Ymchwiliad ac asesiad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Ein camau

Rydym yn ymchwilio i weld a yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, neu ei gyflogeion neu ei asiantau, wedi torri cyfraith cydraddoldeb. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n goruchwylio’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Rydym yn amau y gallent fod wedi methu â rhagweld a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl â nam meddyliol yn ystod penderfyniadau asesu iechyd ar gyfer yr asesiadau a’r budd-daliadau canlynol:

  • Asesiadau Gallu i Weithio (WCA) ar gyfer:
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
    • Credyd Cynhwysol (UC)
  • Asesiad PIP ar gyfer:
    • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)

‘Nam meddyliol’ yw’r term a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cynhelir asesiadau iechyd fel rhan o gais am y budd-daliadau a restrir uchod. Penderfyniad asesiad iechyd yw’r penderfyniad a wneir gan aseswyr iechyd ynghylch a oes angen ymgynghoriad neu archwiliad meddygol fel rhan o asesiad iechyd person. Os oes angen, mae hyn yn cynnwys y fformat y dylai ei gymryd megis mewn canolfan iechyd, gartref, trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn.

Rydym hefyd yn asesu cydymffurfiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) wrth ddatblygu, gweithredu a monitro canllawiau polisi sy'n berthnasol i benderfyniadau asesu iechyd.

Darllenwch y Cylch Gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad a'r asesiad

Darllenwch grynodeb Hawdd ei Ddeall o pam rydym yn cynnal yr ymchwiliad a’r asesiad hwn

Arolwg

Agorodd ein harolwg galwad am dystiolaeth am 09.00 ar 22 Mai 2024. Caeodd am 23:59 ar 22 Awst 2024.

Ni allwn ystyried tystiolaeth gan aelodau unigol o'r cyhoedd. Mae’r rhestr isod yn rhoi arweiniad i’r grwpiau y derbyniasom gyflwyniadau ganddynt:   

  • chwythwyr chwiban, a ddiffinnir ar gyfer yr ymchwiliad hwn fel:
    • cyflogeion presennol neu flaenorol yr Adran Gwaith a Phensiynau
    • cyflogeion presennol neu gyn-weithwyr sefydliadau trydydd parti sy’n cynnal asesiadau iechyd ar ran DWP, gan gynnwys Atos (a elwir hefyd yn Wasanaethau Asesu Annibynnol neu IAS), Capita, Maximus (a elwir hefyd yn Ganolfan Asesiadau Iechyd ac Anabledd), Serco, Ingeus
  • elusennau, sefydliadau trydydd sector ac eiriolaeth, gan gynnwys sefydliadau pobl anabl
  • cynghorwyr budd-daliadau lles
  • gweithwyr cyfreithiol proffesiynol
  • gweithwyr meddygol proffesiynol
  • academyddion ac ymchwilwyr

I gael gwybodaeth am sut y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’n bosibl y cesglir rhywfaint o ddata drwy wefan SmartSurvey pan fyddwch yn cwblhau’r arolwg. I gael gwybod mwy am hyn, cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd SmartSurvey. Dim ond am gyfnod cyfyngedig y byddwn yn cadw gwybodaeth ar SmartSurvey.

Ffyrdd eraill o gyflwyno eich gwybodaeth

Os na allwch lenwi’r arolwg hwn oherwydd anabledd a bod angen addasiadau rhesymol arnoch, gallwch:

Beth fyddwn ni'n ei wneud

Bydd ein hymchwiliad yn ystyried a allai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau fod wedi cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Byddwn yn archwilio'r wybodaeth a gyflwynwyd drwy ein harolwg ac yn ystyried a oes angen inni ofyn i ymatebwyr yr arolwg am unrhyw dystiolaeth bellach. Byddwn hefyd yn ystyried gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Law yn llaw â hyn, byddwn yn gofyn i DWP ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol i’n helpu. Disgwyliwn iddynt gydweithredu'n llawn â'n ceisiadau.

Pam rydym yn cymryd rhan

Ni yw rheoleiddiwr Deddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn cymryd camau gorfodi pan fyddwn yn amau y gallai'r gyfraith fod wedi'i thorri.

Ar gyfer yr ymchwiliad hwn, mae ein hamheuon yn ymwneud â:

  • canllawiau polisi DWP ei hun
  • aseswyr yn dilyn canllawiau polisi DWP
  • aseswyr yn defnyddio dull safonol o wneud penderfyniadau asesu iechyd ar gyfer hawlwyr â nam meddyliol
  • canllawiau polisi sy'n achosi neu'n peri toriadau gan aseswyr iechyd

Darllenwch fwy am ein pwerau unigryw.

 

Cymorth

Ni allwn roi cyngor unigol ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol. Ar gyfer cymorth cydraddoldeb a hawliau dynol cyffredinol:

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddolde (EASS):

Ffôn: 0808 800 0082

Neu e-bostiwch gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar wefan EASS.

Gwasanaeth cynghori annibynnol yw EASS, nad yw'n cael ei weithredu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ni allwn roi cyngor am achosion neu broblemau budd-daliadau unigol. Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch, efallai y bydd y sefydliadau isod yn ddefnyddiol:

Cyngor ar Bopeth - Am gyngor annibynnol, rhad ac am ddim a ddarperir gan rwydwaith o elusennau ar-lein, dros y ffôn ac yn bersonol ar amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys budd-daliadau, gwaith, dyledion, tai, teulu a mewnfudo.

Gallwch gysylltu â chynghorydd drwy wasanaeth ffôn cenedlaethol Cyngor ar Bopeth:

Llinell Gyngor (Lloegr): 0800 144 8848 Llinell Gyngor (Cymru): 0800 702 2020

Mae’r Llinell Gyngor ar gael rhwng 9yb a 5yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

StepChange - Am gyngor annibynnol, rhad ac am ddim ar ddyledion.

Rydym yn deall y gallai darllen am ein hymchwiliad godi materion anodd neu ofidus i chi. Os ydych chi'n teimlo'n ofidus neu'n bryderus ac angen siarad â rhywun, cysylltwch â llinell gymorth 24 awr y Samariaid ar 116 123. Gallwch hefyd anfon e-bost at jo@samaritans.org

Ewch i wefan y Samariaid

Cymorth a chyngor cyfrinachol i chwythwyr chwiban:

Protect – Elusen annibynnol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim am chwythu’r chwiban.

Ymchwiliadau blaenorol

Ymchwiliad i Pontins

  Fe wnaethom ymchwilio i weld a oedd Pontins yn gwahaniaethu yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr…

15 Chwefror 2024

Ymchwiliad i'r Blaid Lafur

Fe wnaethom ymchwilio i honiadau o wrthsemitiaeth yn y Blaid Lafur.

29 Hydref 2020