Cyhoeddiad
Hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ym Mhrydain Fawr
Wedi ei gyhoeddi: 2 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 2 Chwefror 2023
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Cymru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) ym Mhrydain Fawr ers ein hadroddiad diwethaf yn 2018. Mae’n nodi lle mae cynnydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf a lle mae angen gwaith pellach.
Mae’n ymdrin â’r pynciau canlynol:
- fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol
- amodau yn y gwaith
- tlodi
- tai
- gofal cymdeithasol
- mynediad i ofal iechyd
- bywyd diwylliannol
Mae ein hadroddiad yn pwysleisio bod cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu yn hanfodol i wireddu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rydym wedi gwneud argymhellion i lywodraethau’r DU a Chymru. Rydym yn eu hannog i ddefnyddio proses adrodd ICESCR i gryfhau eu hymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a gwella cydymffurfiaeth â'u rhwymedigaethau hawliau dynol.
Lawrlwythiadau dogfen
DOCX, 439.64 KB
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
2 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf
2 Chwefror 2023