Aflonyddu rhywiol yn y gweithle

Wedi ei gyhoeddi: 30 Ionawr 2020

Diweddarwyd diwethaf: 30 Ionawr 2020

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Canllawiau newydd ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle

Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i amddiffyn eu gweithwyr a byddant yn atebol yn gyfreithiol am aflonyddu rhywiol yn y gweithle os nad ydynt wedi cymryd camau rhesymol i'w atal. Mae ein canllawiau yn cynnig esboniad cyfreithiol ac enghreifftiau ymarferol o sut i fynd i'r afael ag aflonyddu ac ymateb yn effeithiol iddo.

Darllenwch y canllaw: Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle

Darllenwch ein canllaw saith cam i gyflogwyr: Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith

Gwyliwch ein fideo byr sy'n amlygu sut i atal aflonyddu mewn pedwar cam:

Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd unigolyn yn amlygu ymddygiad rhywiol digroeso. Mae iddo ddiben neu effaith:

  • o dorri urddas rhywun
  • o greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus i'r unigolyn dan sylw

Gall ‘ymddygiad rhywiol’ gynnwys ymddygiad geiriol, di-eiriau neu gorfforol gan gynnwys ymddygiadau rhywiol digroeso, cyffwrdd amhriodol, mathau o ymosodiad rhywiol, jôcs rhywiol, arddangos ffotograffau neu luniadau pornograffig, neu anfon e-byst gyda deunydd o natur rywiol. I gael rhagor o wybodaeth am aflonyddu a beth mae hyn yn ei olygu, gweler ein tudalen gwahaniaethu ar sail rhyw.

Mae profi aflonyddu rhywiol yn un o'r sefyllfaoedd anoddaf y gall person ei hwynebu yn y gweithle. Nid oes unrhyw weithle yn imiwn i aflonyddu rhywiol ac nid yw diffyg achosion yr adroddir amdanynt o reidrwydd yn golygu nad ydynt wedi digwydd. Mae tystiolaethau proffil uchel diweddar a rhannu profiadau ar gyfryngau cymdeithasol wedi tynnu sylw at aflonyddu rhywiol mewn amrywiaeth o weithleoedd, a’r rhwystrau gwirioneddol y mae llawer yn eu profi wrth adrodd amdano.

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am sicrhau nad yw cyflogeion yn wynebu aflonyddu yn eu gweithle. Mae ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu cyflogeion a byddant yn gyfreithiol atebol os na fyddant yn gwneud hynny.

Ein gwaith hyd yn hyn

Ym mis Ionawr 2020 fe wnaethom ysgrifennu at gyflogwyr mawr ledled Prydain Fawr i ofyn iddynt gymryd camau ataliol i ddiogelu eu cyflogeion rhag aflonyddu, gan ddilyn y cyngor ymarferol a amlinellir yn ein canllaw. Mae hyn yn dilyn adborth gan tua 1,000 o unigolion a chyflogwyr rhwng Rhagfyr 2017 a Chwefror 2018 a gyhoeddwyd yn ein hadroddiad Turning the Tables.

Cefnogaeth i gyflogwyr

Mae gwefan ACAS yn cynnwys gwybodaeth am ymdrin â chwynion am aflonyddu rhywiol ac yn cynnwys llinell gyngor os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Gallwch hefyd lawrlwytho ein canllaw i gyflogwyr ar atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith a'n harweiniad ar ddefnyddio cytundebau cyfrinachedd mewn achosion gwahaniaethu.

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon