Newyddion

System ar gyfer herio penderfyniadau gofal cymdeithasol yn 'methu'r rhai sydd ei angen'

Wedi ei gyhoeddi: 28 Chwefror 2023

Mae oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu methu os ydyn nhw’n ceisio herio penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol, yn ôl ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD).

Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd heddiw gan y rheoleiddiwr cydraddoldeb a hawliau dynol yn datgelu bod prosesau awdurdodau lleol yn ddryslyd ac yn araf, gyda risgiau nad yw pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Mae defnyddwyr gofal cymdeithasol, a'u hanwyliaid, yn ei chael yn anodd gwneud cwynion ac yn peri straen, yn aml ar adeg pan fyddant mewn argyfwng.

Lansiodd y CCHD ei ymchwiliad ym mis Gorffennaf 2021 i ddeall profiadau defnyddwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr sydd wedi herio penderfyniadau a wnaed gan awdurdodau lleol. Archwiliodd y gweithdrefnau sydd ar waith ymhlith awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr a chasglwyd mewnwelediad gan weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol hefyd.

Canfu'r ymchwiliad fod rhai pobl yn cael eu hatal rhag ceisio cymorth gan system gymhleth a ddylai, yn hytrach, fod yn cynnal eu hawliau i herio penderfyniadau am eu gofal.

Dywedodd Marcial Boo, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Pan mae gofal cymdeithasol yn gweithio’n dda mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu pobl i fyw eu bywydau fel y mynnant. Ond mae'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn ei chael hi'n anodd, gydag anghenion pobl yn cael eu cydbwyso yn erbyn cyllidebau tynn.

“Tra bod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau aruthrol, mae’n rhaid iddyn nhw amddiffyn hawliau pobol wrth wneud penderfyniadau am eu gofal. Mae ffyrdd effeithiol i bobl herio’r penderfyniadau hynny yn hanfodol i sicrhau bod penderfyniadau da yn cael eu gwneud a bod anghenion pobl yn cael eu diwallu.”

Clywodd yr ymchwiliad nad yw rhai pobl yn cael gwybodaeth hanfodol am sut i herio penderfyniadau, a bod llai na hanner yr awdurdodau lleol y gwnaed arolwg ohonynt bob amser yn cyfeirio defnyddwyr at gyngor neu gymorth annibynnol. Mae hyn yn creu rhwystrau diangen i ddefnyddwyr ac ofnau ynghylch canlyniadau negyddol os gwneir cwynion, gan gynnwys colli mynediad at y gofal cymdeithasol sydd ei angen.

Mae casglu a dadansoddi data cydraddoldeb yn wael hefyd. Gallai'r wybodaeth goll hon helpu cynghorau i ddeall pa mor dda y maent yn bodloni anghenion gofal cymdeithasol gwahanol grwpiau, fel y gellir gwella gwasanaethau.

Ychwanegodd Marcial Boo:

“Ni ddylai pobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol gael eu gadael yn y tywyllwch ynglŷn â sut i herio penderfyniadau sy’n effeithio mor sylfaenol ar eu lles, eu hurddas a’u hannibyniaeth.

“Mae ein canfyddiadau’n dangos bod yn rhaid gwneud gwelliannau i hygyrchedd gwybodaeth, eglurder y broses gwyno ac argaeledd cymorth.

“Mae’r angen am ddiwygio a chyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ddarparu gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod yn eang. Mae ein hymchwiliad yn nodi nifer o gamau y dylid eu cymryd nawr i gynnal safonau cydraddoldeb a hawliau dynol pan fydd pobl yn herio penderfyniadau am eu gofal.”

Mae’r CCHD yn gwneud argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, llywodraethau’r DU a Chymru a chyrff eraill sydd â rôl yn y system ofal.

Mae’r argymhellion yn cynnwys galwad i Lywodraeth y DU wneud yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol (LGSCO) yn awdurdod safonau cwynion statudol ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion yn Lloegr, ac i’r LGSCO dderbyn pwerau newydd i gychwyn ymchwiliadau i feysydd sy’n peri pryder heb y angen cwynion unigol.

Dywedodd Michael King, Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol:

“Rydym yn croesawu adroddiad ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n adleisio’r materion a ganfyddwn yn rheolaidd yn ein hymchwiliadau am wasanaethau gofal i oedolion, yr ydym yn cynnal mwy na dwy ran o dair ohonynt.

