Erthygl

Pwyllgor Ymgynghorol ar Anabledd

Wedi ei gyhoeddi: 1 Gorffenaf 2021

Diweddarwyd diwethaf: 13 Mai 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Am y pwyllgor

Darparodd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Anabledd gyngor ac arweiniad i lywio ein gwaith o ddiogelu a hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl.

Roedd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan ein cyn Bwyllgor Anabledd a bu'n:

  • darparu cyngor ar sut y gallwn gefnogi pobl anabl
  • cynghori ar feysydd penodol o'n busnes
  • cefnogi cyflwyno ein strategaeth ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd

Gallwch ddarllen mwy yng nghylch gorchwyl ein Pwyllgor Ymgynghorol ar Anabledd .

Cyfarfu'r Pwyllgor o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd isod.

Cofnodion cyfarfodydd

Ein nod yw cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd cyn gynted ag y gallwn ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo'n ffurfiol. Mae cofnodion cyfarfodydd fel arfer yn cael eu hadolygu a’u cymeradwyo fel eitem agenda yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

Y Pwyllgor Anabledd statudol

Rhagflaenwyd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Anabledd gan y Pwyllgor Anabledd statudol, a gafodd ei ddiddymu ar 31 Mawrth 2017 drwy orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 .

Gallwch ddarllen adroddiad terfynol y Pwyllgor Anabledd (38KB, Word) a darganfod mwy am y Pwyllgor Anabledd ar wefan yr Archifau Cenedlaethol .

Diweddariadau tudalennau