error

  • Could not retrieve the oEmbed resource.

Cynllun Strategol Drafft 2025 – 2028

Wedi ei gyhoeddi: 11 Gorffenaf 2024

Diweddarwyd diwethaf: 11 Gorffenaf 2024

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Mae’r ymgynghoriad ar gyfer ein Cynllun Strategol drafft 2025 – 2028 bellach wedi cau.

Ein Gweledigaeth a’n Diben

Ein gweledigaeth: Cymdeithas wedi’i sefydlu ar gydraddoldeb a hawliau dynol, lle mae gan bawb ym Mhrydain y cyfle i fyw yn dda ac i fyw yn dda gyda’i gilydd.  

Ein diben: Diogelu a hyrwyddo ein hamddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol er mwyn i bawb gael cyfle teg mewn bywyd.  

Sut rydym yn gweithio: Ym mhopeth a wnawn, rydym yn annibynnol, awdurdodol a hyblyg.  

Mae ein cyfrifoldebau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn amlinellu yn ôl statud ein cyfrifoldebau, ein pwerau a’n llywodraethiant.  

Mae ein cyfrifoldebau yn cynnwys: 

  • hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth 
  • diogelu a hyrwyddo hawliau dynol 
  • monitro effeithlonrwydd deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol  
  • cyhoeddi adroddiadau ar gynnydd mewn cymdeithas  

Fel rheoleiddiwr, rydym yn dal llywodraethau a deiliaid dyletswyddau i gyfrif o ran diwallu eu goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym yn dehongli’r gyfraith ac yn asesu cydymffurfiaeth â’r gyfraith neu effeithiau’r gyfraith. Lle bo’n angenrheidiol, gorfodwn y gyfraith trwy gymryd camau yn erbyn y rhai sy’n ei thorri. Rydym yn hyrwyddo ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diogelu hawliau dynol ac yn annog cyrff cyhoeddus i gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998.  

Sut rydym yn gweithio ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru

Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) Prydain, a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo a chynnal cyfreithiau a safonau cydraddoldeb a hawliau dynol led led Prydain. Yn yr Alban, mae gennym fandad hawliau dynol mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl i Senedd y DU. Mae gan Gomisiwn Hawliau Dynol yr Alban fandad i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol sydd o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban.                                

Defnyddiwn strategaeth sengl a dull un sefydliad o ddarparu. Rydym yn adnabod y gwahanol heriau a chyfleoedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac addaswn y modd ry’n ni’n cyflawni ein gwaith yn unol â hynny. Edrychwn am gyfleoedd unigryw i greu effaith mewn gweinyddiaethau datganoledig. Mae gennym Gomisiynydd Cymru a Chomisiynydd yr Alban sy’n cadeirio pwyllgorau statudol i’n helpu ni i wneud hynny. 

Fel corff cydraddoldeb cenedlaethol ac NHRI, gweithiwn yn annibynnol o’r llywodraeth a chymdeithas sifil.

Y cyd-destun

Mae ein gwaith wedi ei adeiladu ar hanes hir o gynnydd. Yn 2025 fe fydd:

  • 60 mlynedd ers y Ddeddf Cysylltiadau Hil  
  • 55 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal 
  • 50 mlynedd ers y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 
  • 30 mlynedd ers y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 
  • 21 mlynedd ers y Ddeddf Cydnabod Rhywedd 
  • 15 mlynedd ers Deddf Cydraddoldeb 2010 

Yn 2026 byddwn yn nodi 20 mlynedd ers Deddf Cydraddoldeb 2006 ac 20 mlynedd ers sefydlu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn 2027. 

Ers ein sefydlu, mae ein mandad wedi aros fwy neu lai yn gyson, a’i amcanion wedi eu hymwreiddio fwyfwy yng nghymdeithas ac arferion Prydain.  

Yn 2023, fe gyhoeddom ein dadansoddiad mwyaf diweddar o gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain yn ein Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Fe wnaethom asesu cynnydd o ran materion cydraddoldeb a hawliau dynol i bobl â nodweddion gwarchodedig, o bob agwedd o fywyd. Mae nifer o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yn destun heriau gwleidyddol. Dydyn ni ond megis dechrau deall effaith y cyfnod nesaf o newid technolegol ar gydraddoldeb a hawliau dynol.   

Ers 2010, mae cyllideb yr EHRC wedi gostwng tra bod ein dyletswyddau rheoleiddio wedi parhau i gynyddu. Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu er mwyn sicrhau’r effaith mwyaf posibl.

Ein dull

Mae’r Cynllun Strategol hwn yn seiliedig ar ragosodiad sylfaenol: i wireddu’r genhadaeth a osodwyd i ni yn Neddf Cydraddoldeb 2006.

