I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Cylch gorchwyl terfynol yr ymchwiliad i Elite Careplus Ltd o dan adran 20 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 mewn perthynas â'i ddefnydd o gwestiynau iechyd cyn cyflogaeth.
Cefndir
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr gyda chyfrifoldeb am orfodi adran 60 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae adran 60 yn ei gwneud yn anghyfreithlon, oni bai y caniateir hynny gan eithriad perthnasol a nodir yn adran 60(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu sy’n ofynnol gan ddarpariaeth statudol arall (yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 22 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010) i gyflogwyr ( a darparwyr gwasanaethau cyflogaeth) i wneud ymholiadau am iechyd neu anabledd ymgeisydd am swydd cyn i’r ymgeisydd gael cynnig swydd (ar sail amodol neu ddiamod), neu cyn eu cynnwys mewn cronfa o ymgeiswyr llwyddiannus i gael cynnig swydd pan fydd un ar gael.
Diben adran 60 yw atal ymgeiswyr rhag cael eu ceisiadau wedi'u sgrinio allan cyn cael y cyfle i ddangos bod ganddynt y sgiliau a'r galluoedd perthnasol i wneud y swydd. Gall cwestiynau iechyd manwl atal ymgeiswyr anabl rhag gwneud cais am swyddi gwag a chyfrannu at eu heithrio o'r farchnad lafur.
Nod yr ymchwiliad
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (‘y Comisiwn’) yn cynnal ymchwiliad o dan adran 20 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 oherwydd bod ganddo sail i amau bod Elite Careplus Ltd yn torri adran 60 a’i fod felly’n cyflawni gweithred anghyfreithlon yn groes i’r adran 60 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r Comisiwn yn amau Elite Careplus Ltd o dorri adran 60 drwy:
- Gofyn cwestiynau iechyd ar ei ffurflen gais/cofrestru am swydd;
- Methu â rhoi gwybod i ni ei fod yn credu bod eithriad o dan adran 60(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol; a
- Methu â rhoi gwybod i ni ei fod yn credu bod darpariaeth statudol yn bodoli a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo ofyn y cwestiynau iechyd .
Cwmpas yr ymchwiliad
Bydd y Comisiwn yn ymchwilio i weld a oedd Elite Careplus Ltd, yn ystod y cyfnod rhwng 21 Tachwedd 2018, pan gafodd dystiolaeth gyntaf fod Elite Careplus Ltd yn gofyn cwestiynau iechyd cyn cyflogaeth, a chyhoeddi’r cylch gorchwyl hwn, wedi mynd yn groes i adran 60 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. ystyried y cwestiynau canlynol:
- A oedd Elite Careplus Ltd yn sefydliad y gwnaed ceisiadau am waith iddo
- A ofynnodd Elite Careplus Ltd am iechyd unrhyw ymgeisydd:
- Cyn gwneud cynnig amodol neu ddiamod o waith i'r ymgeisydd;
- Os nad oedd yn sefyllfa i gynnig gwaith i'r ymgeisydd, cyn eu cynnwys mewn cronfa o ymgeiswyr llwyddiannus i gael cynnig swydd waith pan ddaw swydd ar gael;
- Pe bai Elite Careplus Ltd yn gofyn am iechyd ymgeisydd ar yr adeg honno, a oedd unrhyw gwestiynau iechyd o’r fath yn gyfreithlon oherwydd naill ai:
- roedd un o'r eithriadau yn a.60(6) yn gymwys; neu
- roedd darpariaeth statudol arall yn ei gwneud yn ofynnol i Elite Careplus Ltd ofyn i’r ymgeisydd am ei iechyd, yn unol â’r eithriad ym mharagraff 1 Atodlen 22 Deddf Cydraddoldeb 2010.
Ffynonellau gwybodaeth
Bydd y Comisiwn yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf 2006 i gael y wybodaeth angenrheidiol i gynnal ei ymchwiliad.
Gwahoddir Elite Careplus Ltd a phartïon â diddordeb i wneud sylwadau neu gyflwyno tystiolaeth mewn perthynas â’r ymchwiliad erbyn 5pm ddydd Iau 18 Gorffennaf 2019. Gellir anfon sylwadau o’r fath drwy’r post at:
Tîm Gorfodi/Enforcement Team
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)
3rd Floor Arndale House
Arndale Centre
Manceinion/Manchester
M4 3AQ
Neu drwy e-bost at: s60enforcement@equalityhumanrights.com
Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl wybodaeth a gaiff gan Elite Careplus Ltd neu unrhyw bartïon â diddordeb.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
1 Gorffenaf 2021
Diweddarwyd diwethaf
20 Mehefin 2019