Cam 3 adolygiad cyflog cyfartal: nodi unrhyw gamau y mae angen eu cymryd

Wedi ei gyhoeddi: 26 Awst 2020

Diweddarwyd diwethaf: 26 Awst 2020

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Os yw eich adolygiad cyflog cyfartal wedi canfod gwahaniaethau rhwng cyflog dynion a merched sy'n gwneud gwaith cyfartal, mae angen i chi ddeall pam fod hyn a chymryd camau i'w dileu.

Yr unig reswm na fyddai angen i chi weithredu yw os gallwch gyfiawnhau eich gwahaniaethau cyflog trwy ddangos bod y gwahaniaeth oherwydd ffactor materol nad yw'n gysylltiedig â rhyw deiliad y swydd.

Deall y rheswm dros unrhyw wahaniaethau mewn cyflog

  • Darganfyddwch ble mae gwahaniaethau mewn cyflog yn digwydd. Er enghraifft a yw'n dâl sylfaenol, tâl perfformiad, faint o oramser a weithiwyd, ac ati.
  • Deall pa arferion cyflog sy'n achosi'r bwlch. Er enghraifft, a yw'n gyflog cychwynnol, asesiadau perfformiad, a gwahaniaethau o ran derbyn cyfleoedd goramser rhwng dynion a merched
  • Deall y rheswm dros yr arfer tâl.

Yna gallwch asesu a yw'r gwahaniaeth cyflog:

  • Oherwydd rhyw deiliad y rôl, ac os felly dylech gymryd camau i'w chau
  • Oherwydd rheswm sy'n rhoi menywod yn gyffredinol dan anfantais o gymharu â dynion ac os felly dylech gynllunio i'w gau oni bai bod gwir angen amdano, ac mae talu pobl yn wahanol yn ffordd briodol ac angenrheidiol o gyflawni'r angen hwnnw.

Mae'n syniad da cadw cofnod o achosion unrhyw wahaniaethau cyflog, p'un a ydych yn meddwl eu bod yn gyfiawn, ac os felly, eich rhesymau gyda thystiolaeth ategol.

Delio ag unrhyw wahaniaethau mewn cyflog na ellir eu cyfiawnhau

Gweithredu polisïau a gweithdrefnau sy'n eich galluogi i sefydlu a chynnal cyflog cyfartal yn eich sefydliad. Bydd ein harweiniad ar weithredu os oes gennych broblem cyflog cyfartal yn helpu.

Cadwch yn gyfoes

Er mwyn sicrhau eich bod yn aros ar y trywydd iawn ac yn parhau i gydymffurfio â darpariaethau cyflog cyfartal Deddf Cydraddoldeb 2010, argymhellir eich bod yn cynnal adolygiad cyflog cyfartal bob dwy flynedd.

Ymwadiad

Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y cyngor hwn yn gywir ac yn gyfredol, nid yw'n gwarantu y gallech amddiffyn hawliad cyflog cyfartal yn llwyddiannus. Dim ond y llysoedd neu'r tribiwnlysoedd all roi dehongliadau awdurdodol o'r gyfraith.

Cysylltwch ag Acas am ragor o wybodaeth

Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth am hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)

Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.

Ewch i wefan Acas

Diweddariadau tudalennau