Newyddion

Datganiad yn dilyn cyhoeddi adolygiad y Farwnes Casey o'r Heddlu Metropolitanaidd

Wedi ei gyhoeddi: 22 Mawrth 2023

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

 

Rydym yn croesawu cyhoeddi adolygiad y Farwnes Casey o ddiwylliant a safonau yn yr Heddlu Metropolitanaidd. Mae’n adroddiad hynod arwyddocaol, ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn yr heddlu, ac wrth gwrs y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r gyfraith yn glir: ni ddylai neb ddioddef aflonyddu na gwahaniaethu yn y gwaith nac mewn unrhyw ran o’n cymdeithas.

Fel cyflogwr a chorff cyhoeddus, rhaid i’r Met gyflawni ei ddyletswydd statudol i amddiffyn ei weithwyr a’r cyhoedd.

Yn 2016 fe wnaethom ymchwilio i aflonyddu anghyfreithlon, gwahaniaethu ac erledigaeth yn y Met. Ym mis Tachwedd y llynedd fe ysgrifennon ni at y Farwnes Casey, yn manylu ar argymhellion ein hymchwiliad ac yn cynnig ein cefnogaeth.

Mae’n siomedig ac yn annifyr iawn darllen bod rhai o’r materion a amlygwyd yn ein hadroddiad yn 2016 yn dal yn amlwg yn y Met heddiw.

Byddwn yn ystyried cynnwys yr adroddiad hwn yn fanwl, ac efallai y byddwn yn ystyried cymryd camau pellach, gan gynnwys camau rheoleiddio.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com