Sut i ofyn am adolygiad o ddefnydd pwer gorfodi

Wedi ei gyhoeddi: 12 Hydref 2016

Diweddarwyd diwethaf: 12 Hydref 2016

Cyflwyniad

Wrth benderfynu gweithredu neu gymryd camau rheoleiddiol mae’r Comisiwn yn gwneud pob ymdrech i gydymffurfio â’i bolisi Cydymffurfio a Gorfodi a chyda Chod y Rheolyddion.

Os caiff eich sefydliad ei effeithio’n uniongyrchol gan un o’n penderfyniadau yn ymwneud â defnyddio ein pwerau gorfodi, ac rydych o’r farn ein bod wedi cam weithredu, gallwch ofyn i ni gynnal adolygiad. 

Cwmpas

Mae’r polisi hwn yn gymwys i benderfyniad gan y Comisiwn i ddefnyddio’r pwerau statudol canlynol yn erbyn eich sefydliad neu ofyn ichi ddarparu gwybodaeth neu gymryd camau er mwyn osgoi bod yn ddarostyngedig i un o’r pwerau hyn:

  • I gynnal ymchwiliad ffurfiol (Adran 16 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • I gynnal archwiliad ffurfiol (Adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • I gyflwyno hysbysiad gweithred anghyfreithlon (Adran 21 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • Dod i gytundeb i beidio â chyflawni gweithred anghyfreithlon (Adran 23 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • Achosion cyfreithiol i atal neu rwystro gweithred anghyfreithlon (Adrannau 24 a 25 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • I ddwyn hawliad ar gyfer adolygiad barnwrol (Adran 30 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • I gynnal asesiad ffurfiol o gydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006)
  • I gyflwyno hysbysiad cydymffurfio (Adran 32 Deddf Cydraddoldeb 2006).

Sail ar gyfer adolygu

Bydd penderfyniad gan y Comisiwn i gymryd camau neu weithredu rheoleiddiol yn gymwys yn unig ar gyfer adolygiad os:

a) bydd tystiolaeth neu wybodaeth newydd neu sylweddol (gan gynnwys datblygiadau cyfreithiol) sydd yn bwysig i’r mater ac sydd wedi dod i law ers i’r Comisiwn wneud y penderfyniad. Rhaid i’r dystiolaeth hon beidio â bod yn dystiolaeth a byddai wedi bod yn hawdd i’w chael gan ddiwydrwydd rhesymol pan gyflwynwyd yr achos yn gyntaf. Rhaid iddi fod yn berthnasol ac yn dystiolaeth a fyddai’n debygol o fod wedi cael dylanwad pwysig ar benderfyniad y Comisiwn i roi cynhorthwy cyfreithiol. Rhaid iddi hefyd fod yn ôl pob golwg yn gredadwy.

A/NEU
b) rydych yn gallu darparu rhesymau pam eich bod yn ystyried nad yw’r penderfyniad yn bodloni un neu fwy o’r egwyddorion sydd wrth wraidd rôl rheoleiddiol y Comisiwn: cymesuredd, atebolrwydd/tryloywder, a chysondeb. 

Proses

  • Rhaid i chi gyflwyno’r cais am adolygiad yn ysgrifenedig, gan roi rhesymau llawn a darparu unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth newydd y gofynnir i’r Comisiwn ei hystyried.
  • Fel rheol rhaid cael y cais am adolygiad cyn pen mis i ddyddiad y penderfyniad y mae’n ymwneud ag ef.
  • Bydd y Comisiwn yn cydnabod cael y cais am adolygiad cyn pen pum diwrnod gwaith.
  • Bydd uwch gyfreithiwr yn nhîm cyfreithiol y Comisiwn, nad oedd yn ymwneud â’r mater yn flaenorol, yn asesu a yw un neu ddau faen prawf yr adolygiad yn cael eu bodloni
  • Cyn gwneud yr asesiad hwn, gallai’r uwch gyfreithiwr yn gyntaf ysgrifennu atoch i ofyn am ragor o wybodaeth i ategu’r cais am adolygiad, neu ar gyfer egluro tystiolaeth newydd neu wybodaeth a ddarparwyd eisoes.
  • Bydd yr uwch gyfreithiwr yn ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith o gael y cais adolygu neu cyn pen 10 diwrnod o gael unrhyw wybodaeth ychwanegol gennych, pa un bynnag sy ddiweddarach.
  • Os yw’r uwch gyfreithiwr o’r farn nad yw’r amodau ar gyfer adolygiad wedi eu bodloni, gwnaiff ef neu hi eich hysbysu o hyn a bydd y penderfyniad yn derfynol.
  • Os bydd yr uwch gyfreithiwr yn penderfynu nad yw’r amodau ar gyfer adolygiad wedi’u bodloni, gwnaiff ef neu hi ddrafftio adroddiad ac argymhelliad i’r Prif Swyddog Cyfreithiol a’ch hysbysu bod hynny wedi digwydd a rhoi dyddiad arwyddol ar gyfer ymateb terfynol.
  • Cyn pen pum diwrnod gwaith i ddyddiad penderfyniad y Prif Swyddog Cyfreithiol, gwnaiff yr uwch gyfreithiwr ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am ganlyniad yr adolygiad. 

Cyfle cyfartal

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a’n nod yw gwneud y polisi adolygu hwn yn un hawdd ei ddefnyddio. Gwnawn gymryd camau i ddarparu unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i gael mynediad i’r broses adolygu, megis darparu gohebiaeth mewn fformatau gwahanol a/neu ddarparu cynhorthwy arall o’r fath y gallech yn rhesymol ofyn amdano. 

Diweddariadau tudalennau