Arweiniad

Deall hawliau dynol

Wedi ei gyhoeddi: 16 Mai 2016

Diweddarwyd diwethaf: 16 Mai 2016

O ble ddaw hawliau dynol?

Mae syniadau am hawliau dynol wedi esblygu dros lawer o ganrifoedd. Ond cawsant gefnogaeth ryngwladol gryf yn dilyn yr Holocost a’r Ail Ryfel Byd. I ddiogelu cenedlaethau yn y dyfodol rhag yr erchyllterau hyn eto, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol (UDHR) yn 1948 a gwahodd gwladwriaethau i’w arwyddo a’i gadarnhau. Am y tro cyntaf, gosododd y Datganiad Cyffredinol y rhyddid a’r hawliau sylfaenol allan a rennir gan bob bod dynol.


Y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol

Ym 1947, sefydlodd y Cenhedloedd Unedig y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ddrafftio’r UDHR. Roedd cynrychiolwyr o ystod o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, yn gysylltiedig â’r broses ddrafftio. Ar 10 Rhagfyr 1948 cafodd y Datganiad ei fabwysiadu gan y CU.

Mae’r rhaglith i’r UDHR yn gosod nodau’r Datganiad allan, sef cyfrannu at ‘ryddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd’, i’w gyflawni drwy gydnabyddiaeth gyffredinol a pharch i hawliau dynol. Mae’r hawliau hyn bellach wedi’u diffinio mewn 30 o erthyglau sy’n cynnwys hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Prif ddatblygiad yr UDHR yw ei fod yn cydnabod hawl gyffredinol i hawliau sy’n gymwys i ‘bob aelod y teulu dynol’. Cyn y Datganiad, ystyriwyd mai awdurdodaeth y wladwriaeth roedd yr unigolion yn perthyn iddi oedd yn gyfrifol am eu rhyddid a’u hawliau. Anogodd digwyddiadau trawmatig yr Ail Ryfel Byd yr argyhoeddiad cryf nad oedd y sefyllfa hon yn ddaliadwy mwyach, fod angen diogelwch cyffredinol i bob unigolyn, ac y dylai’r gymuned ryngwladol fonitro’r hyn sy’n digwydd oddi mewn gwladwriaethau yn gadarnach.


Sut yr amddiffynnir hawliau dynol?

Datganiadau, confensiynau a deddfau hawliau dynol yw’r man cychwyn ar gyfer gwireddu hawliau dynol ym mywydau pobl. Mae tri lefel gwahanol o gyfraith hawliau dynol  – rhyngwladol, rhanbarthol a domestig. Caiff y rhain eu gorfodi a’u monitro mewn ffyrdd gwahanol. 


Cyfraith ryngwladol

Datganiad yw’r UDHR,  ac felly nid yw’n rhwymol yn gyfreithiol. Fodd bynnag mae wedi ysbrydoli amrywiaeth o declynnau hawliau dynol rhyngwladol (confensiynau, cyfamodau neu gytundebau yn aml), megis y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), a Chonfensiwn y CU yn erbyn Arteithio. Caiff y rhain eu monitro gan y CU. Mae rhaid i wledydd sydd wedi arwyddo a chadarnhau’r teclynnau hyn gyflwyno adroddiadau rheolaidd (bob 4–5 mlynedd fel arfer) i ddangos sut maen nhw’n gweithredu’r hawliau yn y cyfamod. Caiff yr adroddiadau eu harchwilio gan bwyllgor o arbenigwyr, sy’n cyhoeddi’i bryderon a’i argymhellion.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi arwyddo cyfamodau’r CU a ganlyn ar hawliau dynol:

  • Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol
  • Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
  • Y Confensiwn yn Erbyn Arteithio
  • Y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod
  • Y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol
  • Y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn
  • Y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Nid yw’r cyfamodau hawliau dynol rhyngwladol yn rhan o gyfraith ddomestig y DU. Golyga hyn na allwch gyflwyno achos yn erbyn y Llywodraeth drwy ddefnyddio un o’r cyfamodau hyn gerbron y llysoedd yn y DU. Fodd bynnag, mae’r DU wedi arwyddo mecanwaith o dan y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod sy’n caniatáu i fenywod unigol yn y DU gwyno wrth bwyllgor o arbenigwyr yn y CU os ydyn nhw o’r farn bod eu hawliau wedi’u torri.

Er bod pob un o’r cyfamodau uchod yn berthnasol i ysgolion, y cyfamod rhyngwladol pwysicaf i athrawon wybod amdano yw Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at What is the United Nations Convention on the Rights of the Child?


