I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Ein cynllun busnes ar gyfer 2022 i 2023
Rhagarweiniad
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau dynol Prydain. Mae ein pwerau hawliau dynol yn yr Alban yn ymestyn i faterion a gadwyd yn ôl.
Mae ein cynllun strategol yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2025.
Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 a chaiff ei ddiweddaru bob chwarter. Daw'r fersiwn hon o fis Mawrth 2022.
Cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid
Mynd i’r afael â gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth a thorri hawliau dynol yn y gweithle
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gorfodi cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yn y gweithle, gan gymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol i amddiffyn gweithwyr a darpar weithwyr
- cefnogi deddfwriaeth a fydd yn cyflwyno amddiffyniad rhag aflonyddu gan drydydd partïon a dyletswydd orfodol i atal aflonyddu rhywiol, a datblygu Cod Ymarfer ategol
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Mae gweithwyr a darpar weithwyr yn rhydd rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth tra yn y gwaith.
Gweithredu ar fylchau mewn cyfraddau cyflogaeth a chyflog ar gyfer gwahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- defnyddio ein pwerau cyfreithiol i sicrhau bod cyflogwyr yn cydymffurfio ag adrodd ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau
- cynghori llywodraethau ar sut i nodi a lleihau bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd
- gweithio gyda'r heddlu a'u rheoleiddwyr i gefnogi ymdrechion i gadw staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- mae bylchau cyflog a chyflogaeth yn cael eu lleihau ar gyfer menywod, lleiafrifoedd ethnig a gweithwyr anabl
- mae gweithleoedd yn gynhwysol ac mae pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg
Rhoi cyngor ar fesurau i ailadeiladu economïau ar ôl y pandemig coronafeirws (COVID-19) i wella cyfle cyfartal i grwpiau difreintiedig
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- cyhoeddi a dilyn i fyny ar ein hymchwiliad i staff o leiafrifoedd ethnig ar gyflog isel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i wella sut mae cydraddoldeb i weithwyr yn cael ei ddiogelu wrth is-gontractio gwasanaethau iechyd a gofal
- cefnogi’r adferiad economaidd o’r pandemig drwy roi cyngor ar fentrau cenedlaethol a rhanbarthol i wella cyfle cyfartal
- cynghori Llywodraeth yr Alban ar eu rhaglen cymorth cyflogaeth i helpu’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i ddod o hyd i swyddi ac aros mewn swyddi
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- mae gweithleoedd yn gynhwysol ac mae pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg
- grwpiau â nodweddion gwarchodedig sydd â chyfraddau anghymesur uwch o ddiweithdra neu swyddi â chyflog isel yn cael gwell mynediad at amodau teg yn y gwaith
Cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
Gweithio gyda rheoleiddwyr a llywodraethau i fynd i’r afael ag unrhyw effaith anghymesur y pandemig Covid-19 ar ddysgu a gollwyd
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- cynghori’r Adran Addysg, rheoleiddwyr ac eraill ar gynigion i ymdrin ag effaith anghyfartal y pandemig ar rai grwpiau o blant
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- mae canlyniadau colli dysgu i grwpiau o blant yr effeithir arnynt yn anghymesur yn cael eu hosgoi neu eu lliniaru
Cymryd camau cyfreithiol i fynd i'r afael â thorri hawliau plant mewn sefydliadau
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gwneud gwaith dilynol ar ein hymchwiliad yn 2020 i’r defnydd o ataliaeth mewn ysgolion i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud i gasglu a monitro data
- gorfodi a hyrwyddo hawliau plant mewn sefydliadau a chymryd camau cyfreithiol lle bo'n briodol i amddiffyn yr hawliau hynny
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Mae plant mewn lleoliadau sefydliadol yn cael eu trin yn deg ac mae eu hawliau dynol yn cael eu cynnal.
Mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn gwaharddiadau, polisïau ymddygiad a methiannau i wneud addasiadau rhesymol i wella canlyniadau addysgol i bobl â nodweddion gwarchodedig
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- cynghori llywodraethau ar bolisïau ar gyfer derbyniadau, gwaharddiadau ac ataliaeth
- darparu cyngor ac arweiniad i ysgolion a cholegau ar sut i roi dull addysg seiliedig ar hawliau ar waith
- gweithio gyda rheoleiddwyr addysg i gryfhau a rhannu arfer da ar bolisïau gwahardd ac ymddygiad mewn ysgolion
- gorfodi a hyrwyddo hawliau pobl â nodweddion gwarchodedig mewn lleoliadau addysgol a chymryd camau cyfreithiol pan fo’n briodol i amddiffyn yr hawliau hyn
- cyhoeddi a hyrwyddo ein harweiniad ar gwrdd â’r costau ar gyfer darparu addasiadau rhesymol i ymgeiswyr anabl arholiadau preifat
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- mae canlyniadau addysgol pobl sydd mewn perygl o brofi gwahaniaethu neu anfantais yn gwella
- bydd canolfannau arholi, byrddau a sefydliadau dyfarnu yn deall eu rhwymedigaethau mewn perthynas â thalu costau darparu addasiadau rhesymol i ymgeiswyr arholiad preifat anabl
Mynd i’r afael â rhwystrau i hyfforddiant cyfartal a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- cynghori llywodraethau ar sut i sicrhau gwell mynediad at brentisiaethau a chymorth cyflogadwyedd i bobl ifanc mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- llywio sefydlu’r Comisiwn ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Mae cyfran uwch o bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig a dangynrychiolir mewn cyflogaeth a hyfforddiant, ac mae gwahanu galwedigaethol yn cael ei leihau.