Mae angen i ni wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau er mwyn canolbwyntio ar:

  • feysydd y mae’n gyfrifoldeb arnom ni yn unig i’w rheoleiddio, neu
  • gael cyfleoedd unigryw i greu newid cadarnhaol

I wneud hyn, mae angen i ni fod yn hyblyg, annibynnol ac awdurdodol bob amser.

Hyblyg– Byddwn yn diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhagweithiol. Byddwn yn datblygu ymhellach ein dull o wneud penderfyniadau rheoleiddio a gwerthuso er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu’n gyflym ac effeithlon er mwyn mynd i’r afael â heriau cydraddoldeb dybryd a newydd. 

Annibynnol – Byddwn yn atgyfnerthu ein hannibyniaeth trwy weithredu heb ofn na ffafriaeth, gan fonitro ac adolygu’r dystiolaeth a dal y rhai sy’n torri’r gyfraith i gyfrif. Byddwn yn sicrhau nad ydym yn cael ein dylanwadu’n ddiangen gan unrhyw grwpiau o randdeiliaid. Byddwn yn parhau i ddadlau dros newidiadau yn ein perthynas â llywodraeth, yn cynnwys mewn perthynas â’n cyllideb ac apwyntiadau i’n bwrdd.

Awdurdodol – Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn dod yn reoleiddiwr sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth. Byddwn yn parhau i ddefnyddio data a thystiolaeth er mwyn deall y byd ry’n ni’n gweithio ynddo a blaenoriaethu ein gweithrediadau. Byddwn yn adolygu ein heffaith yn gadarn. Byddwn yn cynyddu’r sail tystiolaeth a’i wneud yn hygyrch i eraill wneud defnydd haws ohono. 

Ein model rheoleiddio

Mae ein model rheoleiddio yn disgrifio sut rydym yn defnyddio ein pwerau a’n swyddogaethau statudol, yn cynnwys fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, er mwyn gwella cydraddoldeb a hawliau dynol a gorfodi’r gyfraith. Mae’r model hwn yn ein helpu i gynllunio ein gwaith, ac adnabod a mesur yr effaith a gyflawnwn.

Ein Strategaeth

Dros gyfnod y Cynllun Strategol hwn byddwn yn canolbwyntio ar ddibenion a dyletswyddau craidd. Byddwn yn defnyddio dull yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n ystyried ein pwerau, ein potensial i greu effaith a’n dadansoddiad o flaenoriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae dwy ran i’r dull, fel disgrifir isod:  

  • Piler 1: Gwarchodwr Amddiffyniadau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol  
  • Piler 2: Effaith Gynhwysfawr 

Mae Piler 1 yn disgrifio sut y byddwn yn hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, ac ymateb i heriau newydd.  

Mae Piler 2 yn disgrifio themâu a blaenoriaethau y byddwn yn canolbwyntio arnynt gan wneud cynnydd penodol, wedi’i gynllunio mewn perthynas â hwy.

Piler 1: Gwarchodwr Amddiffyniadau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae dwy ran i’r piler hwn: 

  1. Ein dyletswyddau craidd o ran cydraddoldeb (yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Canllawiau a Chodau Ymarfer, a’r Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) a hawliau dynol (yn cynnwys gwireddu ein rôl fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol fel amlinellir yn Egwyddorion Paris).   
  2. Ymateb hyblyg a chyflym er mwyn mynd i’r afael â materion cydraddoldeb a hawliau dynol newydd a dybryd. Bydd hyn yn cynnwys rheoleiddio cydraddoldeb a hawliau dynol yn effeithiol ym maes technolegau newydd.

Byddwn yn gwneud hyn trwy: 

  • weithredu fel gwarchodwr amddiffyniadau cydraddoldeb a hawliau dynol, yn cynnwys tystiolaethu materion, cefnogi safonau mwy effeithiol, gwella cydymffurfiaeth a gorfodi’r gyfraith
  • gwneud defnydd systematig o’n pwerau deddfwriaethol, tra’n gwella ein hymateb i faterion cydraddoldeb a hawliau dynol newydd a dybryd
  • cynnal a hyrwyddo sylfaen dystiolaeth awdurdodol a chynhwysfawr trwy’r Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • sicrhau bod canllawiau a chodau ymddygiad clir, awdurdodol ac amserol ar gael i ddeiliaid dyletswyddau i’w helpu i gydymffurfio â’r gyfraith, gan wella dealltwriaeth o’r gyfraith a goblygiadau oddi tani
  • hyrwyddo Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) fel modd adeiladol o gynyddu cydymffurfiaeth mewn sectorau blaenoriaeth
  • sefydlu ein safle fel rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau dynol mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg, yn cynnwys deallusrwydd artiffisial
  • parhau i adeiladu perthnasau a chydweithio ag eraill
  • cyfathrebu â’r cyhoedd ag eglurdeb a hyder mewn perthynas â bodolaeth a gwerth eu hawliau a’n rôl ni  
  • chwarae rôl ymgasglol er mwyn cefnogi parch o’r ddwy ochr rhwng grwpiau yn seiliedig ar ddealltwriaeth a rhoi gwerth ar amrywiaeth a pharch ar y cyd tuag at gydraddoldeb a hawliau dynol