Cyfraith ranbarthol

Ar yr un adeg ag yr oedd hawliau dynol yn cael eu datblygu o fewn system y Cenhedloedd Unedig, dechreuodd grwpiau rhanbarthol gwladwriaethau fabwysiadu cyfamodau eu hunain yn delio â hawliau dynol. Mae’r rhain yn cynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, y Siarter Affricanaidd ar Hawliau Dynol a Hawliau Pobl, a’r Confensiwn Americanaidd ar Hawliau Dynol. Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o bosib yw’r mwyaf datblygedig o’r mecanweithiau rhanbarthol hyn. Cafodd y Confensiwn ei gytuno gan Gyngor Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei sefydlu i ddiogelu ac amddiffyn hawliau dynol, democratiaeth a rheol y gyfraith ar draws ei aelod wladwriaethau. Ni ddylid cymysgu rhwng Cyngor Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cyngor Ewrop yn cynrychioli ‘Ewrop Fwyaf’ ac mae ganddo 47 aelod wladwriaethau ar hyn o bryd gan gynnwys gwledydd megis Rwsia, Twrci a’r Wcráin . Sefydlodd y Confensiwn Lys Hawliau Dynol Ewrop gyda’i ganolfan yn Strasbwrg, Ffrainc.

Arwyddodd y DU y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ym 1951; bu cyfreithwyr yr DU yn weithredol yn y broses ddrafftio. Ers 1966, gall unrhyw un yn y DU gwyno wrth Lys Hawliau Dynol Ewrop os ydyw yn meddwl fod ei hawliau a osodwyd allan yn y Confensiwn wedi’u torri. Gan fod Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi dod i rym (gweler isod), gall achosion hawliau dynol o dan y Confensiwn eu clywed bellach yn y llysoedd yn y DU, heb orfod mynd yr holl ffordd i Strasbwrg. Bydd Llys Ewrop yn clywed achosion dim ond ar ôl i bopeth domestig arall fethu h.y. maen nhw wedi ceisio pob llys posibl yn y DU. Mae’n dal yn bosibl i Lys Ewrop ystyried achos hyd yn oed os yw Goruchaf Lys y DU wedi pennu dyfarniad.


Cyfraith ddomestig

Mae gan amryw o wledydd hefyd eu deddfwriaeth ddomestig eu hunain ar hawliau dynol. Yn y Deyrnas Unedig, mae gennym ein Deddf Hawliau Dynol ein hunain a ddaeth i rym ar 2 Hydref 2000, sy’n galluogi Llysoedd yn y DU i ystyried y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn caniatáu i bobl ddefnyddio rhai hawliau yn ein llysoedd domestig a dynnwyd o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at What is the Human Rights Act 1998?


Pa gyfreithiau hawliau dynol sydd fwyaf perthnasol i mi fel athro ac i’m myfyrwyr?

Y prif gonfensiynau a chyfreithiau mae rhaid i athrawon wybod amdanynt yw Deddf Hawliau Dynol 1998, gan ei bod yn gosod cyfrifoldebau ar ysgolion fel cyrff cyhoeddus, ac yn galluogi i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gael ei ystyried gan y llysoedd yn y Deyrnas Unedig.

Hefyd mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn werth chweil i’w drafod gyda phlant a phobl ifanc yn yr ysgol, gan fod perthnasedd penodol ganddo i blant a phobl ifanc yn y DU, ac i’r sawl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y DU.  Mae’r UNCRC yn sylfaen ar gyfer dysgu am a defnyddio cyfamodau eraill gallai fod yn berthnasol i bobl ifanc, megis y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod, y Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol a’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau. 


Beth yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn?

Mae gan blant hawl i bob hawl ddynol. Fodd bynnag mae teclyn hawliau dynol pwrpasol i blant, o’r enw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Cadarnhaodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr UNCRC ym 1991. Roedd wedi cael ei arwyddo a’i gadarnhau gan bob un o aelod wladwriaethau’r CU, ac eithrio’r Unol Daliaethau a Somalia, gan ei wneud y cyfamod hawliau dynol rhyngwladol sydd wedi ei gadarnhau’n helaethaf.

Mae’r confensiwn yn cynnwys 54 o erthyglau. Mae Cynghrair Hawliau Plant i Loegr (CRAE) wedi llunio crynodeb ar yr UNCRC.

