Ymchwiliad: Ydy’r system cyfiawnder troseddol yn trin pobl anabl yn deg?

Wedi ei gyhoeddi: 20 Mawrth 2019

Diweddarwyd diwethaf: 20 Mawrth 2019

Lansiom ymchwiliad i ddeall profiadau diffynyddion anabl a phobl gyhuddedig yn y system cyfiawnder troseddol. Edrychom a yw eu hanghenion yn cael eu nodi’n briodol ac a yw addasiadau yn cael eu rhoi ar waith i ddiwallu’u hanghenion, fel y gallant gyfranogi’n llawn ym mhrosesau’r llys a deall y cyhuddiadau yn eu herbyn.

Y casgliad

 Yn sgil ein hymchwiliad, canfuom y canlynol:

  • Nid yw’r system cyfiawnder wedi’i dylunio o boptu anghenion a galluoedd pobl anabl, ac mae diwygiadau yng Nghymru a Lloegr mewn risg o leihau cyfranogiad yn fwy.
  • Ni chaiff namau sydd efallai yn gofyn am addasiadau eu nodi bob amser – mae hyn yn rhwystro cyfranogiad effeithiol.
  • Ni chaiff addasiadau eu gwneud bob amser i bobl anabl oherwydd ni chaiff gwybodaeth am eu namau ei hestyn ymlaen.
  • Mae’r fframwaith sydd yn bodoli i ddarparu addasiadau i sicrhau cyfranogiad effeithiol i ddiffynyddion a phobl gyhuddedig anabl yn annigonol.
  • Nid oes gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol yn rheolaidd y canllaw neu’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i allu nodi namau, eu heffaith, neu sut y gellir gwneud addasiadau.

Ar sail y canfyddiadau hyn, gwnawn argymhellion ar gyfer newid yn adroddiad ein hymchwiliad.  

Cawsom ateb swyddogol gan yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i’n hymchwiliad. Edrychwn ymlaen at ymgysylltiad parhaus â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i roi’r argymhellion ar waith a sicrhau treial teg i bawb.  

 

Y broblem

Dywed tystiolaeth sydd yn bodoli wrthym fod gorgynrychiolaeth o bobl â namau gwybyddol, cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau niwro-amrywiaeth yn y system cyfiawnder troseddol.  

Mae nifer o grwpiau, gan gynnwys elusennau, eiriolwyr cyfreithiol a theuluoedd diffynyddion neu bobl gyhuddedig wedi codi pryderon hirsefydlog am y rhwystrau y gall diffynyddion a phobl gyhuddedig anabl eu hwynebu yn ystod eu profiad o’r broses cyfiawnder troseddol.

Yng Nghymru a Lloegr, yn sgil moderneiddio’r llysoedd cafwyd prosesau newydd. Roeddem am edrych ar y cyfleoedd a’r risgiau maent yn peri i ddiffynyddion anabl.

Yn yr Alban, mae diwygio’r system cyfiawnder troseddol yn flaenoriaeth hirsefydlog i Lywodraeth yr Alban. Rydym am sicrhau bod effaith posibl y newidiadau hyn ar bobl gyhuddedig anabl yn cael eu hystyried yn llawn.

 

Yr hyn a wnaethom

Gwnaeth ein hymchwiliad ganolbwyntio ar y cam ‘cyn treial’, sydd ar ôl i berson gael ei gyhuddo, ond cyn i dreial ddechrau. Edrychom ar hyn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Ein nod oedd gwella mynediad at gyfiawnder ar gyfer unigolion gyda namau gwybyddol (problemau gyda meddwl y person, ei gyfathrebu a’i ddealltwriaeth a’i gof), cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau niwro-amrywiol, gan gynnwys awtistiaeth ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).

Gelwir pobl sydd wedi’u cyhuddo o drosedd yn ‘ddiffynyddion’ yng Nghymru a Lloegr, a’r ‘sawl sydd wedi’u cyhuddo’ yn yr Alban. Casglom ystod o dystiolaeth i’n galluogi i ddeall y problemau a wynebai diffynyddion a phobl gyhuddedig. Gwnaethom ystyried:

  • y mathau o addasiadau a ddefnyddir, a phryd, er mwyn gwella cyfranogiad yn y system cyfiawnder troseddol
  • beth yw’r rhwystrau rhag darparu'r addasiadau hyn a beth ellir ei wneud i ysgogi gwelliannau ac
  • effaith moderneiddio’r llys ar y grŵp yma, yn cynnwys eu profiadau o gyfiawnder digidol.

I gasglu tystiolaeth, gwnaethom gyfweld ystod o weithwyr proffesiynol yn y sector. Gwyliwch ein fideo byr o Alex Preston, cyfreithiwr amddiffyn troseddol yn Olliers Solicitors. Fan’ma, mae hi’n rhannu cipolwg o’i phrofiad o gynrychioli cleientiaid anabl a’r rheini â chyflyrau iechyd meddwl yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn taflu golau ar rai o’r rhwystrau maent yn eu hwynebu. 

Canfyddwch fwy am yr ymchwiliad

Ceir gwybodaeth bellach am gwmpas ein hymchwiliad yn ein cylch gorchwyl:

 

Mwy o gymorth

Os oes angen cyngor arnoch ynghylch materion cydraddoldeb, hawliau dynol neu gyfreithiol, cysylltwch â:

 

Diweddariadau tudalennau