Archwiliad i’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan

Wedi ei gyhoeddi: 13 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 13 Ebrill 2016

Gwasanaeth Heddlu Metropolitan

Ymgymrodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ag archwiliad i wahaniaethu anghyfreithiol, aflonyddu ac erledigaeth o staff Gwasanaeth Heddlu Metropolitan a wnaeth gwynion gwahaniaethu. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Medi 2016.

Lansiwyd yr archwiliad hwn mewn ymateb i bryderon ynglŷn â thriniaeth y Met o heddweision benywaidd, duon a lleiafrifoedd ethnig a hoyw, ac mae’n dilyn dyfarniadau diweddar Tribiwnlys Cyflogaeth Canol Llundain yn yr achos Carol Howard v Gwasanaeth Heddlu Metropolitan bod y Met wedi gwahaniaethu yn erbyn Ms Howard a’i herlid yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gweithdrefnau camymddwyn a Thegwch yn y Gwaith y Met yw ffocws yr archwiliad. Ymgymerwyd ag ef o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006, sydd yn rhoi pwerau i’r Comisiwn archwilio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cydraddoldeb pan fo’n drwgdybio bod cam anghyfreithlon wedi’i gyflawni.

Darllen yr adroddiad

Datganiad i’r wasg: ymchwiliad i’r Heddlu Metropolitan yn datgelu diffygion arwyddocaol wrth drin gwahaniaethu

Os hoffech wybodaeth bellach am yr ymchwiliad, cysylltwch â ni yn MPS.Investigations@equalityhumanrights.com

Lawrlwythiadau dogfen

Diweddariadau tudalennau