Mae’r UNCRC yn angenrheidiol am bedwar prif reswm:

  1. Mae plentyndod yn gyfnod o dwf, datblygiad a photensial heb eu tebyg.
  2. Mae’n hawdd brifo a niweidio plant, yn enwedig babanod a phlant ifanc iawn, a’u bygwth a’u dychryn – maen nhw’n agored i niwed ac mae angen eu diogelu.
  3. Caiff anghenion a buddion plant eu hanwybyddu’n aml neu’u tanbrisio mewn trafodaethau cyhoeddus ac wrth wneud penderfyniadau.
  4. Mae cyfamod pwrpasol yn rhoi canolbwynt a fframwaith cyfreithiol i bawb sy’n ymdrechu i wella bywydau plant a’u statws cymdeithasol  – ledled y byd.

Mae’r cysyniad ‘lles gorau’r plentyn’ yn hollol bwysig wrth ddehongli a gweithredu’r Confensiwn. Un o agweddau mwyaf hanfodol ac arloesol yr UNCRC yw ei bwyslais ar blant yn cael eu clywed a’u cymryd o ddifrif. Mae Erthygl 12 y Confensiwn yn rhoi hawl i bob plentyn fynegi ei farn ar unrhyw fater sy’n effeithio arno. Mae’n rhaid rhoi sylw dyledus yn unol â’u hoedran a’u haeddfedrwydd – mewn geiriau arall, po fwyaf y bydd plentyn yn ei ddeall am benderfyniad arbennig a chanlyniadau ei farn, po fwyaf fydd ei ddylanwad. Mae Erthygl 12 yn benodol yn gofyn y dylai farn plentyn gael ei glywed yn uniongyrchol neu drwy gynrychiolydd  mewn unrhyw fforwm gwneud penderfyniadau – achos llys neu wrandawiad am waharddiad o’r ysgol er enghraifft. Un o agweddau canolog hawliau dynol plant yw bod yn rhaid iddyn nhw heddiw gael eu parchu fel pobl, ac nid eu trin, mewn gair, fel ‘pobl fach anaeddfed’.

Mae hawl plentyn i gael ei glywed a’i gymryd o ddifrif yn rhan gynyddol o gyfraith ddomestig, yn arbennig o ran plant yng nghyswllt gwasanaethau gofal cymdeithasol. Cyflwynodd Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ofyniad i ysgolion yng Nghymru a Lloegr i ymgynghori â myfyrwyr ar ddatblygu polisïau newydd ar ymddygiad, ac ers 2002 mae deddfwriaeth wedi gofyn i ysgolion rhoi sylw dyledus i ganllaw ar gyfranogiad plant. Hefyd mae Deddf Plant 1989 yn gofyn bod dymuniadau a theimladau plant yn cael eu cymryd i gyfrif pan fo llys yn pennu ar faterion sy’n berthnasol i fagwraeth plentyn ac unrhyw weinyddiaeth o’i gylch.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, grŵp o 18 arbenigwr hawliau plant, yn cyfarfod yn Geneva teirgwaith y flwyddyn i fonitro gweithrediad yr UNCRC ymhob gwlad sydd wedi cadarnhau’r UNCRC, ac yn archwilio’r gwledydd hyn ar sut maen nhw’n cyflawni’u rhwymedigaethau o dan yr UNCRC bob pum mlynedd. Gallwch ddarllen yr adroddiadau ar y DU a ysgrifennwyd gan y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.


Beth yw Deddf Hawliau Dynol 1998?

Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Ddeddf Hawliau Dynol 1998 gyda dau brif nod:

  • I ddod â’r hawliau dynol sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o dan awdurdodaeth y llysoedd yn y DU. Mae hyn yn ei wneud yn bosibl i bobl godi neu hawlio eu hawliau dynol o fewn systemau cyfreithiol a chwynion yn y DU. Felly mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gwneud hawliau dynol yn fwy cyraeddadwy - yn  gyffredinol mae’n gyflymach, rhatach ac yn fwy ymarferol i ddwyn eich achos gerbron y llysoedd yn y DU.
  • I feithrin diwylliant newydd o barch i hawliau dynol yn y DU. Nid yw hawliau dynol yn unig  yn ymwneud â’r gyfraith a dwyn achosion gerbron llysoedd. Maen nhw’n berthnasol i lawer o’r penderfyniadau mae pobl yn ei wneud a’r sefyllfaoedd mae pobl yn eu profi bob dydd. Bwriadodd y Llywodraeth i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 roi hawliau dynol yn greiddiol i’r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflenwi.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn wirioneddol berthnasol i’n bywydau beunyddiol yn y DU. Cafodd ei defnyddio i ddiogelu pobl hŷn sy’n dioddef camdriniaeth mewn cartrefi gofal, i sicrhau bod cludiant yn cael ei ddarparu i blant anabl gyrraedd yr ysgol, ac i ddiogelu menywod rhag trais domestig.

