Fel rheoleiddiwr Deddf Cydraddoldeb 2010, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal ac yn gorfodi cyfreithiau cydraddoldeb Prydain.
Ein dyletswydd yw darparu cyngor annibynnol i lywodraethau ar sut y gallai cyfreithiau newydd, a newidiadau arfaethedig i’r gyfraith, effeithio ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb.
Ym mis Ionawr eleni, gwnaethom alw am ystyriaeth fanylach o gynigion i ddiwygio’r broses gyfreithiol o gydnabod rhywedd yn yr Alban.
Rydym bellach wedi ysgrifennu at lywodraethau’r Alban a’r DU i nodi goblygiadau’r ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Cydraddoldeb. Rydym yn annog y ddwy lywodraeth i gydweithio i leihau’r risg o ansicrwydd cyn i’r ddeddfwriaeth fynd rhagddi.
Darllenwch y llythyrau: