Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD):
“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn gan y Comisiwn Annibynnol dros Gydraddoldeb o fewn Criced, y gwnaethom gyfrannu ato, a byddwn yn ystyried ei ganfyddiadau sy’n peri pryder yn ofalus.
“Does dim lle i hiliaeth na rhywiaeth mewn chwaraeon, nac yn y gymdeithas ehangach. Gan adeiladu ar ein gwaith yn 2021-22 i gefnogi newid yng Nghlwb Criced Swydd Efrog, byddwn yn parhau i weithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i sicrhau bod y camau beiddgar angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddileu pob gwahaniaethu mewn criced.
“Rhaid i bob clwb criced achub ar y cyfle hwyr hwn i fynd i’r afael â gwahaniaethu ac aflonyddu, fel nad oes unrhyw un sy’n ymwneud â chriced, boed fel amatur neu'n broffesiynol, yn dioddef yr hiliaeth neu’r rhywiaeth yr oedd eraill yn ei wynebu yn y gorffennol ac mae llawer yn parhau i’w hwynebu heddiw.”
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com