Arweiniad
Cymorth i faterion traws
Wedi ei gyhoeddi: 6 Gorffenaf 2018
Diweddarwyd diwethaf: 6 Gorffenaf 2018
I unrhyw un sydd yn delio â materion traws neu’n teimlo’n ansicr ynglŷn â’u rhywedd gall fod yn amser dryslyd, ond ni ddylai fod yn gyfnod unig.
Mae’n bwysig siarad am eich gofidion a’ch teimladau, ac mae amryw sefydliadau ar lefel gwladol, rhanbarthol a lleol sydd yn gallu cynnig cymorth. Gweler ein rhestr o sefydliadau cymorth, isod.
Newid yw pob bywyd: hanes Philippa ac Elley
Cyn iddi drawsnewid, daeth Philippa York yn bedwerydd yn Tour de France 1984. Mae Philippa yn siarad â’r cefnogwr seiclo, Rhyddid, a’r actifydd traws a newyddiadurwraig, Elley West, am ei thrawsnewidiad.
Sefydliadau cymorth
Isod, mae rhestr o sefydliadau sydd yn gallu cynnig cymorth ar lefel gwladol. Efallai, gallant eich cysylltu â gwasanaethau cymorth lleol, os dyna yw’ch dymuniad.
TransWiki
Cyfeiriadur cynhwysfawr yw TranzWiki o’r grwpiau sydd yn ymgyrchu dros, cefnogi neu gynorthwyo unigolion traws ac unigolion nad ydynt yn cydymffurfio â rhywedd, gan gynnwys y rheini sydd yn anneuaidd a’r rhai nad ydynt yn ymwneud â rhyw benodol, yn ogystal â’u teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig
Ymwelwch â gwefan TransWiki (yn agor ffenest newydd)
TransUnite
Gall TransUnite eich cysylltu â rhwydwaith sefydledig o grwpiau cymorth traws yn eich rhanbarth.
Ymwelwch â gwefan TransUnite (yn agor ffenest newydd)
Mermaids
Grŵp cymorth yw Mermaids i blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn wahanol o ran rhywedd, a’u teuluoedd.
Ymwelwch â gwefan Mermaids (yn agor ffenest newydd)
Switchboard LGBT+ Helpline
Mae Switchboard LGBT+ Helpline yn darparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaeth atgyfeirio i’r gymuned LGBT.
Ymwelwch â gwefan Switchboard LGBT+ Helpline (yn agor ffenest newydd)
Scottish Trans Alliance
Gall Scottish Trans Alliance gyfeirio at ffynonellau cymorth leol.
Ymwelwch â gwefan Scottish Trans Alliance (agor ffenest newydd)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
6 Gorffenaf 2018
Diweddarwyd diwethaf
6 Gorffenaf 2018