar’ ac mae hyn yn cymryd hyd at 8 mlynedd, felly mae cadw’r bobl hynny rydym wedi buddsoddi ynddyn nhw cyhyd ag y gallwn yn rhan hanfodol ein llwyddiant. Rydym yn cydnabod bod pobl yn mynd trwy ystod o newidiadau bywyd yn ystod eu hamser gyda ni. I rai mae hyn yn cynnwys priodi a magu plant, tra fod gan eraill gyfrifoldebau gofalu am berthnasau neu hyd yn oed anawsterau iechyd eu hunain. Rydym yn eu cefnogi cymaint ag y gallwn i’w galluogi i barhau i weithio gyda ni. Mae dal swydd am gyfnod hirach ynghyd a’r cyfle i ennill dyrchafiad i uwch rolau yn allweddol i leihau bylchau cyflog ar sail rhyw, ethnigrwydd ac anabledd.

Mae rhaid i sefydliadau ganfod yr hyn sydd yn gweithio iddyn nhw. Gallai hyblygrwydd edrych yn wahanol ar waith gan ddibynnu ar y tîm neu’r math o waith, ond mae’n ymwneud ag edrych ar eich busnes a’ch cyflogeion a chreu diwylliant cefnogol sydd yn adlewyrchu’u hanghenion a’u dyheadau. Mae gwaith swyddfa yn wahanol iawn i fanwerthu a dosbarthu er enghraifft. Mae angen i chi hefyd ganfod yr hyn sydd yn iawn ar gyfer pob cyflogai ar adegau neilltuol yn eu gyrfaoedd.

Rydym yn weithredol yn hyrwyddo ein hopsiynau gweithio hyblyg mewn hysbysebion swyddi a thrwy ein hyfforddiant i reolwyr, ond gallwn wneud mwy – yn enwedig gyda chodi ymwybyddiaeth tadau o’r hyn yr ydym yn ei gynnig. Bydd ceisiadau am weithio hyblyg yn mynd trwy gyfnodau brig a chyfnodau tawel, ac mae’n bwysig cofio er y gellir cymhwyso strwythurau a phrosesau yn eithaf cyflym, mae newid diwylliant yn cymryd amser ac ymdrech.

Rydym yn gweithio’n galed i feithrin pib-linell amrywiol o ddoniau yn Pets at Home. Mae llawer o fenywod yn gweithio i ni ac rydym am ddileu unrhyw rwystrau i’w datblygiad gyrfa. Mae enghreifftiau o’r hyn a wnaethom yn cynnwys symud tuag at fwy o gyrsiau hyfforddi ar lein pan fo’n briodol, gan fod mamau weithiau yn ei chael yn anodd teithio, asesu pa elfennau gwaith y gellir ei wneud gartref, ac edrych yn feirniadol ar ein hysbysebion swydd i weld a ydym yn ddiofal yn cyflwyno rhwystrau i ymgeiswyr swydd benodol. Rydym o’r farn y bydd y newidiadau hyn hefyd yn annog mwy o bobl anabl i weithio i ni.

Y prif beth i’w gofio yw nad oes ‘bwled arian’ i gau bylchau cyflog. Rhoi nifer o newidiadau ar waith yw, yn aml y rheini y gallai ymddangos yn ddibwys, ond yn fwyfwy maen nhw’n gwneud gwahaniaeth. Mae’n ymwneud â chadarnhau’r rhain a’u hadolygu’n barhaus – gall newid diwylliant a meddylfryd gymryd amser. Rydym ar ddechrau’n taith yn Pets at Home, ond mae’r ymroddiad gennym i’w gael yn iawn i’n pobl a’n busnes. 

PageGroup: canolbwyntio ar fesuriad

"Mae’n hollol bwysig ein bod yn mesur ac yn adrodd yn ôl, a bydd dadansoddi’r canlyniadau o’r pwys mwyaf i sicrhau ein bod yn deall pa fesurau sydd angen i ni eu cymryd i sicrhau ein bod yn parhau i gau’r bwlch dros y blynyddoedd i ddod."

Sarah Kirk, Cyfarwyddwr Amrywiaeth Byd-eang a Chynhwysiant

Darllen hanes PageGroup

Pam yr ydych o’r farn ei bod yn bwysig i fonitro a mesur y bwlch cyflog rhyw?

Rwy’n arddel yr ymadrodd ‘yr hyn a gaiff ei fesur, gaiff ei wneud’. Mae gan bob rhaglen sydd wedi’i lansio ar draws ein busnes strwythur mesur cadarn, sydd yn caniatáu i ni ddeall sut mae pob un yn perfformio. Os ydych yn gwybod y ffigurau, gall eich helpu i ddeall ble mae’r bylchau a pha gyfeiriad sydd angen i chi fynd ato. Mae hyn yr un peth ar gyfer ein hadrodd ar y Bwlch Cyflog Rhywedd, yr ydym ar hyn o bryd yn gweithio at ei gwblhau. Mae’n holl bwysig ein bod yn mesur ac yn adrodd yn ôl, a bydd dadansoddiad o’r canlyniadau yn hanfodol i sicrhau ein bod yn deall ba fesurau sydd eu hangen arnom i sicrhau ein bod yn parhau i gau’r bwlch dros y blynyddoedd i ddod.

