Rhoi gwybod i ni am eich hawliad gwahaniaethu

Wedi ei gyhoeddi: 27 Ebrill 2022

Diweddarwyd diwethaf: 27 Ebrill 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Gwahaniaethau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

Pan fyddwch yn cyflwyno hawliad gwahaniaethu yn ymwneud â chydraddoldeb yn y llys sirol (Cymru a Lloegr) neu lys siryf (yr Alban), mae angen i chi anfon gwybodaeth atom am eich hawliad.

Hawliadau Cymru a Lloegr

Nid oes unrhyw fformat penodol y mae angen i'r wybodaeth hon ei chymryd. Rydym yn awgrymu anfon copi o’r ffurflen hawlio a llythyr atom yn nodi:

  • eich bod yn rhoi hysbysiad i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch cychwyn achosion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • enw'r rhai rydych yn erlyn
  • enw'r llys
  • rhif yr achos

Anfonwch hwn atom trwy e-bost:

commencementofproceedings@equalityhumanrights.com

Peidiwch ag anfon dogfennau cyfrinachol.

Hawliadau yn yr Alban

Yn yr Alban dylech anfon copi o'r gwrit neu ddatganiad o hawliad atom.

Anfonwch hwn atom trwy e-bost:

legalrequestscotland@equalityhumanrights.com

Pam fod angen i chi anfon hwn

Mae rheolau’r llys yn dweud bod yn rhaid i chi roi gwybod i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol pan fyddwch yn cyflwyno cwyn sy’n ymwneud â chydraddoldeb.

Ar gyfer hawliadau yn y llys sirol (Cymru a Lloegr), nodir hyn ym mharagraff 2 o’r rheolau (a elwir yn Gyfarwyddyd Ymarfer ), o dan adran 114 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ar gyfer hawliadau yn llys y siryf (yr Alban), nodir hyn yn Rheol 44.2 y Rheolau Achosion Cyffredin a Rheol 17.14 y Rheolau Gweithdrefn Syml .

Y diben yw inni weld natur a nifer yr achosion cyfraith gwahaniaethu a ddygir i'r llysoedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ymyrryd mewn achos o dan Adran 30 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Gwnawn hyn os yw’r achos yn unol â’n polisi ymgyfreitha a gorfodi a’n bod yn meddwl y gallwn gynorthwyo’r llys drwy ddarparu tystiolaeth arbenigol. Felly, mae gwybodaeth sy’n rhoi digon o fanylion inni ystyried hyn yn ddefnyddiol.

Mae'r wybodaeth a gawn at ddibenion cudd-wybodaeth yn unig ac nid yw'n cael ei chyhoeddi fel mater o drefn. Mae'n cael ei gofnodi a'i storio yn unol â'n polisïau diogelwch a chadw data. I weld sut rydym yn defnyddio eich data personol pan fyddwch yn ei roi i ni, gweler ein hysbysiad preifatrwydd .

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon

Cyngor a chefnogaeth

Os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.
phone icon

Ffoniwch yr EASS ar:

0808 800 0082