Ymchwil

Hawliau sifil a gwleidyddol ym Mhrydain Fawr: cyflwyniad i'r Cenhedloedd Unedig

Wedi ei gyhoeddi: 12 Mawrth 2020

Diweddarwyd diwethaf: 11 Mawrth 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Am yr adroddiadau

Mae ein hadroddiadau i'r Cenhedloedd Unedig (CU) yn edrych ar gyflwr hawliau sifil a gwleidyddol ym Mhrydain Fawr.

Maent yn rhan o’n gwaith ar fonitro’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR), y cytundeb hawliau dynol rhyngwladol sy’n canolbwyntio ar amddiffyn hawliau sifil a gwleidyddol. I gael rhagor o wybodaeth am yr ICCPR, ewch i’n traciwr hawliau dynol .

Mae’r adroddiadau’n cynnwys:

  • cynnydd y mae llywodraeth y DU wedi’i wneud ers ei hadolygiad Cenhedloedd Unedig diwethaf yn 2015
  • yr heriau y mae'n dal i'w hwynebu, a
  • argymhellion i lywodraethau’r DU a Chymru.

Ein hadroddiad diweddaraf

Cyhoeddwyd ein hadroddiad 2020 i helpu’r Cenhedloedd Unedig i ddatblygu rhestr o faterion cyn ei archwiliad o’r DU . Mae ein hadroddiad 2024 yn ymateb i restr materion y Cenhedloedd Unedig ac yn darparu diweddariadau ers 2020, gan gynnwys gwybodaeth am:

  • amodau a thriniaeth mewn carchardai a chadw mewnfudwyr, gan gynnwys gorlenwi ac anhawster cael mynediad at wasanaethau allweddol
  • ymyrraeth â’r hawl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys brawychu ymgeiswyr seneddol ac effaith Deddf Etholiadau 2022 llywodraeth y DU, sy’n gofyn am ddull adnabod â llun i bleidleisio yn Etholiadau Cyffredinol y DU
  • cyfyngiadau newydd ar yr hawl i brotestio, a osodwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 a Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 llywodraeth y DU

Cyflwynwyd y ddau adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig i lywio ei archwiliad o’r DU yn 2024. Gyda’i gilydd, maent yn rhoi darlun clir o hawliau sifil a gwleidyddol yn y DU ers 2015.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon