I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- Lloegr
- Alban
- Cymru
Cod Rheoleiddwyr
Rydym yn defnyddio cod y rheoleiddwyr fel ein fframwaith ar gyfer ymgysylltu â'r rhai rydym yn eu rheoleiddio.
Egwyddorion ac amcanion
Mae gennym hefyd set o egwyddorion ac amcanion i arwain ein hymagwedd at reoleiddio.
Egwyddorion
Mae ein hegwyddorion yn datgan y byddwn yn:
- Anelu at siapio dealltwriaeth cymdeithas o heriau newydd ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol. Rhan bwysig o hyn yw gwneud yn siŵr ein bod yn ymwybodol o’r rhwystrau y mae sefydliadau’n eu hwynebu wrth ymgorffori cydraddoldeb a hawliau dynol yn eu gweithgareddau.
- Bod yn ymrwymedig i fod yn agored ac yn dryloyw, gan gyhoeddi ein cynlluniau a’n blaenoriaethau bob blwyddyn i sicrhau bod gan randdeiliaid syniad clir o’n rhaglen waith. Byddwn hefyd yn adrodd yn ôl ar sut rydym wedi cyflawni ein hamcanion.
- Defnyddio ein hystod o bwerau i helpu sefydliadau ac unigolion i gydymffurfio â’r gyfraith a dilyn y safonau ymarfer uchaf. Pan fo angen, byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi ac ymgyfreitha yn gymesur, yn gadarn, yn brydlon ac yn effeithiol.
- Sicrhau bod ein holl gamau gweithredu yn gyson, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gyfiawnadwy ac yn dryloyw. Mae hyn yn cynnwys esbonio pam rydym wedi dewis gwneud rhywbeth neu pam rydym wedi penderfynu peidio â chymryd rhan.
- Defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon, effeithiol ac economaidd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn eu targedu lle byddant yn cael yr effaith fwyaf ac yn osgoi defnyddio mwy o’n pwerau neu adnoddau nag sydd eu hangen.
- Gweithio mewn partneriaeth â busnesau, sefydliadau a rheoleiddwyr eraill. Fodd bynnag, mae ein hannibyniaeth a’n pwerau unigryw yn bwysig a byddwn yn gofalu peidio â rhagfarnu’r rhain.
Amcanion
Mae ein hamcanion yn ein galluogi i benderfynu ar y camau mwyaf priodol i'w cymryd, gan ganolbwyntio ein hadnoddau ar unrhyw beth sy'n rhoi ein hamcanion mewn perygl.
Maent hefyd yn caniatáu i'n gwaith gael ei asesu, felly rydym yn gwybod a ydym yn cyflawni'r canlyniadau gofynnol. Yr amcanion yw:
- Creu cymdeithas sy'n deall ac yn parchu cydraddoldeb a hawliau dynol trwy lunio a dylanwadu ar agweddau ac ymddygiad.
- Gwella cydymffurfiaeth sefydliadau ac unigolion â rhwymedigaethau a dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol.
- Meithrin hyder a dealltwriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
- Diogelu unigolion rhag gwahaniaethu a thorri hawliau dynol.
- Bod yn rheoleiddiwr effeithiol a chredadwy ac yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI).
Mae'r egwyddorion a'r amcanion hyn yn sail i'n polisi ymgyfreitha a gorfodi.
Lawrlwythiadau dogfen
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
28 Mehefin 2021
Diweddarwyd diwethaf
20 Mawrth 2020