Ymgynghoriad ar ein Cynllun Strategol: 2025 - 2028

Am yr ymgynghoriad hwn

Mae angen adborth arnom ar yr hyn y dylem ei gynnwys yn ein Cynllun Strategol.

Mae ein Cynllun Strategol yn egluro'r hyn y byddwn yn gweithio arno dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys ein gweledigaeth, ein diben a'n blaenoriaethau.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar sut y gallwn gael yr effaith fwyaf a pha bynciau y dylem eu blaenoriaethu. Rydym am ddeall eich barn fel y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Cynllun Strategol drafft 2025 – 2028

Mae ein Cynllun Strategol drafft yn nodi'r hyn yr ydym am ei gyflawni dros y tair blynedd nesaf, a sut y byddwn yn ei gyflawni. Rydym wedi defnyddio data a thystiolaeth i nodi tri maes y gallwn wneud gwahaniaeth ynddynt. Ein nod yw defnyddio ein pwerau rheoleiddio i gefnogi newid a gwelliannau hirdymor i faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yn y meysydd hyn. Mae angen eich adborth arnom i ddeall sut y gallwn gael yr effaith fwyaf a pha faterion y dylem eu blaenoriaethu.

Y meysydd yw:

  • gwaith
  • cyfranogiad a chysylltiadau da
  • cyfiawnder a chydbwysedd hawliau

Ewch i’r Cynllun Strategol drafft 2025 – 2028.

Cyrchwch fformatau amgen ar gyfer y cynllun.

Cymryd rhan yn yr ymgynghoriad

Cwblhewch ein harolwg i roi adborth ar ba faterion cydraddoldeb a hawliau dynol y dylem weithio arnynt dros y tair blynedd nesaf.

Gallwch gadw eich cynnydd yn yr arolwg unrhyw bryd a dychwelyd ato yn ddiweddarach.

Bydd yr arolwg ar agor o 09:00 ar 11 Gorffennaf 2024 i 17:00 ar 3 Hydref 2024.

Os oes angen i chi ddarllen cwestiynau'r arolwg cyn cwblhau'r arolwg, gallwch lawrlwytho'r cwestiynau.

Mae'r dogfennau hyn er gwybodaeth yn unig. Rhaid i chi gyflwyno eich ymateb i'r ymgynghoriad drwy'r arolwg ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r arolwg ar-lein, neu os oes angen addasiad rhesymol arnoch, gallwch: