Newyddion

Ymateb i ymchwiliad Panorama yn ysgol annibynnol Life Wirral

Wedi ei gyhoeddi: 20 Mehefin 2024

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddyletswydd i orfodi ein cyfreithiau cydraddoldeb ac amddiffyn hawliau dynol.

“Rydym yn ymwybodol o bryderon a ddarlledwyd gan BBC Panorama ar 17 Mehefin, ynglŷn â thriniaeth plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn ysgol annibynnol Life Wirral yn Wallasey. Byddwn yn ystyried y pryderon hyn yn ofalus ac yn cymryd unrhyw gamau priodol.

“Dim ond pan fetho popeth arall y dylid defnyddio ataliaeth mewn ysgolion, a rhaid ei gynnal yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Ni ddylid byth ei ddefnyddio am resymau disgyblu neu gyda'r bwriad o niweidio, bychanu, gofidio neu ddiraddio plentyn.

“Mae angen i’n system addysg gefnogi pob plentyn i gyrraedd ei botensial mewn amgylchedd diogel, sy’n dileu gwahaniaethu ac aflonyddu ac yn parchu eu hawliau dynol.

Cefndir: