Newyddion

Araith: Adolygiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol y DU

Wedi ei gyhoeddi: 27 Mawrth 2023

Datganiad Llafar ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a; Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban ar Argymhellion Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR) y DU.

Annwyl Mr Llywydd, rwy’n croesawu’r cyfle i wneud y datganiad hwn ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban.

Hoffem ddiolch i Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig am eu hargymhellion eang i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wella cydymffurfiaeth â safonau hawliau dynol rhyngwladol.

Bu cynnydd mewn rhai meysydd, cynnydd cyfyngedig mewn meysydd eraill a hefyd rydym wedi nodi materion newydd sy'n peri pryder.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth er enghraifft, i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol a rhoi Bil Hawliau yn ei lle. Rydym yn pryderu y bydd hyn yn gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol, yn cael goblygiadau sylweddol ar ddatganoli ac yn anghydnaws â Chytundeb Belfast/Gwener y Groglith.

Mae Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon yn pryderu bod Bil Helyntion Gogledd Iwerddon (Etifeddiaeth a Chymod) yn cyfyngu’n ormodol ar fynediad dioddefwyr i’r llysoedd, gan dorri cyfraith hawliau dynol a Chytundeb Belfast (Gwener y Groglith) eto.

Mae’n bwysig bod gan y DU Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol cadarn, sy’n cydymffurfio’n llawn ag Egwyddorion Paris ac sydd ag adnoddau digonol i gyflawni ein mandadau i amddiffyn hawliau dynol.

Rydym yn croesawu’r argymhellion ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, ac yn annog y Llywodraeth i gydnabod pwysigrwydd hawliau o’r fath yng ngoleuni’r pwysau presennol o ran costau byw. Rhaid i weinyddiaethau datganoledig hefyd ymrwymo i wella amddiffyniadau hawliau o'r fath i'r graddau mwyaf posibl.

Rydym yn parhau i fod yn bryderus ynghylch amodau cadw mewnfudwyr a phlismona anghymesur rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac yn croesawu eich argymhellion i wella amddiffyniadau i gymunedau ymylol ledled y DU.

Rydym yn annog llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i gyhoeddi cynlluniau clir y gellir eu gweithredu ar gyfer rhoi eich argymhellion priodol ar waith. Gall ymgysylltu gwell â NHRI a chymdeithas sifil yn ystod y cam cynllunio a gweithredu gefnogi hyn.

Mae’r tri Chomisiwn yn barod i gefnogi gweithredu argymhellion ac i ddwyn llywodraethau’r DU a’r llywodraethau datganoledig i gyfrif. Byddwn yn adrodd yn ôl i'r Cyngor gyda'n hasesiadau annibynnol ac arbenigol o unrhyw gynnydd a wneir.

Diolch i chi, Mr Llywydd.

Nodiadau i olygyddion

Datganiad i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban .

Darganfod mwy am yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com