Piler 2: Effaith Gynhwysol

Rydym wedi adnabod tair thema ar gyfer ffocws benodol dros y dair blynedd nesaf. Y themâu yw:  

  • Gwaith 
  • Cyfranogiad a Chysylltiadau Da  
  • Cyfiawnder a Chydbwysedd Hawliau

Thema 1: Gwaith

Mae’r gweithle’n parhau i fod yn un o’r prif fannau lle caiff materion cydraddoldeb a hawliau dynol eu negodi. Fe ddogfennodd y Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heriau yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys i grwpiau megis Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, gweithwyr hŷn, gweithwyr anabl a menywod. Mae cyflogaeth yn sbardun sylfaenol mewn perthynas â’r hyn sy’n digwydd i bobl mewn agweddau eraill o’u bywyd. Mae’n faes lle mae’r EHRC wedi’i sefydlu’n gadarn ynddo, â rhaglen wedi’i datblygu’n dda. Mae rheoleiddwyr a chyrff eraill yn edrych arnom ni am gyngor arbenigol. Mae gennym fandadau clir a ni yw’r unig reoleiddiwr ar feysydd megis y Bwlch Cyflog Rhywedd. Mae’r tirwedd cyfreithiol yn ddeinamig a heriol, ac yn llawn cyfleoedd i ni ddefnyddio ein pwerau yn effeithiol.

Thema 2: Cyfranogiad a Chysylltiadau Da

Mae gwella cyfranogiad mewn cymdeithas, cysylltiadau rhwng grwpiau a chynyddu’r mynediad i wasanaethau wedi bod yn themâu pwysig i’r Comisiwn ers tro. Fe ddogfennodd y Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol faterion yn ymwneud â mynediad i wasanaethau i bobl anabl, pobl hŷn, plant a phobl ifanc. Mewn sectorau megis addysg a thrafnidiaeth, mae hyn yn dod yn gynyddol arwyddocaol. Mae newidiadau cyflym ym maes technoleg sy’n arwain at newidiadau o ran sut caiff y gwasanaethau hynny eu darparu yn codi heriau newydd, sy’n debygol o waethygu, i wahanol grwpiau. Mae’r modd rydym yn rheoli deallusrwydd artiffisial a’r materion sy’n codi mewn perthynas â phreifatrwydd a gwyliadwriaeth yn allweddol ar gyfer dyfodol hawliau dynol ym Mhrydain. Mae trafodaethau’n ymwneud â nifer o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yn dod yn fwyfwy cynhennus, gydag effeithiau posibl ar gydlyniant cymdeithasol a rhyddid mynegiant. Ceir arwyddion o heriau cynyddol o ran cyfranogaeth wleidyddol a sifil yn ogystal. Byddwn yn tynnu oddi ar arbenigedd a ddatblygwyd dros nifer o feysydd blaenoriaeth yng nghynllun 2022-25 ac yn canolbwyntio ar feysydd lle mae gennym rôl unigryw.

Thema 3: Cyfiawnder a Chydbwysedd Hawliau

Yn aml profir realiti hawliau dynol a chydraddoldeb ym meysydd cyfiawnder, diogelwch personol a phlismona. Fe adwaenodd y Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyfiawnder fel maes â materion parhaus, anghydraddoldebau a thueddiadau negyddol sy’n peri pryder. Mae heriau ar draws meysydd plismona a chyfiawnder troseddol, i nifer o wahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig. Mae pryderon parhaus ynglŷn â’r lefelau o, a’r ymateb i, drais yn erbyn menywod a merched a chynnydd mewn troseddau casineb yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu. Mae lleiafrifoedd ethnig wedi eu gorgynrychioli yn y boblogaeth garchardai. Mae hefyd cyfrannedd sy’n cynyddu o grwpiau ethnig leiafrifol ymysg plant a phobl ifanc sy’n cael eu dargadw. Ceir dadlau cynyddol parthed credoau gwarchodedig sydd angen eu cydbwyso gyda hawliau pobl eraill, megis y rhai sy’n ymwneud â rhyw a rhywedd a gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae perygl y gallai cyflwyno deddfwriaeth ddiweddar gyfyngu ar ryddid mynegiant a thremasu ar yr hawl i brotestio.

