Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr

Wedi ei gyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

Diweddarwyd diwethaf: 22 Tachwedd 2017

Mae’r Comisiwn yn darparu gwasanaeth i’r sector cynghori, cyfreithwyr a sefydliadau a fydd yn cefnogi unigolion gyda’u problemau.  

  • ydych chi’n gweithio gyda phobl sydd efallai wedi dioddef gwahaniaethu? 
  • ydych chi’n ansicr a yw rhywun efallai yn gallu cwyno am fater hawliau dynol? 
  • oes rhywun wedi gofyn i chi ei helpu gyda phroblem gwahaniaethu neu hawliau dynol? Hoffech chi drafod unrhyw achos?

Mae arbenigwyr yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gael i’ch helpu.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth ar y ffôn. 

Cysylltu â Chymorth y Comisiwn i Gynghorwyr

Cymru: 029 2044 7790

Lloegr: 0161 829 8190

Yr Alban: 0141 228 5990

Mae’r gwasanaeth ar gael o fewn oriau swyddfa craidd.

Rhowch wybod i ni os ydych am addasiad rhesymol i gael mynediad i’r gwasanaeth.

Adnoddau

Rydym wedi trefnu’r dolenni i’n deunyddiau cyfredol a ffynonellau detholedig eraill mewn un man.

Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr: adnoddau

Help i unigolion

Gwasanaeth i’r sector cynghori yw hwn. Dylai aelodau unigol y cyhoedd gysylltu â’r gwasanaeth cynghori a chymorth cydraddoldeb (EASS).

Mae EASS yn gwbl annibynnol o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. 

Dywedwch wrthym sut y gallwn eich helpu

Llenwch ein harolwg byr i ddweud wrthym yr hyn yr ydych yn dymuno gan y llinell gymorth. Rydym am ganfod a fyddwch chi’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaeth a’r hyn yr ydych yn dymuno oddi wrtho ac a yw’r adnoddau ar-lein yn ddefnyddiol.

Llenwi’r arolwg

Hygyrchedd

Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch i gael mynediad i Gymorth y Comisiwn i Gynghorwyr, gallwch anfon e-bost atom:

Cymru: Walesadvisersupport@equalityhumanrights.com

Lloegr: Englandadvisersupport@equalityhumanrights.com

Yr Alban: Scotlandadvisersupport@equalityhumanrights.com

Sylwer na allwn dderbyn bwndeli o ddogfenni, na manylion personol yr unigolyn yr ydych yn ei gynghori.

Gall defnyddwyr BSL gael mynediad i SignVideo.

 

Diweddariadau tudalennau