Newyddion

28 o sefydliadau eto i adrodd ar ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Wedi ei gyhoeddi: 6 Gorffenaf 2022

Mae’r cawr siopa un tro Costco a’r busnes hedfan Swissport ymhlith 28 o sefydliadau sydd eto i gydymffurfio â’u rhwymedigaeth gyfreithiol i adrodd ar eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2021-22, yn dilyn dyddiadau cau 30 Mawrth a 4 Ebrill.

Mae sefydliadau nad ydynt yn cyhoeddi’r data yn derbyn hysbysiadau rhybuddio y gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) ddechrau camau gorfodi ffurfiol, gan gynnwys ymchwiliadau, i benderfynu a ydynt yn torri’r gyfraith, a chynllun gweithredu y gellir ei orfodi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Os byddant yn methu â rhoi’r cynllun gweithredu ar waith, gall y CCHD ofyn am orchymyn llys i roi dirwy ddiderfyn.