Erthygl

Pwyllgorau ymgynghorol

Wedi ei gyhoeddi: 7 Ebrill 2022

Diweddarwyd diwethaf: 7 Ebrill 2022

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) yn cefnogi’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Gweithredol (CEO) fel Swyddog Cyfrifyddu, drwy ddarparu cyngor annibynnol priodol a her adeiladol i roi sicrwydd bod:

  • trefniadau llywodraethu cyffredinol ar waith ac yn briodol ac yn gweithredu’n effeithiol
  • y fframwaith rheolaeth a rheolaeth ariannol yn effeithiol ac wedi ei gefnogi gan ddiwylliant cydymffurfio priodol
  • asesu risg a mesurau lliniaru cadarn ac effeithiol a threfniadau wrth gefn wedi’u gwreiddio ac yn gweithredu’n effeithiol mewn prosesau rheoli ariannol ac anariannol, yn unol ag arfer gorau
  • adroddiadau ariannol allanol yn ddarbodus, yn gywir, yn briodol ac yn gyson â pholisïau cyfrifyddu’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM).
  • adroddiadau ariannol a pherfformiad mewnol yn amserol, yn ddarbodus, yn briodol ac yn gyson ag adroddiadau ariannol allanol
  • sicrwydd archwilio mewnol yn rhoi lefel briodol o gysur i'r Swyddog Cyfrifyddu ac mae'r berthynas â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn effeithiol.

Mae ARAC yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd, Kunle Olulode.

Gweler ein cylch gorchwyl ARAC llawn .

Pwyllgor Pobl a Gweithle (P&WC)

Pwrpas y Pwyllgor Pobl a Gweithle (P&WC) yw darparu cyngor strategol, cefnogaeth a her i swyddogion a sicrwydd i'r Bwrdd ar yr holl faterion sy'n ymwneud â phobl, seilwaith a chydnabyddiaeth sy'n effeithio ar gylch bywyd y cyflogai. Mae’n olynu’r Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydnabyddiaeth (HRRC), a ddisodlodd dau bwyllgor blaenorol, y Pwyllgor Adnoddau a’r Pwyllgor Tâl. Mae meysydd ffocws allweddol y P&WC yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • datblygu'r Comisiwn fel 'cyflogwr enghreifftiol' – a'r polisïau, prosesau a mentrau pobl y mae hyn yn eu cwmpasu
  • cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb – polisïau, mentrau ac alldro
  • strategaeth wobrwyo a dyfarniad cyflog blynyddol (gan gynnwys bylchau cyflog – cynlluniau gweithredu ac alldro)
  • polisi rheoli perfformiad, prosesau ac alldro
  • rheoli talent a chynllunio olyniaeth
  • mentrau ymgysylltu â gweithwyr ac alldro
  • strategaethau, polisïau a gwasanaethau seilwaith (TGCh, Lleoliadau ac Ystadau)
  • lles cydweithwyr a diwylliant y Comisiwn
  • goruchwylio pobl strategol a gweithredol, seilwaith a risgiau llywodraethu gwybodaeth. Gan gynnwys: materion a digwyddiadau, diogelu data, diogelwch gwybodaeth, technoleg gwybodaeth / seiberddiogelwch. (Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd ac ARAC, a’i uwchgyfeirio yn ôl yr angen)

Mae P&WC yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd, Caroline Waters OBE .

Gweler ein cylch gorchwyl P&WC llawn .

Diweddariadau tudalennau