Pa hawliau dynol sy’n gymwys? Pecyn cymorth cyfeirio cynlluniau ombwdsmon

Wedi ei gyhoeddi: 5 Ebrill 2019

Diweddarwyd diwethaf: 5 Ebrill 2019

Canfyddwch yr hawliau dynol a allai fod yn berthnasol i’ch achos drwy chwilio’n canllaw fesul sector neu bwnc. Dilynwch y dolenni a ddarperir ar y chwe tudalen sector i gael gwybodaeth fanwl, enghreifftiau cyfraith achos a thrafodaeth ar yr hyn y dylech ei ystyried wrth i chi drin eich cwyn.

Gallwch hefyd ddod o hyd i astudiaethau achos a lawr lwythiadau yn cynnwys yr holl gyfraith hawliau dynol perthnasol ar gyfer pob sector.

Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Ar gyfer awdurdodau ac ymddiriedolaethau iechyd, gwasanaethau gofal preswyl a chymdeithasol, ysbytai, gwasanaethau iechyd meddwl, cartrefi nyrsio, canolfannau triniaeth feddygol, a chyfleusterau iechyd a gofal mewn lleoliadau sefydliadol eraill.

Yr heddlu, carchardai, data a’r llysoedd

Ar gyfer llysoedd, tribiwnlysoedd a’r system gyfiawnder, gwasanaethau mewnfudo, diogelu data, gwyliadwriaeth, a chasglu a storio gwybodaeth.

Lles, gwaith a phensiynau

Chwiliwch fan hyn ar gyfer materion yn ymwneud â chyflogaeth, diweithdra a nawdd cymdeithasol, gan gynnwys dyrannu tai cymdeithasol, cymorth lles a phensiynau.

Teulu ac addysg

Ar gyfer cyfraith teulu, hawliau menywod, hawliau atgenhedlu, mamolaeth, plant ac addysg.

Cynllunio a’r amgylchedd

Penderfyniadau a cheisiadau cynllunio, llygredd a sŵn diwydiannol a materion amgylcheddol.

Defnyddwyr, gwasanaethau a defnyddioldeb

Gan gynnwys adwerthu, gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol, cyfathrebu, ynni a defnyddioldeb, eiddo tiriog, eiddo deallusol a gwella cartrefi.

Dengys y tabl isod pa hawliau sydd fwyaf perthnasol i feysydd arbennig bywyd cyhoeddus.
Yr hawl i Iechyd a gofal cymdeithasol Yr heddlu, carchardai, data a’r llysoedd Lles, gwaith a phensiynau Teulu ac addysg Cynllunio a’r amgylchedd Defnyddwyr, gwasanaethau a defnyddioldeb
bywyd x x
yn rhydd rhag triniaeth annynol neu ddiraddiol x x x x
rhyddid a diogelwch x x
gwrandawiad teg x x x x x
parch i fywyd preifat a theuluol x x x x x
rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd x x x x
rhyddid mynegiant x x x x x x
iechyd x x x x
safon byw digonol x x x x
addysg x
nawdd cymdeithasol x x x
diogelwch rhag gwahaniaethu x x x x x x

Diweddariadau tudalennau