Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR)
Wedi ei gyhoeddi: 27 Ebrill 2022
Diweddarwyd diwethaf: 27 Ebrill 2022
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Mae’r DU yn cymryd rhan yn yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Mae hon yn broses adolygu gan gymheiriaid a gynhelir gan Gyngor Hawliau Dynol y CU i asesu’r sefyllfa hawliau dynol ym mhob un o Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r UPR yn asesu sut mae gwladwriaethau’n rhoi hawliau dynol ar waith, gan edrych ar eu rhwymedigaethau hawliau dynol fel y nodir yn:
-
y cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol y mae pob gwladwriaeth wedi ymrwymo iddynt
-
ymrwymiadau gwirfoddol, megis polisïau hawliau dynol cenedlaethol
-
cyfraith ddyngarol ryngwladol berthnasol (sy’n rheoleiddio ymddygiad rhyfel)
Sut mae'r DU yn dod ymlaen
O dan yr UPR, adolygir sefyllfa hawliau dynol pob un o Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig (gan gynnwys y DU) bob pum mlynedd. Mae gennym dudalen benodol i'r UPR ar ein traciwr hawliau dynol. Yno gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwahanol gamau yn y cylch monitro ac adolygu a gweld lle mae'r DU yn y broses hon ar hyn o bryd. Mae'r dudalen UPR yn dangos yr amserlen ar gyfer y cylch presennol. Mae hefyd yn dangos ble i gael gwybodaeth am gylchoedd blaenorol a sut i gymryd rhan mewn cylchoedd yn y dyfodol.
Mae ein tudalennau asesu ar y traciwr hawliau dynol yn rhoi trosolwg o gynnydd llywodraethau'r DU a Chymru o ran cyflawni eu rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol.
Ein gwaith ar UPR
Mae’r gwaith diweddaraf yr ydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro UPR yn cynnwys:
-
Mae ein hadroddiad diweddaraf i Gyngor Hawliau Dynol y CU yn nodi’r hyn sydd wedi’i wneud i ddiogelu hawliau dynol ym Mhrydain Fawr ers ein hadroddiad diwethaf yn 2017
-
datganiad ar y cyd yn nodi pwynt canol yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR) a phapur briffio byr fel diweddariad canol tymor (Medi 2019)
-
llythyr at y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn gofyn i’r Llywodraeth sut y byddai’n gweithredu argymhellion yr UPR (Rhagfyr 2017)
Lawrlwythiadau dogfen
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
27 Ebrill 2022
Diweddarwyd diwethaf
27 Ebrill 2022