Mae’r CCHD wedi ysgrifennu heddiw at Brandon Lewis AS, yr Arglwydd Ganghellor newydd a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i oedi’r Bil Hawliau i’w ystyried ymhellach.
Roedd gennym bryderon y gallai’r Bil, fel y’i drafftiwyd, o bosibl:
- gwanhau fframwaith y DU o amddiffyniadau hawliau dynol
- lleihau mynediad at iawndal am dorri hawliau dynol
- â goblygiadau ar gyfer diogelu rhyddid mynegiant
- â goblygiadau cyfansoddiadol sylweddol i setliadau datganoli'r DU a chytundeb Belfast/Gwener y Groglith.
Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i barhau’n barti i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chadw ei gorffori yng nghyfraith y DU. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol, sy’n cyflawni hyn, wedi gwella amddiffyniadau hawliau dynol a mynediad at gyfiawnder i bobl yn y DU yn sylweddol ers ei deddfu ym 1998.
Mae’r saib hwn yn gyfle i ystyried y materion hyn ymhellach. Dylai diwygiadau cyfansoddiadol sylweddol fod yn destun ymgynghoriad eang a chraffu cadarn cyn y broses ddeddfu.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain.
Fe wnaethom addasu’r datganiad hwn ar 12/10/2022 i adlewyrchu cynnwys ein llythyr at Brandon Lewis AS yn well. Newidiwyd y geiriau 'gan gynnwys ar gyfer yr Undeb' i 'ar gyfer setliadau datganoli'r DU a chytundeb Belfast/Gwener y Groglith'.