Yr hawliau sydd yn Neddf Hawliau Dynol 1998:

  • Hawl i fywyd (Erthygl 2)
  • Diogelu rhag arteithio (Erthygl 3)
  • Diogelwch rhag caethiwed a llafur dan orfod (Erthygl 4)
  • Hawl i ryddid a diogelwch (Erthygl 5)
  • Hawl i dreial teg (Erthygl 6)
  • Dim cosb heb gyfraith (Erthygl 7)
  • Hawl i barch at fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8)
  • Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd (Erthygl 9)
  • Rhyddid mynegiant (Erthygl 10)
  • Rhyddid ymgynnull a chymdeithasiad (Erthygl 11)
  • Hawl i briodi (Erthygl 12)
  • Diogelwch rhag gwahaniaethu (Erthygl 13)
  • Hawl i ddiogelu eiddo (Erthygl 1 Protocol 1)
  • Hawl i addysg (Erthygl 2 Protocol 2)
  • Hawl i etholiadau rhydd (Erthygl 3 Protocol 1)

Sut mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gweithio?

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gweithio mewn pedair prif ffordd:

  1. Mae’n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ysgolion y wladwriaeth, academïau ac ysgolion rhydd, beidio â gweithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â’r hawliau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
  2. Gall unrhyw un sy’n credu fod ei hawliau dynol wedi’u torri gan awdurdod cyhoeddus ddwyn hawliad yn erbyn yr awdurdod hwnnw. Gall hyn fod yn y Llysoedd Cyffredin yn y Deyrnas Unedig, a thrwy ystod o weithdrefnau arall gan gynnwys tribiwnlysoedd, gwrandawiadau a gweithdrefnau cwyno. Gall unrhyw un yn y DU ddwyn hawliad o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 – nid yw’r Ddeddf yn gyfyngedig i ddinasyddion y DU.
  3. Pan fo’n bosibl, mae’n rhaid i ddeddfau sy’n bodoli eisoes gael eu dehongli a’u cymhwyso mewn ffordd sy’n gydnaws â’r hawliau dynol a gynhwysir yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Os yw’n amhosibl dehongli darn o ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n bodoli eisoes yn y modd hwn, bydd y llysoedd yn cyhoeddi’r hyn a elwir yn ‘datganiad o anghytundeb’. Mae hwn yn anfon neges glir at ddeddfwyr y dylen nhw newid y gyfraith i’w gwneud yn gydnaws â hawliau dynol. Mae hyn yn sefydlu ‘deialog ddemocrataidd’ rhwng ceinciau’r llywodraeth, wrth sicrhau bod y Senedd yn y pen draw yn aros yn sofran.
  4. Ar gyfer pob Deddf Seneddol newydd, mae rhaid i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Bil gyhoeddi datganiad i gadarnhau ei bod yn gydnaws â Deddf Hawliau Dynol 1998 (neu egluro pam nad yw). Golyga hyn fod yn rhaid ystyried hawliau dynol wrth ddatblygu deddfwriaeth. 

Beth yw awdurdod cyhoeddus?

Nid yw ‘Awdurdod Cyhoeddus’ yn cael ei ddiffinio’n llawn yn y Ddeddf Hawliau Dynol, ond dylid ei ddehongli’n eang. Mae’n cynnwys pob adran ganolog y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion y wladwriaeth, Ymddiriedolaethau GIG, carchardai, yr heddlu, llysoedd a thribiwnlysoedd.


Sut gaiff hawliau eu cydbwyso?

Nid yw pob hawl yn Neddf Hawliau Dynol 1998 yr un fath. Mae rhai hawliau yn ‘absoliwt’, sy’n golygu na all y wladwriaeth eu cyfyngu fyth, tra bo eraill heb fod yn absoliwt – gellir eu cyfyngu mewn rhai amgylchiadau.

