Arweiniad

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Wedi ei gyhoeddi: 19 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 17 Mehefin 2021

Corff statudol annibynnol ydym ni gyda’r cyfrifoldeb dros annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, ac amddiffyn a hybu hawliau dynol i bawb ym Mhrydain. Mae’r Comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol – gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig.

Mae Prydain yn ffodus i fod â fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol cryf i ddiogelu pobl rhag gwahaniaethu a chamau yn erbyn eu hawliau sylfaenol a’u rhyddid. Fodd bynnag, nid yw profiadau llawer o bobl ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban yn aml yn adlewyrchu’r hyn a amlinellwyd gan y gyfraith.  

Rhan y Comisiwn yw gwireddu’r hawliau a’r rhyddid hyn i bawb. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o bwerau i wneud hynny, drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i unigolion, cyflogwyr a sefydliadau eraill, gan adolygu effeithiolrwydd y gyfraith a chymryd camau gorfodi cyfreithiol i egluro’r gyfraith a mynd i’r afael â chamau arwyddocaol yn erbyn hawliau.

Rydym yn:

  1. Gatalydd er newid, gan alluogi ac annog gwelliant drwy ddwyn pobl ynghyd i gynllunio atebion, ac adeiladu gallu mewn sefydliadau eraill i’w helpu i effeithio newid. Pan fo’n briodol, rydym yn cynnal ymchwiliadau i archwilio materion systemig, casglu tystiolaeth a datblygu atebion posibl.  
  2. Darparu gwybodaeth, gan helpu pobl i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau a gwella cydymffurfiaeth â’r gyfraith.  
  3. Dylanwadu, gan ddefnyddio’n harbenigedd cyfreithiol, ymchwil, mewnwelediad a dadansoddiad i ddylanwadu polisi a llywio trafodaethau.  
  4. Gwerthuso, gan fonitro effeithiolrwydd y cyfreithiau yn amddiffyn hawliau pobl i gydraddoldeb a hawliau dynol, a mesur cynnydd yn y gymdeithas.  
  5. Gorfodi, gan ddefnyddio ein pwerau gorfodi strategol yn ddetholus i ddiogelu pobl rhag camau difrifol a systemig yn erbyn eu hawliau ac i egluro cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol, law yn llaw â’n hymdrechion i helpu sefydliadau i gydymffurfio â safonau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Diweddariadau tudalennau