Ein dull rheoleiddio

Wedi ei gyhoeddi: 20 Mawrth 2020

Diweddarwyd diwethaf: 20 Mawrth 2020

Ein hymagwedd reoleiddiol

I ni, diben rheoleiddio yw newid ymddygiad yn y gymdeithas ac i atal a stopio camweddau anghyfreithlon drwy weithio gydag unigolion a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Gwnawn hynny i wella cydraddoldeb, hawliau dynol a pherthynas dda yn y gymdeithas. Helpu pobl a sefydliadau i gydymffurfio â deddfwriaeth yw prif ffocws y gwaith hwn, ac weithiau bydd hyn yn golygu camau gorfodi ffurfiol, gan ddefnyddio’r pwerau a roddodd y Ddeddf i ni.

Nid yw rheoleiddio yn golygu camau gorfodi cyfreithiol yn unig, megis ymchwiliadau ac archwiliadau. Mae’n golygu darparu cyngor hefyd, codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, trosglwyddo arbenigedd a chefnogi sefydliadau yn eu hymdrechion i gydymffurfio â’r gyfraith.

Mewn gair, mae gennym amrywiaeth o gyfarpar y gallwn eu defnyddio, a byddwn bob amser yn dewis y dull a fydd yn gweithio orau ymhob un amgylchiad. Sail ein camau yw tystiolaeth ac asesiad o’r hyn sydd o fudd orau i’r cyhoedd. Wrth wneud hynny, rydym yn rhwym i God Ymarfer Hampton i Reoleiddion, sydd yn amlinellu pum egwyddor rheoleiddio da: cymesuredd, atebolrwydd, cysondeb, tryloywder a thargedu.

Byddwn yn ymgymryd â’n cylch gwaith rheoleiddiol ar lefelau gwahanol. Mae gan y Comisiwn:

  • gyfrifoldeb rheoleiddiol uniongyrchol (ac mae’n rhwym i godau ymarfer) ar gyfer hybu cydraddoldeb, hawliau dynol ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfraith
  • yn gweithio gyda rheoleiddion eraill yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol
  • mae ganddo rôl arweinyddiaeth gyhoeddus ac eiriolaeth - ein nod yw creu consensws sydd yn cydnabod bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i gymdeithas deg
  • y Comisiwn yw Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol achrededig y DU (NHRI) ac mae’n gweithio yn unol ag Egwyddorion Paris – sydd yn golygu, er enghraifft, monitro a gweithredu ar dramgwyddau hawliau dynol, cynghori llywodraeth ac addysgu’r cyhoedd.

Egwyddorion

Mae egwyddorion yn bwysig i fframio’n hymagwedd i waith a pherthynas â rhanddeiliaid, partneriaid a’r sawl rydym yn eu rheoleiddio. Ein hegwyddorion yw:

  • Bydd y Comisiwn yn anelu at arwain dealltwriaeth y gymdeithas o heriau newydd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol. Rhan bwysig o hynny yw sicrhau ein bod yn deall yn llawn yr heriau a wyneba sefydliadau wrth roi cydraddoldeb a hawliau dynol ar waith yn eu gweithgareddau.
  • Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i onestrwydd a thryloywder yn ei waith rheoleiddio. Byddwn felly yn cyhoeddi’n cynlluniau a’n blaenoriaethau bob blwyddyn i sicrhau bod gan bob rhanddeiliad syniad clir o’n rhaglen waith. Byddwn hefyd yn adrodd yn ôl ar sut wnaethom gyflawni’n nodau.
  • Swydd y Comisiwn yw helpu sefydliadau ac unigolion gydymffurfio â’r gyfraith a dilyn y safonau ymarfer uchaf. Mae gennym amrywiaeth o gyfarpar a all helpu pobl i wneud hyn a gwnawn eu defnyddio yn ôl yr heriau a wynebant. Mae’r cyfarpar hyn yn cynnwys pwerau gorfodi a chyfreitha ac fe wnawn eu defnyddio yn gymesur, yn bendant, yn brydlon ac yn effeithiol pan fo’u hangen.
  • Byddwn yn sicrhau bod pob un o’n camau wedi’u sefydlu ar dystiolaeth, eu bod yn gymesur, cyson, atebol a thryloyw. Mae hyn yn cynnwys egluro pam wnaethom ddewis cwrs arbennig o weithredu neu pam na wnaethom gymryd rhan ynddo.
  • Byddwn yn defnyddio’n hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon, effeithiol ac economaidd. Golygu hynny y byddwn yn targedu’n hadnoddau lle maent yn fwy tebygol o gael yr effaith fwyaf a heb ddefnyddio mwy o’n pwerau rheoleiddiol neu adnoddau nag sydd eu hangen.
  • Bydd y Comisiwn yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau, sefydliadau a rheoleiddion eraill. Fodd bynnag, mae ein hannibyniaeth a’n pwerau uniongyrchol ein hunain yn bwysig a byddwn yn ofalus i beidio â’u rhagfarnu.

Nodau rheoleiddiol

Cam cyntaf yw gosod nodau neu amcanion rheoleiddiol wrth ddiffinio’r drefn reoleiddiol. Rhaid i’r rheolydd bennu’r camau rheoleiddiol priodol yn erbyn amcanion sylfaenol clir. Y nhw hefyd yw’r mesurau yn erbyn y bydd rheolydd yn cael ei ddal yn atebol iddynt ac felly maent yn allweddol i’r sawl â chyfrifoldeb rheoleiddiol. Yn nhermau gweithredu’r fframwaith rheoleiddiol a dull yn seiliedig ar risg, dylai awdurdodau rheoleiddiol ddefnyddio’u hadnoddau lle mae’r risgiau i’r amcanion ac egwyddorion sefydlog ar eu mwyaf.

Amcanion rheoleiddiol y Comisiwn yw:

  1. Meithrin cymdeithas sydd yn deall ac yn parchu cydraddoldeb a hawliau dynol – rydym yn bwriadu gwneud hynny drwy lunio a dylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau.
  2. I wella cydymffurfiaeth sefydliadau ac unigolion â rhwymedigaethau a dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol.
  3. I adeiladu hyder a dealltwriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
  4. I ddiogelu unigolion rhag gwahaniaethu a chamweddau hawliau dynol.
  5. I ddod yn rheolydd effeithiol a chredadwy a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI).

Diweddariadau tudalennau