“Mae gan bobl hawl i ofal o ansawdd da sy’n parchu eu hawliau sylfaenol i urddas, ymreolaeth a thriniaeth deg. Os aiff pethau o chwith, dylai fod gweithdrefnau tryloyw, effeithiol a hygyrch ar waith i bobl herio penderfyniadau a wneir gan eu cynghorau lleol.

“Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn bob amser yn wir, a dyna pam rydyn ni wedi bod yn galw am gyfeirio statudol at ein gwasanaeth. Fel yr awdurdod safonau cwynion statudol sydd newydd ei rymuso, byddem yn sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn glir ac yn gyson ledled y wlad, a bod gwersi o gwynion yn cael eu craffu a’u gwreiddio’n briodol.

“Rydym wedi amlygu ein pryderon o’r blaen ynghylch erydiad prosesau cwynion lleol effeithiol a’r heriau penodol a wynebir gan bobl ag anableddau wrth gael mynediad i’r broses gwyno. Mae adroddiad y CCHD yn cadarnhau'r problemau yr ydym yn eu canfod gyda mynediad i bobl ag anghenion cyfathrebu wrth i ni edrych yn gynyddol ar gwynion trwy lens hawliau dynol.

“Mae’r CCHD wedi gwneud nifer o argymhellion pragmatig sy’n cefnogi’r pwerau rydyn ni wedi bod yn galw ar y llywodraeth i’w rhoi i ni, gan gynnwys y gallu i ni gynnal ymchwiliadau lle rydyn ni’n meddwl bod anghyfiawnder heb ei gywiro ni waeth a ydyn ni wedi derbyn cwyn ai peidio. ”

Mae’r argymhellion hefyd yn cynnwys galwad ar i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i wella’r broses o gasglu a dadansoddi data cydraddoldeb gan ddefnyddwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n herio penderfyniadau. Dylid defnyddio'r data hwn i nodi a mynd i'r afael â chanlyniadau gwael lle maent yn cael eu profi gan bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol.

Dywedodd Eryl Besse, Comisiynydd Cymru ar gyfer y CCHD:

“Dylid ystyried barn a dymuniadau pobol sy’n derbyn gofal cymdeithasol.

“Er mwyn sicrhau bod penderfyniadau da yn cael eu gwneud ac anghenion pobl yn cael eu diwallu, rhaid cael ffyrdd effeithiol o herio penderfyniadau gofal. Dengys ein canfyddiadau y bydd hyn yn gofyn am welliannau i hygyrchedd gwybodaeth, eglurder y broses gwyno, ac argaeledd cymorth.

“Mae ein hymchwiliad yn nodi sawl cam y dylid eu cymryd nawr i gynnal safonau cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae lansiad Corff Llais y Dinesydd newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2023, a diwygiadau gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru, yn cyflwyno cyfleoedd i gefnogi’r gwelliannau hyn”.

Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC):

“Mae sicrhau bod pobl wrth galon y broses o wneud penderfyniadau a bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn un o’r egwyddorion craidd sy’n llywio gwaith AGC.

“Rwy’n croesawu’r ymchwiliad hwn ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda’r CCHD i sicrhau bod ei argymhellion yn cael eu gweithredu.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Ymatebodd 153 o awdurdodau lleol allan o 174 cymwys â chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol i oedolion i’n harolwg (133 yn Lloegr ac 20 yng Nghymru). Cynhaliwyd cyfweliadau manwl gyda 12 o gynghorau ar draws gwahanol ranbarthau, i ddeall prosesau ac arferion awdurdodau lleol (2 yng Nghymru).

  • Ymatebodd 332 o unigolion sy'n defnyddio gofal cymdeithasol oedolion, eu cynrychiolwyr a'u gofalwyr i arolwg o brofiadau pobl o herio penderfyniadau (59 o Gymru). Cynhaliwyd cyfweliadau manwl gyda 41 o bobl oedd yn ceisio neu’n cyrchu gofal a gofalwyr (10 o Gymru).

  • Cynhaliwyd 54 o gyfweliadau manwl (23 gyda rhanddeiliaid o Gymru) a 12 o drafodaethau grŵp ffocws (3 yng Nghymru) ag ystod eang o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, darparwyr eiriolaeth, sefydliadau pobl hŷn a phobl anabl, cyrff statudol , cymdeithasau proffesiynol ac arbenigwyr cyfreithiol. Derbyniwyd 15 o gyflwyniadau ysgrifenedig gan sefydliadau ac arbenigwyr.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com