Cynnal hawliau a chydraddoldeb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Hyrwyddo hawliau ynghylch trin pobl mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- cynghori’r llywodraeth ar ddiwygio cyfreithiol iechyd meddwl a chodau ymarfer
- manteisio ar gyfleoedd i hyrwyddo hawliau pobl mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a chymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol i amddiffyn yr hawliau hynny
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Mae pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl yn gallu cael cymorth a thriniaeth mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu nac yn torri eu hawliau.
Hyrwyddo hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion i gefnogi byw'n annibynnol
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- cwblhau a dilyn ein hymchwiliad gofal cymdeithasol
- cynghori llywodraethau ar oblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol dyluniad systemau gofal cymdeithasol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Gall unigolion gael mynediad at y gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt mewn ffordd nad yw'n gwahaniaethu nac yn torri eu hawliau.
Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau iechyd
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gweithio gyda’r GIG, y Comisiwn Ansawdd Gofal a rheoleiddwyr iechyd eraill i ymdrin â’r nifer anghymesur o farwolaethau pobl â nodweddion gwarchodedig penodol mewn gwasanaethau mamolaeth
- gorfodi a hyrwyddo hawliau pobl draws sy’n cael mynediad i ofal iechyd, cymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol i gefnogi’r hawliau hyn, a datblygu canllawiau gyda rheoleiddwyr iechyd ar arfer gorau i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau i bobl draws
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Mae rhwystrau gwahaniaethol sy'n atal pobl â rhai nodweddion gwarchodedig rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd priodol yn cael eu lleihau.
Mynd i’r afael ag effaith gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol
Mynd i’r afael â niwed ar-lein, gan gynnwys bwlio, gwahaniaethu a cham-drin, a brofir gan bobl â nodweddion gwarchodedig, tra’n diogelu’r hawl i ryddid mynegiant
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- partneru gyda rheoleiddwyr ac eraill i gynghori llywodraethau ar reoleiddio cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio
- hyrwyddo hawliau’r rhai sy’n profi niwed ar-lein, a chymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol i amddiffyn yr hawliau hyn
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Bydd pobl yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein heb y risg o niwed ac yn gallu ceisio iawn digonol pan fyddant yn profi cam-drin anghyfreithlon.
Sicrhau bod darparwyr gwasanaethau digidol yn cynyddu cynhwysiant i’r eithaf ac yn mynd i’r afael â gwahaniaethu sy’n deillio o allgáu digidol fel bod gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gwneud gwaith dilynol ar ein hymchwiliad i gyfiawnder cynhwysol i asesu effaith y defnydd cynyddol o dechnoleg cyswllt fideo ar ddiffynyddion anabl ac eraill yn y system cyfiawnder troseddol
- cymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol i ddiogelu hawliau pobl â nodweddion gwarchodedig penodol sy’n defnyddio gwasanaethau digidol
- cynghori ar ymyriadau i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn a phobl anabl sy’n defnyddio gwasanaethau digidol
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Mae gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl, wrth i’r ddarpariaeth o brosesau digidol gynyddu.
Cymryd camau cyfreithiol fel nad yw defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) wrth recriwtio ac arferion cyflogaeth eraill yn rhagfarnu wrth wneud penderfyniadau nac yn torri hawliau dynol
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- defnyddio ein pwerau rheoleiddio gyda chyflogwyr a’u rheoleiddwyr i sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio’n deg wrth recriwtio yn y gweithle
- cymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol i ddiogelu hawliau’r rhai sy’n destun defnydd annheg o AI wrth recriwtio ac arferion cyflogaeth eraill
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Bydd rheoleiddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddigidol yn cael ei wella, gan leihau'r risg o wahaniaethu a thorri hawliau cyflogeion a darpar gyflogeion.
Dylanwadu ar fframweithiau rheoleiddio i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o ddatblygu a chymhwyso AI a thechnoleg ddigidol
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- rhannu a dylanwadu ar arfer da ar gyfer dylunio systemau AI mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy ddefnyddio ein pwerau i wella cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- monitro awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth ddefnyddio AI, a defnyddio ein pwerau gorfodi pan na chyrhaeddir safonau
- partneru gyda rheoleiddwyr eraill i sefydlu safonau neu femoranda dealltwriaeth ar y cyd i leihau'r risg o wahaniaethu trwy ddefnyddio AI
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Bydd rheoleiddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddigidol yn well yn arwain at ostyngiad mewn gwahaniaethu a thorri hawliau dynol.
Meithrin cysylltiadau da a hyrwyddo parch rhwng grwpiau
Annog ysgolion a chyrff addysgol i hyrwyddo gwerth cydraddoldeb a hawliau dynol a pharch at eraill
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gweithio gyda rheoleiddwyr addysg a chyrff addysgol i hyrwyddo hawliau a pharch ymhlith pobl ifanc
- adolygu, diweddaru a rhannu canllawiau ar ryddid mynegiant
- cynhyrchu, cyhoeddi a rhannu canllawiau ar atal gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc â gwallt affro mewn lleoliadau addysgol
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Bydd llai o fwlio, cam-drin ac aflonyddu a bydd pobl ifanc yn trafod materion hunaniaeth a chydraddoldeb yn barchus.
Gweithio gyda sefydliadau chwaraeon a darparwyr gwasanaethau penodol i hyrwyddo parch at eraill ac atal rhagfarn
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i fynd i’r afael â hiliaeth yn y gamp
- partneru gyda rheoleiddwyr chwaraeon a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â gwahaniaethu mewn chwaraeon ym Mhrydain
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Bydd pobl o gefndiroedd gwahanol yn rhyngweithio'n gadarnhaol a bydd rhagfarn yn cael ei leihau.
Chwarae rhan arweiniol mewn dadleuon cyhoeddus am faterion cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys trwy gydbwyso hawliau
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- dilyn i fyny gyda darparwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid ar ganllawiau i ddarparwyr gwasanaeth ar fannau un rhyw
- gweithio gyda phartneriaid i egluro a darparu canllawiau ar gasglu data ar ryw a rhywedd
- hyrwyddo dadl fwy adeiladol sy’n seiliedig ar dystiolaeth am hawliau sy’n gorgyffwrdd
- adolygu ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad CRED ac ystyried lle y gallwn gefnogi gweithrediad ei chynigion
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- gall pobl gymryd rhan mewn trafodaeth heb y risg o niwed a gallant geisio iawn digonol pan fyddant yn profi cam-drin anghyfreithlon
- bydd pobl o gefndiroedd gwahanol yn gallu rhyngweithio'n gadarnhaol a bydd rhagfarn yn cael ei leihau
Sicrhau fframwaith effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol
Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwella cyfle cyfartal, gan ddefnyddio ysgogiadau rheoleiddio fel Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- gwerthuso effaith gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru
- cynyddu effaith Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus trwy fonitro, arweiniad, cyngor a hyfforddiant
- monitro cynllun gweithredu y Swyddfa Gartref y cytuniwyd arno i wella cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau 'amgylchedd gelyniaethus'
- adolygu ystod ein pwerau rheoleiddio, gan weithio gyda Llywodraeth y DU
- adolygu a diweddaru ein Cod Ymarfer statudol ar wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau
- adolygu'r defnydd o hanes rhywiol mewn treialon yn yr Alban
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- Bydd llywodraethau a chyrff cyhoeddus yn cymryd camau wedi'u targedu sy'n lleihau'r materion cydraddoldeb mwyaf dybryd
- Bydd tystiolaeth gadarn o'r heriau i gydraddoldeb a hawliau dynol yn arwain at gamau gweithredu i unioni anghydraddoldeb.
Hyrwyddo dealltwriaeth a chydymffurfio â chyfreithiau hawliau dynol
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- ymateb i unrhyw gynigion pellach gan Lywodraeth y DU i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol
- cynghori llywodraethau yng Nghymru a’r Alban ar unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig ar ymgorffori cytuniad hawliau dynol
- diweddaru ac adrodd ar ddadansoddiad o'n traciwr hawliau dynol ar-lein
- cyflwyno ein cais am ail-achrediad fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
- bydd pobl yn cael eu hamddiffyn rhag torri eu hawliau dynol
- tystiolaeth gadarn o'r heriau hawliau dynol mwyaf enbyd yn arwain at gamau i wella'r gwaith o ddiogelu hawliau dynol
Darparu data a thystiolaeth o ansawdd uchel, dibynadwy a hygyrch i randdeiliaid ar gynnydd Prydain o ran cydraddoldeb a hawliau dynol
Sut y byddwn yn ei wneud
Byddwn yn:
- nodi a chymryd camau i fynd i'r afael â bylchau tystiolaeth ar gyfer adroddiad 2023 yn y gyfres 'A yw Prydain yn Decach'
- diweddaru a gweithredu ein strategaeth data a thystiolaeth
- paratoi i gyhoeddi adroddiadau yn 2023 fel rhan o’n cyfres ‘A yw Prydain yn Decach’, ar gyfer Prydain, yr Alban a Chymru
Y newid y byddwn yn dylanwadu arno
Bydd llywodraethau a chyrff cyhoeddus yn defnyddio tystiolaeth gadarn o’r heriau cydraddoldeb a hawliau dynol mwyaf enbyd i gymryd camau i leihau anghydraddoldeb a thorri hawliau dynol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
31 Mawrth 2022
Diweddarwyd diwethaf
31 Mawrth 2022