Arweiniad

Pam dysgu am gydraddoldeb a hawliau dynol?

Wedi ei gyhoeddi: 16 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 16 Mai 2016

Pam ei fod yn bwysig i ddysgu am gydraddoldeb a hawliau dynol?

Mae angen i bobl ifanc ddeall cydraddoldeb a gwybod am eu hawliau, i ddeall sut ddylen nhw gael eu trin, a sut ddylen nhw drin eraill fel ei gilydd. Mae dysgu’r pynciau hyn yn creu man diogel i fyfyrwyr i archwilio, trafod, herio a ffurfio eu barnau a’u gwerthoedd eu hunain.

Gall yr wybodaeth a’r parch dros hawliau bydd y myfyrwyr yn elwa o hyn, wedi’i gyfuno â dealltwriaeth, parch a goddefgarwch i wahaniaeth, roi grym iddyn nhw daclo rhagfarn, gwella pherthnasau a gwneud y gorau o’u bywydau. Yn ein cymdeithas fwy amrywiol a heriol fyth, daw yn fwy pwysig i feithrin yr agweddau cadarnhaol a meddwl agored hyn ym mhobl ifanc.

Beth yw buddion dysgu’r pynciau hyn?

Mae addysgu myfyrwyr am gydraddoldeb a hawliau dynol yn grymuso eich myfyrwyr â dysg y gallan nhw ei defnyddio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth - yn wir, byddan nhw’n ei chymryd allan i goridorau a buarthau chwarae’r ysgol, i mewn i’w cartrefi a thu hwnt i’r gymuned ehangach. Bydd y parch a’r goddefgarwch mae’n dysgu yn eich helpu chi a’ch myfyrwyr i greu diwylliant ysgol fwy iachus, hapusach a thecach, a gallai ostwng achosion bwlio ac ymddygiadau negyddol arall a gall wella cyraeddiadau a dyheadau. Mae’r rhain i gyd yn ddeilliannau hanfodol sy’n ategu ffocws cryf y Llywodraeth a’r Swyddfa Safonau Mewn Addysg ar wella ymddygiad a diogelwch disgyblion, taclo bwlio a helpu disgyblion i gyflawni.

Sut mae’r pynciau hyn yn ffitio i’r cwricwlwm?

Wrth i’r cwricwlwm newid, gallai lle cydraddoldeb a hawliau dynol ym myd addysg newid. Fodd bynnag, mae’r pynciau yn naturiol yn addas i Ddinasyddiaeth a dysgu ABGI, a hefyd yn eich caniatáu i fywiogi pynciau craidd megis, Hanes, Addysg Grefyddol, Daearyddiaeth, Celf a mwy. Gall athrawon ar draws yr holl bynciau ddefnyddio’r deunyddiau i gyflenwi gwersi yn hyderus ar gydraddoldeb a hawliau dynol drwy diwtorialau a gwasanaethau.

Mae addysg cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan hanfodol o ddysgu ac addysgu o safon uchel. Gall natur bywyd go iawn a chyfoes y pynciau helpu ysgolion i gyflenwi cwricwlwm cytbwys a pherthnasol sy’n helpu myfyrwyr i wneud synnwyr o’r byd ehangach.

Pam ei fod yn bwysig i fabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan at gydraddoldeb a hawliau dynol?

I elwa ar fuddion llawn addysg cydraddoldeb a hawliau dynol, mae’n hanfodol i ddysgu’r pynciau mewn amgylchedd sy’n parchu hawliau a gwahaniaethau myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd. Heb ddiwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol o fewn y dosbarth a’r ysgol yn gyffredinol, gall ddysgu am y pynciau hyn ymddangos yn amherthnasol ar y gorau, ac yn rhagrithiol ar y gwaethaf. 

Sut mae dysgu’r pynciau hyn yn ategu fy nyletswyddau cyfreithiol?

Mae dysgu cydraddoldeb a hawliau dynol yn helpu ysgolion ac athrawon i gyflenwi eu dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae rhaid i academïau ac ysgolion a gynhelir roi sylw dyledus i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED). Golyga hyn fod yn rhaid iddyn nhw gymryd camau gweithredol i nodi a mynd i’r afael â materion gwahaniaethu lle bo tystiolaeth o ragfarn, aflonyddu neu erledigaeth, diffyg dealltwriaeth, anfantais, neu brinder pobl â nodweddion gwarchodedig yn cymryd rhan (y nodweddion yw anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol). O dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, mae gan ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i beidio ag ymddwyn mewn modd sydd yn anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Drwy feithrin dealltwriaeth ym myfyrwyr o gydraddoldeb a hawliau dynol, gall hyn helpu i daclo ymddygiad rhagfarnllyd a niweidiol, gan eich helpu i gyflenwi’ch dyletswyddau cyfreithiol.

Diweddariadau tudalennau