Allwch chi ddisgrifio beth sydd yng nghynllun gweithredu PageGroup i daclo’r bwlch cyflog rhyw?

Er nad ydym eto wedi cyhoeddi ein bwlch cyflog rhywedd, gallem rannu rhai ffyrdd y buom arnyn nhw i’w gau yn y blynyddoedd diweddar.

Y cam mwyaf trawsnewidiol yr ydym wedi’i gymryd yw creu fframwaith Gweithio Dynamig, sydd yn caniatáu cyflogeion ar bob lefel i weithio’n well ac yn gallach drwy wella eu cydbwysedd gwaith a bywyd. Mae hyn wedi newid y ffordd rydym yn gweithio, gyda’n gilydd ac fel unigolion fel ei gilydd. Mae’n adlewyrchu’r ymddiriedaeth sydd gennym yn ein cyflogeion i berfformio ar eu gorau, drwy roi cydbwysedd iddyn nhw a dewisiadau a gonestrwydd heb ganolbwyntio ar bresenoliaeth. Mae cynnig yr hyblygrwydd hwn wedi’n helpu i gefnogi, datblygu a chadw rhieni dawnus sydd yn gweithio. I ategu hyn, rydym hefyd yn cynnig rhaglen hyfforddi cyn  ac wedi mamolaeth, yn ogystal â seminarau magu plant a rhaglen fonitro.  

Rydym hefyd wedi dod yn aelod o raglen Gweithio Ymlaen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gysylltu â rhwydwaith o gyflogwyr eraill sydd i gyd wedi ymrwymo i wneud eu gweithleoedd y gorau y gallan nhw fod i rieni sydd yn gweithio. Trwy’r rhaglen hon, rhoddwyd mynediad i ni i adnoddau i helpu’n rheolwyr llinell a mamau sydd yn gweithio deimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn yn ystod absenoldeb mamolaeth neu wrth ddychwelyd i’r gwaith.

Capgemini: hyrwyddo arweinyddiaeth benywaidd

"Achoswyd ein bwlch cyflog rhywedd yn bennaf oherwydd bod â llai o fenywod mewn uwch rolau, felly rydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn gwella canran uwch fenywod, drwy ganolbwyntio ar ein pib linell doniau."

Frances Duffy, Cyfarwyddwr AD y DU

Darllen hanes Capgemini

Yn eich barn chi pam mae hi’n bwysig i fonitro a mesur y bwlch cyflog rhywedd?

Mae cyhoeddi’r bwlch cyflog yn bwysig, ac felly’r camau sydd yn dilyn. Mae’n hawdd fod yn hunanfodlon ond mae cyhoeddi a monitro cyhoeddus yn ffordd wych i sicrhau bod eich gweithle wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae ein cleientiaid hefyd yn disgwyl i ni gynnig amgylchedd cynhwysol cadarn a gwyddom fod cefnogi menywod yn ein helpu i gynnig y gwasanaeth gorau posib iddyn nhw.

Byddwn cyn hir yn cyhoeddi ein bwlch cyflog rhyweddol ac rydym yn brysur yn gweithio ar ein cynllun gweithredu i helpu cau ein bwlch cyflog yn y dyfodol.   

Allwch chi ddisgrifio beth sydd yn eich cynllun gweithredu i daclo’r bwlch cyflog rhyweddol?

Yn bennaf achosir y bwlch cyflog rhyweddol gan fod â llai o fenywod mewn uwch rolau, ac felly rydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn gwella canran uwch fenywod, drwy ganolbwyntio ar ein pib-linell doniau.

Law yn llaw a hyn, lansiom ein rhaglen ‘Active Inclusion’ i gynnwys pob aelod tîm wrth greu diwylliant lle bo pawb yn teimlo eu bod wedi’u derbyn ac yn gallu ffynnu mewn amgylchedd sydd yn cefnogi’u gyrfa a’u lles. Y cam cyntaf fu gwella cyfleoedd ar gyfer hyblygrwydd drwy annog defnydd call ac effeithiol o oriau gweithio drwy lansio ein polisi cytgord bywyd-gwaith. Cafodd hwn ei danategu gan raglen addysgu cynhwysfawr ar gyfer ein his-lywyddion, rheolwyr hurio a rheolwyr llinell, sydd wedi rhoi’r hyder i ni hysbysebu’r rhan fwyaf o’n rolau fel rhai hyblyg.

Yn ail, rydym yn rhagweithiol wedi hybu ein modelau rôl fenywaidd o fewn a thu allan ein sefydliad fel ei gilydd ac rydym yn edrych ymlaen at redeg rhaglen dychwelyd i’r gwaith peilot ym mis Medi 2017. Rydym hefyd yn aelodau o ymgyrch Gweithio Ymlaen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gefnogi mamau newydd a mamau beichiog sydd wedi rhoi cipolwg i ni o beth mae ein cyfoedion yn ei gynnig i gefnogi’u cyflogeion yn y cyfnod hollbwysig hwn yn eu bywydau gweithio.

 

 

Creu diwylliant gweithio hyblyg yn John Lewis a  Ford UK

Diweddariadau tudalennau