I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae sefyllfaoedd cyfyngedig a phenodol lle gallwch ddarparu (neu wrthod darparu) y cyfan neu rai o'ch gwasanaethau i bobl yn seiliedig ar nodwedd warchodedig. Mae'r eithriadau hyn yn berthnasol i unrhyw sefydliad sy'n bodloni'r profion llym. Mae rhai eithriadau pellach sy'n gymwys i elusennau neu sefydliadau crefydd neu gred yn unig, y gallwch ddarllen amdanynt yn Eithriadau: elusennau a sefydliadau crefydd neu gred .
Gwasanaethau a ddarperir i bobl â nodweddion gwarchodedig
Os mai dim ond ar gyfer pobl â nodwedd warchodedig arbennig y byddwch fel arfer yn darparu gwasanaethau (fel y rheini o gefndir ethnig penodol neu ddynion hoyw neu lesbiaid), gallwch barhau i ddarparu'r gwasanaeth yn yr un ffordd.
Gallwch wrthod darparu’r gwasanaeth i rywun nad oes ganddo’r nodwedd honno os ydych yn meddwl yn rhesymol ei bod yn anymarferol i chi ddarparu’r gwasanaeth iddynt.
Gallwch hefyd dargedu eich hysbysebu neu farchnata at grŵp â nodweddion gwarchodedig penodol, cyn belled nad ydych yn awgrymu na fyddwch yn gwasanaethu pobl â nodwedd benodol (oni bai bod un o'r eithriadau'n berthnasol).
Gwasanaethau ar wahân i ddynion a menywod a gwasanaethau un rhyw
Cyfeiriwch at ein harweiniad diweddaraf ar ddarparu gwasanaethau ar wahân ac un rhyw yma .
Iechyd a diogelwch i fenywod beichiog
Gallwch wrthod darparu gwasanaeth i fenyw feichiog, neu osod amodau ar y gwasanaeth, oherwydd eich bod yn credu’n rhesymol y byddai darparu’r gwasanaeth yn y ffordd arferol yn creu risg i iechyd neu ddiogelwch y fenyw, a byddech yn gwneud yr un peth mewn perthynas â pherson y gallai ei iechyd a’i ddiogelwch fod mewn perygl oherwydd cyflwr corfforol gwahanol.
Gweithredu cadarnhaol
Yn ogystal â'r eithriadau hyn, efallai y bydd yn bosibl i'ch sefydliad dargedu pobl â nodwedd warchodedig benodol trwy weithredu cadarnhaol. Mae'n rhaid i chi allu dangos bod gennych reswm i feddwl bod y nodwedd warchodedig y mae'r bobl hyn yn ei rhannu yn golygu bod ganddynt angen gwahanol neu eu bod yn profi anfantais neu fod ganddynt gyfranogiad isel yn y math o weithgareddau yr ydych yn eu cynnal. Os ydych chi'n ystyried cymryd camau cadarnhaol, mae angen i chi fynd trwy nifer o gamau i benderfynu a oes angen hynny a pha gamau i'w cymryd.
Triniaeth fwy ffafriol i bobl anabl
Yn ogystal â'r eithriadau hyn, mae cyfraith cydraddoldeb yn caniatáu i chi drin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl nad ydynt yn anabl. Nod y gyfraith wrth ganiatáu hyn yw dileu rhwystrau y byddai pobl anabl fel arall yn eu hwynebu i gael mynediad at wasanaethau.
Cyngor a chefnogaeth
Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .
Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Ffôn: 0808 800 0082
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
13 Gorffenaf 2020
Diweddarwyd diwethaf
13 Gorffenaf 2020