Meysydd Blaenoriaeth Posibl

Dros y dair blynedd nesaf byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ystod o feysydd blaenoriaeth, o fewn themâu Gwaith, Cyfranogiad a Chysylltiadau Da, a Chyfiawnder a Chydbwysedd Hawliau, lle credwn y gallwn ddefnyddio un neu ragor o’n pwerau rheoleiddiol i gefnogi newid a gwelliant hirdymor yng nghyd-destun cydraddoldeb a hawliau dynol.

Thema 1: Gwaith

  1. Gwahaniaethu ar sail rhyw, aflonyddu a/neu erledigaeth, yn cynnwys aflonyddu rhywiol, yn y gweithle.
  2. Bylchau cyflog a chyflogaeth i fenywod, pobl anabl a nifer o grwpiau ethnig leiafrifol.
  3. Rhwystrau i gyfranogaeth yn y gweithle i bobl anabl, yn cynnwys materion yn ymwneud ag addasiadau rhesymol.
  4. Nid yw buddsoddiadau mawr yn y sector cyhoeddus yn rhoi cefnogaeth ddigonol i gydraddoldeb trwy fynd i’r afael â sgiliau, cyflogaeth a thlodi.
  5. Lefelau anghymesur o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth o fewn y gweithle i weithwyr â nodweddion gwarchodedig penodol, yn cynnwys grwpiau ethnig leiafrifol.
  6. Tebygrwydd cynyddol o fod mewn cyflogaeth ansicr (megis contractau dim oriau).
  7. Y perygl o wahaniaethu neu dramgwyddo hawliau yn sgil technoleg newydd yn y gweithle, er enghraifft, prosesau recriwtio awtomatig.  
  8. Y perygl o wahaniaethu neu dramgwyddo hawliau yn sgil y cynnydd yng nghyffredinrwydd trefniadau gweithio gartref/hybrid.  

Thema 2: Cyfranogiad a Chysylltiadau Da

  1. Effaith symud gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn ddiofyn, yn enwedig ar rai grwpiau, yn cynnwys pobl hŷn ac anabl.
  2. Nid oes rhaid i sefydliadau’r sector breifat gydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd gwefannau a diwallu gofynion hygyrchedd digidol.
  3. Mae pobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
  4. Mae technolegau newydd ac sydd eisoes yn bodoli, megis deallusrwydd artiffisial, yn cynyddu’r risg o wahaniaethu a thramgwyddo hawliau preifatrwydd.
  5. Lefelau uwch o waharddiadau ysgol i blant Du Caribïaidd, plant sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (SEND), anghenion dysgu ychwanegol (ALN), anghenion cefnogaeth ychwanegol (ASN) a bechgyn.
  6. Tensiynau cymdeithasol yn sgil trafodaethau cyhoeddus pegynedig ynglŷn â materion cydraddoldeb a hawliau dynol.  
  7. Perygl i ryddid mynegiant trwy wahardd mynegi safbwyntiau penodol, neu ‘gau’ trafodaeth ‘i lawr’.

Thema 3: Cyfiawnder a Chydbwysedd Hawliau

  1. Eglurdeb cyfreithiol mewn perthynas â materion lle gellid bod tensiwn rhwng hawliau dau neu ragor o grwpiau, er enghraifft, mewn perthynas â rhyw a rhywedd neu faterion yn ymwneud â chrefydd neu gred.  
  2. Troseddau casineb1, yn enwedig ar gyfer rhai grwpiau â nodweddion gwarchodedig.  
  3. Cyfraddau cyhuddo ar erlyn isel, oedi hir, niferoedd uchel o dynnu cyhuddiadau yn ôl ac ymdriniaeth wael o rai grwpiau mewn perthynas â chyhuddiadau o dreisio a throseddau rhywiol difrifol.   
  4. Plant mewn lletyau cadw ieuenctid yn profi tramgwyddo i’w hawliau dynol, er enghraifft, cael eu cadw ar eu pen eu hun a thechnegau sy’n achosi poen.    
  5. Cynnydd yn y gyfradd o bobl ifanc o grwpiau ethnig leiafrifol sy’n cael eu dargadw.  
  6. Gorgynrychiolaeth o bobl Ddu yn y boblogaeth carchardai, cyfraddau uwch o arestiadau i bobl Ddu, yn ogystal â thebygrwydd uwch o fod yn destun stopio a chwilio.  
  7. Lles a diogelwch menywod sy’n cael eu dargadw, yn cynnwys lefelau uchel o hunan-niweidio, materion i fenywod beichiog a’r risgiau yn sgil defnydd anghyson o leoliadau diogel a phriodol.  
  8. Perygl i’r hawl i brotestio a chosir gan newid i ddeddfwriaeth ac arferion plismona.
 

Fformatau amgen: fideo BSL a Hawdd ei Ddarllen

Gwyliwch fideo BSL o'n Cynllun Strategol Drafft 2025 – 2028.

Darllenwch grynodeb Hawdd ei Ddeall o’r Cynllun Strategol drafft 2025 – 2028.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon