Arweiniad

Sylw dyledus i hawliau dynol: cwestiynau i fyrddau ofyn i’w timau gweithredu

Wedi ei gyhoeddi: 23 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 23 Awst 2019

Gallai’r cwestiynau hyn fod o ddefnydd i aelodau bwrdd i’w cynorthwyo mewn trafodaethau ag uwch reolwyr ynglŷn â materion hawliau dynol amlycaf y cwmni.

1. Beth mae’r cwmni’n ei wneud i roi parch i hawliau dynol ar waith fel rhan o sut mae’n gwneud busnes?

  • Oes adnoddau digonol gan swyddogaethau’r cwmni, sydd yn achosi risgiau i hawliau dynol, a chyfrifoldeb i reoli a lliniaru’r risgiau hynny?
  • Oes uwch reolwr sydd yn arwain yn weithredol ar hawliau dynol yn y cwmni?
  • Oes yna weithdrefnau ar gyfer cyflwyno risgiau ac effeithiau ar hawliau dynol i’r bwrdd?
  • Sut anogir staff i sôn am risgiau hawliau dynol a chymryd camau i’w lliniaru a’u rheoli? Sut wobrwyir staff am wneud hynny?
  • Pa ddangosyddion sydd yn asesu effeithiolrwydd prosesau rheoli risgiau hawliau dynol?
  • Oes arbenigedd ar hawliau dynol gan unrhyw aelod o’r tîm gweithredu? Oes hyrwyddwr bwrdd ar gyfer hawliau dynol?

2. Sut ŵyr y cwmni am ba effeithiau negyddol sydd efallai ganddo ar hawliau dynol pobl?

  • Ydy’r cwmni yn asesu’i risgiau hawliau dynol ar draws ei weithgareddau a chadwyn cyflenwi, lleoliadau daearyddol a phrosesau gwneud penderfyniadau?
  • Beth mae’r cwmni wedi nodi fel ei faterion hawliau dynol amlycaf ac ar ba sail? Ydy e wedi tynnu ar brofiad a gwybodaeth ystod eang o randdeiliaid?
  • Sut mae uwch reolwyr yn gwybod a yw polisïau a phrosesau’r cwmni, sy’n ymwneud â hawliau dynol, yn effeithiol?

3. Pa gamau mae’r cwmni’u cymryd i leihau a lliniaru’i risgiau?

  • Sut mae’r cwmni’n defnyddio’i ddylanwad i leihau risgiau i hawliau dynol yn ei gadwyn cyflenwi a pherthynas busnes arall?
  • Beth mae’r cwmni’n ei ddefnyddio i sicrhau nad yw’n cyfrannu at effeithiau hawliau dynol drwy ei weithgareddau a’i benderfyniadau’i hunan?
  • Ydy’r cwmni’n gweithio gydag eraill yn y diwydiant, neu gyda grwpiau amlranddeiliad i fynd i’r afael â risgiau hawliau dynol?
  • Beth mae’r cwmni’n ei wneud i ddarparu unioniad os yw ei weithgareddau neu benderfyniadau ei hun yn arwain at effeithiau ar hawliau dynol?

4. Sut mae’r cwmni’n ymgysylltu â rhanddeiliaid i helpu’i hunan i ddeall a mynd i’r afael â risgiau hawliau dynol?

  • Ydy’r cwmni’n ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid ar draws ei fusnes i gynorthwyo’i ddealltwriaeth o risgiau hawliau dynol a’i gynnydd ar leihau’r risgiau hyn?
  • Sut mae pobl y tu fewn neu’r tu allan i’r cwmni yn sôn am ofidion ynghylch effeithiau hawliau dynol, a sut mae’r cwmni’n gwybod a yw’r sianeli hyn yn gweithio?

5. Ydy’r cwmni’n egluro pa faterion hawliau dynol mae’n adrodd arnynt a pham?

  • Ydy’r cwmni yn darparu gwybodaeth ddigonol i egluro’i heriau hawliau dynol a darparu enghreifftiau o sut mae ei weithgareddau’n gwella canlyniadau hawliau dynol?
  • Ydy’r adroddiad yn cynnwys dangosyddion neu fetrigau i ddarparu tystiolaeth o gynnydd dros amser?
  • Oes digon o wybodaeth gan uwch reolwyr i gyflawni gofynion adrodd rheoleiddiol?

Diweddariadau tudalennau