Arweiniad

Sut mae mynd i'r afael â bwlio seiliedig ar ragfarn mewn ysgolion?

Wedi ei gyhoeddi: 29 Mehefin 2018

Diweddarwyd diwethaf: 29 Mehefin 2018

Beth yw bwlio seiliedig ar ragfarn?

Mae rhai grwpiau o bobl ifanc yn fwy tebygol o brofi bwlio nag eraill. Bwlio seiliedig ar ragfarn yw unrhyw fath o fwlio corfforol neu lafar uniongyrchol, bwlio anuniongyrchol neu seiberfwlio seiliedig ar nodweddion gwarchodedig perthnasol:


• oedran
• anabledd
• rhyw
• ailbennu rhywedd
• beichiogrwydd a mamolaeth
• hil
• crefydd neu gred
• cyfeiriadedd rhywiol

Mynd i'r afael â bwlio seiliedig ar ragfarn mewn ysgolion

Helpu ysgolion i nodi ac atal pob math o fwlio: mae'r animeiddiad hwn yn disgrifio graddfa ac effaith barhaol bwlio ar fywydau disgyblion

Cynghorion ar gyfer mynd i'r afael â bwlio seiliedig ar ragfarn

Er mwyn atal bwlio seiliedig ar ragfarn, defnyddiwch ymagwedd ysgol gyfan. Edrychwch ar ddiwylliant yr ysgol gyfan ac ystyriwch:

• yr hyn mae'n ofynnol i'ch ysgol ei wneud o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
• creu diwylliant ysgol sy'n adlewyrchu diogelwch a chynhwysiant
• dathlu gwahaniaeth
• defnyddio iaith amrywiaeth
• cynnwys ac ymgysylltu â phob disgybl
• grymuso staff a myfyrwyr

I weld y cyfarwyddyd yn llawn a dysgu rhagor am sut i ddefnyddio'r ymagwedd hon yn eich ysgol lawrlwythwch ein cynghorion ar gyfer mynd i'r afael â bwlio gwahaniaethol

Beth i'w wneud pan fydd bwlio seiliedig ar ragfarn yn digwydd

  •     trefnu bod system riportio dda ar waith: gwnewch yn siŵr fod eich system  riportio am fwlio yn hyblyg, hygyrch a chyfrinachol i bawb, gan gynnwys y rhai hynny ag anableddau ac anghenion cymorth ychwanegol
    •     cymryd pob adroddiad o fwlio o ddifrif: gall fod yn niweidiol iawn i berson ifanc os caiff eu hadroddiadau eu hanwybyddu
    •     peidiwch â beio'r dioddefwr: ni ddylid dweud wrth y plant byth am ei anwybyddu, neu am newid pwy ydyn nhw - y plant sy'n gwneud y bwlio sydd angen newid eu hymddygiad a'u hagwedd
    •     osgoi stereoteipiau: nid yw'n wir bod merched yn 'sbeitlyd' a bod bechgyn yn ymladd ac yn dod drosto - gall unrhyw un fod yn gallu bwlio ac mae’n cael effaith ddifrifol ar bawb sy'n gysylltiedig
    •     darganfod pwy arall sy'n gysylltiedig: anaml iawn mae bwlio yn ymddygiad un wrth un, gall cael y grŵp ehangach i newid eu hymddygiad helpu i roi stop arno
    •     gwybod pryd a ble i gael cyngor a chymorth allanol: gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd y rhai hynny sy'n ymwneud â bwlio yn dod i delerau â'u rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol
    •     monitro lefelau bwlio seiliedig ar ragfarn yn eich ysgol: bydd hyn yn eich helpu i gymryd camau i atal a mynd i'r afael ag ef mewn ffordd wybodus
    •     dysgu o ddigwyddiadau bwlio ac arolygon disgyblion: defnyddio'r rhain i adolygu polisïau gwrth-fwlio a mesurau atal

Darganfyddwch sut mae ysgolion yn defnyddio data i atal a mynd i'r afael â bwlio.

Diweddariadau tudalennau