Mae tri phrif fath o hawliau:

  • Hawliau Absoliwt – ni ellir ymyrryd â’r rhain na’u cyfyngu mewn unrhyw fodd. Enghreifftiau o hawliau absoliwt yw diogelwch rhag arteithio (Erthygl 3, Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) neu Ddiogelwch rhag caethiwo a llafur dan orfod (Erthygl 4, Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol).
  • Hawliau Cyfyngedig – gellir cyfyngu’r rhain mewn amgylchiadau penodol, fel y’i gosodwyd allan yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Enghraifft o hawl gyfyngedig yw’r hawl i ryddid (Erthygl 5, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol), y gellir ei chyfyngu mewn rhai achosion, er enghraifft, pan gaiff rhywun ei gollfarnu gan lys am droseddu neu gael ei gadw’n gaeth  oherwydd problemau iechyd meddwl.
  • Hawliau amodol - gellir ymyrryd â’r rhain er mwyn diogelu hawliau pobl eraill neu les y cyhoedd. Hawliau amodol yw’r rhan fwyaf o’r hawliau yn y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae’n rhaid i unrhyw ymyrraeth â hawl amodol fod:
    • oherwydd nod gyfreithlon, er enghraifft, i amddiffyn hawliau eraill neu er lles y mwyafrif
    • yn gyfreithlon
    • yn angenrheidiol
    • yn gymesur (priodol ac nid yn ormodol yn yr amgylchiadau).

Enghreifftiau o hawliau amodol yw’r Hawl i barch at fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol), Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd (Erthygl 9, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) a Rhyddid i ymgynnull a chymdeithasiad (Erthygl 11, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol).


All un unigolyn siwio unigolyn arall am fynd yn groes i’w hawliau dynol?

Cofiwch, mae’r Ddeddf yn rheoleiddio’r berthynas rhwng unigolion a’r wladwriaeth, a’i nod yw diogelu unigolion drwy sicrhau bod y Llywodraeth a’r awdurdodau cyhoeddus yn defnyddio’u pwerau yn gyfrifol. Er enghraifft, ni allwch siwio’ch cymydog oherwydd achos o fynd yn groes i hawliau dynol. Ond gall awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio cyfreithiau sydd eisoes yn bodoli i sicrhau na fydd un unigolyn yn cam-drin hawliau unigolyn arall. Petai fenyw yn cael ei cham-drin yn dreisiol gan ei chymar, ni allai ei siwio am dorri ei hawliau. Fodd bynnag, byddai’r heddlu’n gyfrifol am amddiffyn ei hawliau dynol drwy ddefnyddio cyfreithiau eraill i’w gollfarnu am drais domestig, ac os wnaethon nhw o fwriad fethu â chynnig diogelwch digonol, gallai hyn fynd yn groes i’w hawliau dynol. Ni ddaw sefydliadau preifat o dan ei gylch gwaith chwaeth, ac eithrio rhai amgylchiadau megis pan fônt yn darparu gwasanaethau ar ran awdurdod cyhoeddus.


Os na ellir dileu hawliau dynol, pam wedyn y ceir achosion ledled y byd o fynd yn groes i hawliau dynol?

Ni olyga’r ffaith bod gennym oll hawliau dynol na chant eu gwrthod weithiau. Mae achosion o fynd yn groes i hawliau dynol yn parhau i ddigwydd ar hyd a lled y byd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Er mwyn sicrhau bod hawliau dynol yn wirioneddol ym mywydau pobl, mae angen i’r sawl sydd â hawliau wybod beth ydyn nhw a sut i’w hawlio. Mae angen i’r sawl sy’n gyfrifol dros amddiffyn a pharchu hawliau pobl wybod am eu cyfrifoldebau a chadw atynt. 


Felly pwy sy’n gyfrifol dros hawliau pobl ifanc?

Y wladwriaeth sydd â’r cyfrifoldeb o gadw at hawliau dynol. Mae hawliau dynol yn darparu isafswm safonau na all wladwriaethau gwympo danyn nhw. Mae gan wladwriaethau gyfrifoldeb i sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu hamddiffyn a’u cyflawni.

Fodd bynnag, mae hawliau dynol hefyd yn ymwneud â’r berthynas rhyngom ni oll, a phan fyddwn i gyd yn parchu hawliau ein gilydd, byddwn oll yn cyd-dynnu ac yn byw gyda’n gilydd yn llwyddiannus. Os na fydd rhywun yn caniatáu i unigolyn arall fwynhau ei hawliau dynol, ni fydd yn fforffedu ei hawliau ei hunan. Er enghraifft, os caiff plentyn ei wahardd o’r ysgol oherwydd ei fod wedi niweidio plentyn arall yn ddifrifol, mae’r hawl i addysg yn dal yn bod ganddo.

