Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Rydym yn bryderus o glywed am yr honiadau newydd hyn o aflonyddu rhywiol a hiliol.
“Byddwn yn edrych arnynt yn ofalus yng nghyd-destun ein cytundeb cyfreithiol presennol gyda McDonald’s i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ar staff yn ei fwytai.“Mae McDonald’s wedi gwneud nifer o ymrwymiadau cyfreithiol rwymol i ni y byddwn yn eu monitro, gan gynnwys:
- cyfathrebu agwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol
- cynnal arolwg dienw o weithwyr am ddiogelwch yn y gweithle
- gwella polisïau a gweithdrefnau i atal aflonyddu rhywiol a gwella ymatebion i gwynion
- darparu hyfforddiant gwrth-aflonyddu i gyflogeion
- cyflwyno hyfforddiant a deunyddiau penodol i helpu rheolwyr i nodi meysydd risg yn eu bwytai a chymryd camau i atal aflonyddu rhywiol
- cefnogi’r defnydd o bolisïau a deunyddiau hyfforddi gan ddeiliaid masnachfraint o fewn eu sefydliadau annibynnol i gefnogi adrodd am aflonyddu rhywiol
- monitro cynnydd tuag at amgylchedd gwaith diogel, parchus a chynhwysol
“O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae cyflogwyr yn gyfreithiol gyfrifol os yw cyflogai yn cael ei aflonyddu’n rhywiol yn y gwaith gan gyflogai arall, os nad yw’r cyflogwr wedi cymryd pob cam posib i’w atal rhag digwydd.”
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Ni ddylai fod unrhyw oddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol mewn unrhyw sefydliad. Rwy’n pryderu am yr adroddiadau newydd hyn o aflonyddu yn McDonald’s, lle mae gennym gytundeb cyfreithiol ar waith i sicrhau bod eu bwytai yn lleoedd diogel i weithio ynddynt.
“Mae McDonald’s wedi ymrwymo i wneud gwelliannau i osod esiampl i eraill ei dilyn, yn y diwydiant lletygarwch ac mewn mannau eraill.
“Mae pob cyflogwr, waeth pa mor fawr neu fach, yn gyfrifol am amddiffyn ei weithlu. Rydym yn benderfynol o barhau i fynd i’r afael ag aflonyddu anghyfreithlon mewn mannau gwaith
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com