Parchu hawliau dynol: Mae rhaid i wladwriaethau beidio ag ymyrryd â’n hawliau dynol na’n hatal rhag eu mwynhau.
Amddiffyn hawliau dynol: Mae rhaid i wladwriaethau amddiffyn unigolion a grwpiau yn erbyn camdriniaethau hawliau dynol.
Cyflawni hawliau dynol: Mae rhaid i wladwriaethau gymryd camau cadarnhaol i sicrhau ein bod yn gallu mwynhau hawliau dynol sylfaenol. 


Pam fod hawliau dynol yn berthnasol i bobl ifanc?

Mae llawer o bobl yn meddwl mai cysyniadau pell, damcaniaethol yw hawliau dynol. Ond maen nhw’n bwysig i’n bywydau bob dydd, a dylen nhw olygu rhywbeth i fyfyrwyr. Mae hawliau dynol yn helpu sicrhau bod gan bob plentyn fynediad i addysg, ac yn gallu mynegi ei farn ac arddel ei gredoau ei hunan, nad yw’n cael ei gam-drin adref, nad yw’n gweithio dan orfod, yn gallu arfer crefydd o’i ddewis yn rhydd, a llawer mwy. Mae hawliau dynol yn darparu fframwaith i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn ein cymdeithas ddemocrataidd, ac i drafod ac ystyried penderfyniadau a wnaed gan gyrff cyhoeddus ynglŷn â’u bywydau. Gall Deddf Hawliau Dynol 1998 hefyd weithredu fel rhestr wirio arfer dda a theclyn gwneud penderfyniadau i weision cyhoeddus yn eu gwaith.

Am enghreifftiau eraill o sut mae hawliau dynol wedi helpu amddiffyn hawliau pobl, cyfeiriwch at astudiaethau achos hawliau dynol


Beth yw hawliau dynol?

'Hawliau dynol' yw’r rhyddid a’r hawliau sylfaenol mae pob unigolyn yn y byd yn berchen arnynt. Nhw yw’r pethau sylfaenol mae bodau dynol yn eu hangen er mwyn ffynnu a chymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas.

Mae pawb yn berchen ar hawliau dynol, waeth beth yw eu hamgylchiadau. Ni ellir eu rhoi na’u cymryd i ffwrdd oddi wrthych gan unrhyw un – er gall rhai hawliau cael eu cyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, gellir cyfyngu eich hawl i ryddid (Erthygl 5, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) os cewch eich collfarnu am drosedd.

Maen nhw’n rheoli’r berthynas rhwng y wladwriaeth (gan gynnwys awdurdodau cyhoeddus a chyrff cyhoeddus, fel ysgolion a’r heddlu) ac unigolion. Felly mae 'gwladwriaethau' neu 'bartion gwladwriaethau' yn gyfrifol am sicrhau fod hawliau yn cael eu darparu i unigolion, a bod unigolion yn  ‘ddalwyr hawliau’. Golyga hyn na all unigolyn ymyrryd â hawliau unigolion eraill, ond y gall ysgol fethu â sicrhau fod hawliau unigolyn yn cael eu harfer. 
Caiff hawliau dynol eu tanategu gan set o werthoedd cyffredin, gan gynnwys Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Urddas ac Annibyniaeth. 
Mae llawer o hawliau dynol gwahanol wedi’u cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gan adlewyrchu ein hanghenion sylfaenol ar draws feysydd gwahanol ein bywydau. Mae hawliau sifil a gwleidyddol yn cynnwys yr hawl i ryddid (Erthygl 5) a rhyddid mynegiant (Erthygl 10), tra bo hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn cynnwys diogelwch eiddo (Erthygl 1 Protocol 1) a’r hawl i addysg (Erthygl 2 Protocol 1). Mae angen pob hawl dynol i fod ‘yn ddynol’.

Mae’r gymuned ryngwladol wedi cytuno ar amryw o nodweddion allweddol hawliau dynol:

  • Mae hawliau dynol yn gyffredinol – mae pawb yn y byd yn berchen arnynt.
  • Mae hawliau dynol yn anaralladwy – ni ellir eu cymryd i ffwrdd oddi ar bobl.
  • Mae hawliau dynol yn anwahanadwy ac yn gyd-ddibynnol - mae’r holl hawliau dynol gwahanol yn bwysig i fodau dynol er mwyn iddyn nhw ffynnu a chymryd rhan mewn cymdeithas.

Sylwer: Daeth llawer o’r cefndir hwn i hawliau dynol o’r adnodd 'Right Here, Right Now' a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2009.

Diweddariadau tudalennau